Total Pageviews

Friday 29 December 2006

Edrych mlaen ac edrych nol...


Y Cymro - 29/12/06

Parhau i edrych yn ôl dros y flwyddyn sy’n prysur ddirwyn i ben fyddai'r wythnos hon, yn ogystal â rhoi blas o’r hyn sydd i ddod.

Y cwmni phlesiodd i fwya cyson yn ystod y flwyddyn oedd Clwyd Theatr Cymru. Roedd safon eu cynhyrchiadau yn arbennig o dda, a bron i bob cynhyrchiad yn taro deuddeg mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Llyfnder a chast cry drama Harold Pinter ‘The Birthday Party’ gyda pherfformiadau cofiadwy gan Trystan Gravelle a Steffan Rhodri; Ehangder ac angerdd yr ensemble o actorion yn ‘The Grapes of Wrath’ gyda Lynn Hunter yn gry’ fel mam y teulu ac yna awyrgylch emosiynol a dirdynnol Berlin a Bethlehem yn ‘Memory’ gyda phortread sensitif Vivien Parry o’r nain yn cael ei gorfodi i ail-fyw ei hatgofion am yr Ail Ryfel Byd.

Mi ges i’m mhlesio ar lefel amatur hefyd drwy fwynhau cynhyrchiad Theatr Fach Llangefni o ‘Golff’ a chynhyrchiad myfyrwyr Cwrs Celfyddyd Perfformio Coleg Menai o ‘Little Children’ - chwa o awyr iach, gan obeithio bydd yr actorion yn cael y cyfle i droedio llwyfannau pellach yn y dyfodol.

Siom arall oedd trydedd flwyddyn ein Theatr Genedlaethol sydd wirfawr angen newid cwys rhag diflasu a chynddeiriogi ei chynulleidfa. Diddychymyg a di-liw oedd ‘Wrth Aros Beckett’ a ‘Diweddgan’ a fedrai mond diolch am gynhyrchiad Daniel Evans o ‘Esther’ roddodd rhyw lygedyn o obaith yn y duwch cyson. Wrth edrych ymlaen am y flwyddyn newydd, rhaid cyfaddef bod dau ddewis nesaf y cwmni eto’n saff a syrffedus. Parhau efo’u tymor o glasuron wnânt nhw gan droi at y Gymraeg yn gyntaf gydag addasiad llwyfan Siôn Eirian o nofel y diweddar Islwyn Ffowc Elis ‘Cysgod y Cryman’. Bydd y cynhyrchiad yn teithio drwy Gymry yn ystod mis Chwefror a Mawrth gan orffen eu taith yn Theatr Bloomsbury, Llundain ar Ebrill 5ed. ‘Dyma chwip o stori dda, ar gynfas mawr a chydag oriel o gymeriadau lliwgar, i ddod ag afiaith rhyfeddol y cyfnod yn fyw i lwyfannau Cymru’ yn ôl adran farchnata’r cwmni. Mae’r cast yn cynnwys Lisa Jen Brown, Owen Garmon, Bethan Wyn Hughes, Iola Hughes, Carwyn Jones, Betsan Llwyd, Fflur Wyn Owen, Christine Pritchard, Iwan Tudor, Dyfan Roberts, Simon Watts, Llion Williams ac eto fyth, Owen Arwyn. Tybed fedra ein Theatr Genedlaethol gynhyrchu drama heb Owen Arwyn?! Cefin Roberts fydd yn cyfarwyddo, gan ddefnyddio set Martin Morley, goleuo Tony Bailey Hughes a cherddoriaeth Gareth Glyn. Wedi troedio Dyffryn Aerwen yn y 1950au, bydd y Theatr Genedlaethol wedyn yn mynd â ni i Ffrainc yn yr ail-ganrif ar bymtheg ar gyfer eu hail-Glasur sef ‘Cariad Mr Bustl’ cyfieithiad newydd Gareth Miles o ddrama Moliere 'Le Misanthrope'. Bydd y cynhyrchiad yma yn teithio ym mis Mai a Mehefin, heb Owen Arwyn gobeithio!!

Doedd cynhyrchiad cynta’r flwyddyn Llwyfan Gogledd Cymru sef y ddrama gerdd heb ganeuon ‘Theatr Freuddwydion’ ddim yn plesio chwaith, ond diolch byth am eu cynhyrchiad olaf sef ‘Branwen’ gododd fy ngobaith, ac sy’n haeddu’r ganmoliaeth ucha’. Eto, perfformiadau cry’ gan Ffion Dafis a Dafydd Dafis, a bydd cyfle arall i weld y cynhyrchiad tua mis Mai yn y flwyddyn newydd. Edrych ymlaen hefyd at gynhyrchiad y cwmni o ddrama newydd Iwan Llwyd ‘Nid oes gennym hawl ar y sêr’ sy’n ymdrin â dyddiau olaf bywyd y bardd enwog Hedd Wyn.

Bu hi’n flwyddyn brysur arall i Theatr Bara Caws efo sawl cynhyrchiad yn teithio ac ar y cyfan yn plesio. O’r sioe glybiau arferol i’r comedïau gwreiddiol sy’n ffres ac yn dennu cynulleidfa. Yn y flwyddyn newydd, bydd na dinc deheuol iawn i’w cynhyrchiad nesaf sef ‘Gwaun Cwm Garw’ addasiad Sharon Morgan o ddrama Mosies Kaufman ‘The Laramie Project’. Bydd y cynhyrchiad ar daith ym mis Mawrth. ‘Yn dilyn llofruddiaeth erchyll mewn tref wledig rhoddwyd cymuned gyfan ar brawf. Dilyna’r ddrama ymdrech criw o actorion i wneud synnwyr o lofruddiaeth gwr ifanc hoyw gan gyflwyno tystiolaeth tros 60 o gymeriadau yn eu geiriau eu hunain.’ Mae’r cast yn cynnwys Geraint Pickards, Maria Pride a Delyth Wyn gyda Catrin Edwards yn cyfarwyddo.

Digon i godi blas felly gan obeithio y bydd hi’n Flwyddyn Newydd Dda ar lwyfannau Cymru!

Friday 22 December 2006

Edrych nol dros 2006


Y Cymro - 22/12/06

Dros y bythefnos nesaf, mi fyddai’n edrych yn ôl dros y flwyddyn a fu ac yn edrych ymlaen at yr hyn fydd i’w weld ar ein llwyfannau yn y flwyddyn sydd i ddod. Bu hi’n flwyddyn hynod o weithgar o ran y cynnyrch theatrig a minnau wedi bod yn cadw llygad ar 27 o gynyrchiadau drama a 26 cynhyrchiad o ddramâu cerdd!

O ran y cynyrchiadau a fu, un o sêr y flwyddyn i mi fu Daniel Evans a roddodd inni’r cynhyrchiad gwych o ‘Esther’ nôl ym mis Ebrill. Yn union wedi gorffen cyfarwyddo, rhaid oedd i Daniel fynd yn ôl i Lundain er mwyn ail-lwyfannu’r ddrama gerdd ‘Sunday in the Park with George’. Cefais fy nghyfareddu gan ei berfformiad graenus fel yr arlunydd Georges Seurat yn y ddrama gerdd hon o waith Stephen Sondheim. Cafodd y sioe ei selio ar ddau ddarlun enwocaf a gwrthgyferbyniol Seurat sef ‘Ymdrochwyr yn Asnières’ a ‘Prynhawn Sul ar Ynys La Grande Jatte’; - un yn dangos criw o fechgyn dosbarth gweithiol yn ymlacio ger yr afon Seine ym Mharis, tra bod y llall yn darlunio’r crach yn gwylio’r bechgyn yn ddirmygus ar ochor arall yr afon. Gwelsom y gwrthgyferbynu yma hefyd yn nwy Act y ddrama - y gyntaf yn ein tywys i 1886, a’n cyflwyno i’r ‘cymeriadau’ sydd yn y darluniau, tra bod yr ail yn bwrw golwg gyfoes ar waith ac arddull yr artist drwy lygaid ei ddisgynyddion. Yr hyn sy’n plethu’r cyfan yw’r berthynas rhwng y ddau brif gymeriad sef Daniel ac eilun addoliad yr artist sef ‘Dot’ - Jenna Russell. O’r eiliadau cyntaf, hoeliodd y ddau sylw’r gynulleidfa, a’u tynged sy’n bwrw’r stori ymlaen tuag at y diweddglo emosiynnol ar sawl lefel.

Roeddwn i’n falch iawn o weld bod Daniel yn ogystal â Jenna Russell wedi’u henwebu ar gyfer y ‘Theatregoers' Choice Awards’ fel yr actorion gorau mewn drama gerdd yn ystod y flwyddyn. Pob lwc iddyn nhw, a phob lwc hefyd i’r Gymraes Connie Fisher sydd hefyd wedi’i henwebu yn yr un categori am ei rhan fel Maria yn y sioe ‘The Sound of Music’. Y Cymry yn hawlio’u lle heb os ar lwyfannau Llundain! Actores arall sydd ar yr un rhestr yw Idina Menzel fydd yn gorffen ei chyfnod fel y wrach ddrwg yn y sioe ‘Wicked’ ddiwedd y flwyddyn. Os na gawsoch y cyfle i weld y sioe hon hyd yma, mynnwch eich tocynnau rwan - a cheisiwch ei weld tra bod Idina yn y brif ran. Dyma lais unigryw a lenwodd y theatr nes gyrru iâs oer i lawr fy nghefn. Mae’r sioe i’w gweld yn theatr yr Apollo Victoria, a hawdd iawn credu bod y sioe wedi costio saith miliwn o bunnau i’w llwyfannu! Bu’n llwyddiant ysgubol ar Broadway ers agor yn 2003, gan ennill sawl Gwobr theatr nodedig fel y ‘Tony’ a’r ‘Grammy’ a hynny am bob agwedd o’r cynhyrchiad. Mae’r ddrama gerdd yn seiliedig ar nofel Gregory Maguire sy’n adrodd hanes y wrach ddrwg o’r Gorllewin, yng ngwlad hudolus Oz. Dyma stori sy’n rhagymadrodd i’r ffilm enwog Y Dewin Oz, sydd mor gyfarwydd i bob aelod o’r teulu.

Ym mis Awst, mi dreuliais i wythnos yng Ngŵyl Ryngwladol ac Ymylol Caeredin, gan brofi sawl gwefr o’r môr o gynnyrch sydd i’w weld yno. Un cynhyrchiad a barodd imi chwerthin fwya yn ystod fy ymweliad â’r Alban oedd ‘Floating’ - cyd-gynhyrchiad rhwng cwmni Hoipolloi a chynyrchiadau Hugh Hughes. Cyflwynwyd y sioe gan Hugh Hughes (Shôn Dale-Jones) a’i gydymaith Sioned Rowlands (Jill Norman) sy’n ein tywys yn ôl i’r 1af o Ebrill 1982, pan gafodd Sir Fôn ei hysgwyd gan ddaeargryn enfawr, nes peri i’r pontydd ddymchwel a’r fam-ynys yn cael ei ddatgysylltu oddi wrth y tir mawr. Wrth iddi ddechrau arnofio draw am y moroedd mawr, mae’r trigolion sy’n dal arni yn ceisio gwneud popeth i achub y sefyllfa. Cawn hanes eu hymdrech i gasglu holl gynfasau gwely ar draws yr ynys, gan ddod â’r cwbl ynghyd i stad ddiwydiannol yn Llangefni er mwyn eu gwnïo at ei gilydd, gyda’r bwriad o greu hwyl enfawr i’w gosod ar ben Tŵr Marcwis! A sôn am hwyl, roedd perfformiadau egniol y ddau actor yn werth eu gweld wrth gyflwyno hanes a chefndir Sir Fôn i’r gynulleidfa Ryngwladol yn yr Alban. Braf yw cael cyhoeddi bod y cwmni am ail-deithio’r cynhyrchiad yn y flwyddyn newydd, ond yn anffodus does dim ymweliadau â Chymru ar y daith hyd yma. Bydd y cwmni yn ymweld â Plymouth ym mis Ionawr, Eastleigh ac Ipswich ac Efrog Newydd ym mis Chwefror a Lerpwl a Llundain ym mis Mehefin.

Nadolig Llawen ichi gyd.

Friday 15 December 2006

'Mary Poppins'




Y Cymro - 15/12/06

A ninnau’n agosáu’n ddyddiol at y Nadolig, mae un peth yn sicr - un ffilm fydd bendant ar gael i’w weld ynghanol y môr o sianeli teledu yw’r clasur o dylwyth Disney - ‘Mary Poppins’.

Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf ym 1964, deg mlynedd ar hugain ers i P.L.Travers ysgrifennu’r stori ddaeth ag enwogrwydd byd-eang iddi. Saith deg mlynedd yn ddiweddarach, yn 2004, fe agorodd y fersiwn lwyfan ohoni yn Theatr y Tywysog Edward yn Llundain, ac ers mis Tachwedd eleni, mae’r ddrama gerdd hefyd i’w gweld ar Broadway.

Mae’n stori syml, ond hynod o drawiadol; hanes gwraig ifanc sy’n cael ei chodi gan y gwynt, gan gyrraedd 17 Cherry Tree Lane, ynghanol dinas Llundain. Wrth setlo efo teulu’r Banks, i ofalu am eu plant, daw’r teulu oll o dan ei dylanwad hudolus, ac fel gyda phob stori dda, mae yna newid er gwell ym mhob aelod o’r teulu erbyn yr amser iddi ymadael.

Ganwyd Pamela Lyndon Travers yn Awstralia, ac fe ysgrifennodd chwe chyfrol yn adrodd hanes y ‘nanny’ unigryw yma, a’i hynt a’i helynt efo’r teulu Banks. Cuddiodd ei rhyw tu ôl i flaenlythrennau ei henw, rhag cael ei diystyru fel awdur benywaidd i blant. Cyfaddefodd Travers bod yna elfen hunangofiannol gref yn y straeon, a hynny’n bennaf o’i hatgofion am ei phlentyndod yn Awstralia, a’r gwragedd fu’n gofalu amdani. Ym 1938, derbyniodd lythyr gan Walt Disney yn gofyn am ganiatâd i addasu’r straeon ar gyfer y Sgrin Fawr, ond gwrthod wnaeth hi, a hynny am nad oedd hi’n credu bod y stori yn gweddu i’r sgrin. Bu gohebiaeth rhwng y ddau am dros ugain mlynedd, nes iddi ildio yn y diwedd. Ym 1993, cyfarfu Travers â Cameron Mackintosh, ac wedi derbyn coeden geirios fel anrheg, fe roddodd ei chaniatâd iddo gynhyrchu fersiwn lwyfan, fyddai’n parchu ei gweledigaeth wreiddiol. Chafodd hi byth weld y sioe orffenedig, gan y bu hi farw ym 1996, yn 97 mlwydd oed.

O nodyn gynta’r gerddorfa, fedrwch chi’m peidio cael eich swyno gan gerddoriaeth ganadwy a chofiadwy Richard M Sherman a Robert B Sherman a’u caneuon fel ‘Chim Chim Cher-ee’, ‘A Spoonfull of Sugar’ a’r enwog ‘Supercalifragilisticexpialidocious!’ Mae’r caneuon newydd o waith George Stiles ac Anthony Drewe hefyd yn ychwanegu llawer at y sioe wych hon, yn enwedig y gân ‘Temper Temper’ sy’n cael ei ganu yn llofft y plant, wrth i’r holl deganau ddod yn fyw a’i dychryn nhw. Yn wahanol i’r ffilm, mae yma lawer mwy o elfennau tywyll yn y sioe lwyfan, sy’n cadw naws y straeon gwreiddiol. Y cerfluniau’n dod yn fyw yn y parc, y teganau yn dial ar y plant yn y llofft a’r nani flin Miss Andrew, sy’n dod i ofalu am y plant, ar gychwyn yr Ail Act.

Er cystal y perfformiadau gwych gan Lisa O’Hare fel ‘Mary Poppins’ a Gavin Creel fel ‘Bert’, seren y sioe i mi oedd set chwaethus Bob Crowley sy’n profi pa mor bwerus â theatrig y gall sioe dda fod. Wrth i gartref y Banks wahanu neu godi neu gilio, mae’r llwyfan yn cael ei weddnewid yn gyson gan fynd â ni o’r lolfa i’r llofft, o’r gegin i’r to, ac o’r parlwr i’r parc. Roedd hi’n bleser hefyd cael syllu mewn syndod ar goreograffi slic Matthew Bourne, a chyfarwyddo medrus Richard Eyre. Roedd y gymeradwyaeth hir a chynnes gafodd y cast ar ddiwedd y sioe yn dweud y cyfan.

Os am wefr y Nadolig hwn, anghofiwch y teledu, a mynnwch eich tocyn i weld y sioe liwgar a chofiadwy hon - tasa fo ond i weld yr olygfa hedfan ar ddiwedd y sioe!

Friday 8 December 2006

'Hen Bobl Mewn Ceir'


Y Cymro - 8/12/06

Rhyw gyfnod o ddal-i-fyny y bu hi i mi’n ddiweddar, gan fod cynifer o gynyrchiadau yn teithio, a minnau’n ceisio cramu cymaint i mewn ag y medrai. Perfformiad olaf-ond-un Sgript Cymru o’r ddrama ‘Hen Bobl Mewn Ceir’ aeth â hi'r wythnos hon - ac yn wir, roedd hi’n bwrw hen wragedd a ffyn wrth imi wibio draw am Harlech yn y car! Oherwydd y tywydd, doedd gen i fawr o awydd mynd - ond mynd bu raid, a hynny am fod gen i barch mawr at awdur y ddrama Meic Povey.

Wrth ‘yrru yn y glaw, cofiais am rai o gynyrchiadau cwmni Dalier Sylw o waith Povey yn y gorffennol, cynhyrchiadau oedd wedi cael dylanwad arnaf; hanes y ddau gariad Tom (Dafydd Dafis) a Steff (Danny Grehan) a’u carwriaeth ‘anghonfensiynol’ yn ‘Wyneb yn Wyneb’ nôl ym 1993; Defi (Owen Garmon) a Mair (Christine Pritchard) yn gaeth i’w cynefin a’u hatgofion yn ‘Fel Anifail’ ym 1995; tynged deuluol y nain (Lis Miles), y fam (Betsan Llwyd) a’r ferch (Catrin Powell) wedyn yn ‘Tair’ ym 1998; a phortread bythgofiadwy'r diweddar unigryw Beryl Williams o ‘Nel’ yn y ffilm o’r un enw gan gwmni Opus i S4C.

‘Fel hen bobl mewn ceir, profi’r byd o bell yw hanes Roy a Ceri’ - a dyna dderbyn eglurhad am deitl annelwig y ddrama, ar daflen hysbysebu’r cwmni. Mae ‘Roy’ (Alun ap Brynley) yn gweithio fel nyrs mewn hosbis ac oherwydd gwaeledd un o’i gyd-weithwyr, daw wyneb yn wyneb â nyrs sy’n dod i’w gynorthwyo sef ‘Ceri’ (Eiry Hughes). Wrth i’r ddau ddod i nabod ei gilydd, mae’n amlwg fod y ddau’n gaeth i’w sefyllfaoedd - Roy oherwydd ei fam fusgrell a Ceri mewn priodas ddi-ryw. Fel gyda holl gymeriadau Povey, drwy geisio newid pethe, mae chwarae’n troi’n chwerw, a’r ddau yn cael eu gorfodi i wynebu realiti.

Fel un o’n prif ddramodwyr, allwn i’m disgwyl llai na strwythr cryf i’r ddrama, ac fe gafwyd hynny; yn ogystal â deialog fyrlymus oedd yn llifo o enau’r ddau actor - llifo mor sydyn gyda llaw, nes peri i’r ddrama fod ar ben mewn cwta awr! Ond, roedd yma hefyd wendidau. Yn gyntaf, roedd hi’n anodd gennai gredu y byddai’r ddau gymeriad yma yn magu teimladau mor angerddol tuag at ei gilydd mewn cyn lleied o amser. Roedd yna fai mawr hefyd ar y castio, gan nad oedd y ddau yn gweddu i’w gilydd o gwbl. Roedd Eiry lawer rhy ifanc i Alun, ac Alun ddim digon deniadol i Eiry. Fe amharodd hyn yn fawr ar fy mwynhad o’r ddrama. Wrth edrych yn ôl ar fy ngholofn yn Y Cymro ym mis Mehefin eleni, wedi derbyn datganiad gan Sgript Cymru yn sôn am y ddrama, mi welis i’r disgrifiad canlynol : “Mae Roy yn nyrs 59 mlwydd oed… Mae Ceri, (yn) nyrs gynorthwyol 39 mlwydd oed…” - a dyna’r gwendid. Am ba reswm bynnag, fe fu newid er gwaeth, a chamgymeriad mawr oedd peidio cael actores hŷn a phrofiadol i wneud y rhan.

Digon di-liw a diddychymyg oedd cyfarwyddo Elen Bowman, Cynllunio Ben Anderson a Chynllun Goleuo Elanor Higgins. Pam, o pam, na ewch chi weld cynhyrchiadau safonol boed yn Llundain, Dulyn neu Gaeredin mond i WELD pa mor effeithiol y gall goleuo gofalus a chyfarwyddo creadigol fod?. Dwi’n siŵr nad oes yr un hosbis yn cael ei lanhau gymaint ag oedd yr offer yn y cynhyrchiad yma, a’r actorion druan yn gorfod canfod rhywbeth i’w wneud byth a beunydd. Oni fasa’i cael tegell a deunydd gwneud paned wedi torri ar undonedd y glanhau tragwyddol? Roedd elfennau o’r llwyfannu yn fy atgoffa o waith Bethan Jones ar y ddrama ‘Wyneb yn Wyneb’ dair blynedd ar ddeg yn ôl, gyda’r fam ‘Laura’ (Olwen Rees) yn cerdded mewn siâp sgwâr ar gychwyn ac ar ddiwedd y ddrama, gyda phob ongl o’i llwybr wedi’i oleuo yn unigol a gwahanol, a thu hwnt o effeithiol. Dowch laen bois bach, defnyddiwch fymryn o ddychymyg!

Rhyw gymeradwyaeth ddigon tila a gafwyd gan y cwta ugain ohonom yn Theatr Ardudwy; doedd y tywydd ddim yn help, ond mae’n rhaid i’r cwmni ysgwyddo’r cyfrifoldeb hefyd. Er imi brynu copi o’r sgript, a chael cryn foddhad o weld strwythr ac adeiladwaith Povey, fydd hi ddim yn cael ei chofio fel un o’i ddramâu gorau; ond mae’r parch yn aros.

Friday 1 December 2006

'Branwen' a 'Memory'


Y Cymro - 1/12/06

Ddigwyddodd na rywbeth rhyfedd imi'r wythnos hon. Mi ges i wefr mewn cynhyrchiad theatr Cymraeg! I Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli oedd rhai mynd er mwyn dal perfformiad olaf-ond-un o gynhyrchiad diweddara Llwyfan Gogledd Cymru o ‘Branwen’ gan Ifor ap Glyn a Darach Ó Scolaí. A bod yn onest, roedd gen i ofn wrth ‘yrru draw am Ben Llŷn, a hynny am ddau reswm : yn gyntaf oherwydd y llythyrau a ymddangosodd yn Y Cymro yn cwyno am ‘yr iaith gref’ a’r ail reswm, am fy mod i’n cyd-weithio’n ddyddiol efo Ifor ap Glyn!

Stori gyfoes sydd yn y ddrama am ddau gyfaill o ddyddiau coleg yn Aberystwyth; Mari (Ffion Dafis) sy’n gweithio fel awdures yng Nghymru a’r Seán (Stephen D’Arcy) sy’n awdur yn Iwerddon. Mae’r ddau yn cael eu tynnu ynghyd unwaith eto gan y cynhyrchydd teledu Eifion Bowen (Dafydd Dafis) i gyd-weithio ar fersiwn animeiddiedig o chwedl Branwen. Wrth ddod wyneb yn wyneb, hawdd yw cynnau tân ar hen aelwyd, a daw sawl cyfrinach i’r amlwg, fydd yn effeithio perthynas Seán a’i wraig (Bridin Nic Dhonncha) am byth.

Allwn i’m llai na rhyfeddu at gyd-actio gwych y pedwarawd yma, yn llithro o un olygfa i’r llall, gan fynd â ni ar daith o Gymru i’r Iwerddon ac yn ôl, wrth olrhain eu hanes. Roeddwn i’n dotio at aeddfedrwydd portread Ffion Dafis o’r Mari wyllt, (neu’r ‘Branwen’ chwedlonol), ac yn edmygu gallu Dafydd Dafis wrth orfod adrodd chwedl Branwen yn ei chyfanrwydd wrth Seán, a hynny’n ofer! Cynnildeb ac angerdd Stephen D’Arcy wedyn wrth iddo yntau lithro o’r Wyddeleg i’r Saesneg, er mwyn ceisio achub ei berthynas â’i wraig, ac erfyn am faddeuant gan Mari. Dyma bedwar perfformiad am y gorau imi’i weld ar lwyfan yng Nghymru eleni, a chlod mawr i’r actorion, yr awduron a’r cyfarwyddwyr Ian Rowlands a Darach Mac Con Iomaire am hynny.

Ac o sôn am Ian Rowlands, wel dyma enghraifft arall o’i ddawn arbennig i greu sioe theatrig drwy gyfuno set foel a thaflunio delweddau drwy’r cyfrifiadur arno. Dyma dechneg lwyddiannus welon ni yng nghynhyrchiad blaenorol y cwmni o hanes ‘Frongoch’, ac mae’r cyfanwaith yn llwyddo unwaith eto. Dyma theatr sy’n gwthio’r ffiniau traddodiadol, gan roi gwedd newydd ffres ar lwyfannau Cymru. Dyma’r hyn ddylai fod wrth wraidd ein Theatr Genedlaethol - ffresni a dyfeisgarwch, fel sydd i’w gael yn yr Alban neu Loegr. Gair i gall yn wir…

Ac o ran yr ‘iaith gref’ - oes, mae yma regi, ond roedd y cyfan yn dderbyniol i mi o fewn cyd-destun yr olygfa o wylltineb angerddol rhwng y ddau gyn-gariad. Diolch i’r cwmni am beidio gneud i minnau regi mwy wrth adael y theatr!

Er bod y daith bresennol ar ben, mae sôn am ail-deithio’r cynhyrchiad yn y flwyddyn newydd.

I’r Wyddgrug wedyn, ar gyfer drama wreiddiol arall a hynny gan Gymro o Landrindod, Jonathan Lichtenstein. ‘Memory’ ydi teitl cynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru, ac mae’n adrodd hanes cwmni o actorion sy’n cwrdd mewn ystafell ymarfer, wrth baratoi ar gyfer eu cynhyrchiad diweddaraf.

Mae’r ddrama o fewn y ddrama yn cychwyn mewn fflat yn Nwyrain Berlin ym 1990, ble mae ‘Eva’ (Vivien Parry) yn cwrdd am y tro cyntaf â’i ŵyr ‘Peter’ (Lee Haven Jones) sy’n esgor ar yr atgofion trist a dirdynnol am ei hieuenctid yn ystod yr Ail-Ryfel Byd. O Berlin i’r Bethlehem presennol, ac at hanes yr Iddew ‘Bashar’ (Ifan Huw Dafydd) sy’n derbyn ymweliad gan swyddog Palesteinaidd ‘Isaac’ (Oliver Ryan) i’w hysbysu fod y ffin arfaethedig am gael ei godi ar safle ei gartref presennol. Drwy wibio yn ôl ac ymlaen rhwng y ddwy stori, a’r ddau gyfnod, dyma berl o ddrama sy’n gorfodi’r gynulleidfa i feddwl am y presennol a’r gorffennol, drwy gyfres o olygfeydd trawiadol a dirdynnol. Bydd perfformiad Vivien Parry yn aros yn y cof am amser hir, felly’n wir gyda’r cast i gyd. Clod mawr eto i ddewin arall y byd theatr yng Nghymru - y cyfarwyddwr Terry Hands, am greu cyfanwaith sensitif a chofiadwy.

Bydd y cwmni yn ymweld â Chanolfan Chapter, Caerdydd yr wythnos nesaf rhwng nos Fawrth 5ed o Ragfyr a Nos Sadwrn y 9fed. Byddwch yno!