Total Pageviews

Friday 26 January 2007

'Cantre'r Gwaelod'


Y Cymro - 26/1/07

Cantre’r Gwaelod oedd thema sioe gymuned Aberdaron a’r Cylch y flwyddyn yma, wrth i tua hanner cant o drigolion yr ardal ddod ynghyd i berfformio am ddwy noson yn Ysgol Botwnnog dros y Sul. Yr actores a’r gantores Lowri Mererid oedd yn gyfrifol am y cyfarwyddo, a Huw Erith Williams a Gwenda Williams yn gyfrifol am y sgript a’r caneuon gwreiddiol. Bwrlwm brwdfrydedd a hwyl y criw oedd yn gyfrifol am lwyddiant y sioe sy’n brawf pellach o dalent unigryw ardaloedd Llŷn ac Eifionnydd.

Drwy gyfres o olygfeydd byr a chaneuon i uno’r cwbl ynghyd, fe gawsom gip ar hanes y Cantre unigryw yma, gyda’r brenin a’i deulu yn gwledda a diota, gan beri i Seithennyn y meddwyn mawr esgeuluso ei ddyletswyddau fel ceidwad y morglawdd, ac i’r ddinas gael ei boddi o dan y dŵr. Wrth wylio’r sioe, daeth golygfeydd o’r Tsunami a darodd Asia yn 2004 i gof, gan ddychmygu’r panic a’r pryder fyddai’n sicr o fod wedi bod mor amlwg yn y ddau le. Diwedd y sioe oedd unig wendid y cynhyrchiad gan fod y cyfan yn dod i ben mor sydyn drwy un gân ddigyfeiliant. Collwyd y cyfle i gyfleu golygfa llawn emosiwn a thristwch o’r ddinas a’i thrigolion wrth iddynt suddo o dan y dŵr gan adael y clychau yn canu am byth.

Gan nad oedd sôn am raglen i enwi’r unigolion a gymerodd ran, byddai’n annheg imi enwi ambell i wyneb cyfarwydd ynghanol y môr o wynebau. Cafwyd sawl cameo arbennig iawn fel y teulu brenhinol - yn enwedig y ferch a’i nain feddwol (oedd yn fy atgoffa o deulu brenhinol arall llawer mwy diweddar!) ac ysgrifennydd y llys wrth geisio cyfansoddi’r gwahoddiadau i’r Wledd. Roedd Seithennyn ei hun a’i lais swynol a’r criw ifanc oedd yn ein tywys drwy’r stori i gyd yn ychwanegu at lwyddiant y cyfanwaith hwn. Clod mawr i Huw Erith am ei ddawn i greu sgript gomedi gre’ a chyfoethog o dafodiaith Llŷn oedd yn bleser i’w glywed ac yn donic ar Nos Sul gwlyb iawn!

Dwi am aros yn yr ardal yma er mwyn llongyfarch Huw Geraint Griffith o ardal Cricieth wedi iddo ennill gwobr arbennig am ei gyfraniad i fyd y ddrama gerdd, sef Gwobr HUGO a gafodd ei gyflwyno iddo yn Theatr Upstairs at the Gatehouse yn Llundain yr wythnos diwethaf. Mae Huw sy’n byw ac yn gweithio yn Llundain wedi bod yn rhan allweddol o sawl cynhyrchiad theatr yn y Gatehouse sef gofod theatr arbennig sy’n cynnig cyfle i gwmnïau fedru arbrofi gydag unrhyw sioe newydd cyn mentro ymhellach.

Llongyfarchiadau unwaith yn rhagor i Daniel Evans sydd wedi derbyn enwebiad am un o Wobrau Olivier am ei bortread o’r arlunydd George Seurat yn y ddrama gerdd o waith Sondheim ‘Sunday in the Park with George’. Yn ogystal ag enwebiad am yr actor gorau mewn drama gerdd, mae’r sioe wedi derbyn sawl enwebiad am elfennau gwahanol o’r cynhyrchiad. Bydd rhaid aros tan Chwefror 18fed cyn cael gwybod pwy fydd wedi ennill. Ym mis Chwefror hefyd gawn ni glywed os fydd Daniel a Connie Fisher yn llwyddiannus yng Ngwobrau ‘What’s on Stage’ wedi i’r ddau gael eu henwebu gan y cyhoedd.

Cofiwch am y sioeau sydd i’w gweld yr wythnos hon sef Meini Gwragedd gan Gwmni Cydweithredol Troed-y-Rhiw yn Neuadd Goffa Tregaron Nos Wener 26ain a Nos Sadwrn 27ain am 8.00yh. Bydd cwmni Theatr y Crwys hefyd yn perfformio eu panto ‘Del Eila a’r Cwangosiaid’ ar nos Sadwrn y 27ain yn Theatr Capel Crwys, Caerdydd am 2.30yh a 7.30yh.

Friday 5 January 2007

Edrych mlaen...


Y Cymro - 5/1/07

Anodd credu bod ugain drama gerdd newydd wedi agor yn y West End y llynedd, ac mae’n edrych yn debygol y bydd 2007 yr un mor llewyrchus. Yn dilyn llwyddiant y sioe deledu ‘How do you solve a problem like Maria?’ er mwyn dewis y prif gymeriad ar gyfer y sioe ‘The Sound of Music’, mae Andrew Lloyd Webber yn chwilio eto am seren newydd. Y tro yma, yr hogia fydd yn cystadlu yn ‘Any Dream will Do’ er mwyn canfod y prif gymeriad ar gyfer ei gynhyrchiad newydd o ‘Joseff a’i Gôt Amryliw’.

Bydd David Ian, a fu’n cyd-gynhyrchu ‘The Sound of Music’ yn lansio cyfres arall efo Simon Cowell er mwyn dewis y cast ar gyfer cynhyrchiad newydd o ‘Grease’ fydd yn agor yn Llundain yn yr Haf. Yn ôl Cowell, ‘Grease yw’r ddrama gerdd orau ar y blaned’ a does na’n ddwywaith y bydd na gryn gystadlu am rannau’r ddau brif gymeriad sef Danny a Sandy a gafodd eu hanfarwoli gan Olivia Newton-John a John Travolta yn y ffilm o’r 1970au. Yn sgil llwyddiant Connie Fisher, gobeithio y gwelwn ni’r Cymry yn dod i’r brig eto.

Braf yw clywed bod Daniel Evans ar fin cychwyn ymarfer drama gan Peter Gill o Gaerdydd sef ‘Certain Young Men’, a chofiwch am yr unigryw Rhys Ifans sydd i’w weld ar hyn o bryd yn y Donmar Warehouse yn addasiad Patrick Marber o ‘Don Juan in Soho’. Cymro arall sydd hefyd bellach ar lwyfan yn y West End ydi Owain Arthur yn rhan o gast cynhyrchiad teithiol y National Theatre - ‘The History Boys’ gan Alan Bennett. Hanes criw o hogia chweched dosbarth yn trafod rhyw, chwaraeon a phrifysgol ydi thema’r ddrama, ynghyd â’u hathrawon sydd gyn waethed bob tamaid â’r disgyblion! Mae’r ddrama eisioes wedi bod ar daith a bellach wedi setlo yn Theatr Wyndham.

Ac o aros yn y West End, cofiwch am y sioeau canlynol sydd ar fin agor : drama bwerus Peter Schaffer am seiciatrydd sy’n ceisio rhoi triniaeth i fachgen ifanc sydd ag obsesiwn am geffylau sef ‘Equus’. Bydd y cynhyrchiad yn agor fis Mawrth yn Theatr Gielgud efo seren ffilmiau Harry Potter - Daniel Radcliffe a Richard Griffiths, o dan gyfarwyddyd Thea Sharrock. I ffans o waith JRR Tolkien, bydd y fersiwn lwyfan o ‘Lord of the Rings’ yn agor yn Theatr Frenhinol Drury Lane yn mis Mehefin.

Mae’r enwau mawr hefyd yn dal i gael eu denu gan ein llwyfannau fel y canwr Wil Young fydd yn ymddangos yn y Royal Exchange, Manceinion yn nrama Noel Coward ‘The Vortex’ . Bydd Billie Piper yn ymddangos yn Theatr y Garrick mewn drama gan Christopher Hampton ‘Treats’ ym mis Chwefror; Y Fonesig Maggie Smith wedyn yn troedio llwyfan Theatr yr Haymarket ym mis Mawrth mewn drama am yr afiechyd canser wedi chyfansoddi gan Edward Albee - ‘The Lady from Dubuque’. Os am weld Joanna Lumley mewn cynhyrchiad o ddrama Chekhov ‘Y Gelli Geirios’ o dan gyfarwyddyd Jonathan Miller, yna bydd rhaid ichi fynd draw am i’r Crucuble yn Sheffield. Bydd Syr Ian McKellen yn ymuno â Chwmni’r Royal Shakespeare ar gyfer eu cynhyrchiad newydd o’r ddrama ‘Y Brenin Llyr’. A da yw clywed bod Andrew Lloyd Webber yn gweithio ar ddrama gerdd newydd sef addasiad o ‘The Master and Margarita’ gan Mikhail Bulgakov sy’n adrodd hanes y diafol wrth iddo ymweld â dinas gyfoes gan ystyried pa ddrygioni y mae’n gallu ei greu yno. Mae Stephen Pimlott wedi’i ddewis i’w gyfarwyddo, ond welwn ni ddim mo’r cynhyrchiad yma tan 2008!

Nôl i 2007, a newyddion da i ffans Victoria Wood, mae ‘Acorn Antiques’ y ddrama gerdd yn seiliedig ar ei chyfres gomedi o’r un enw yn teithio ar hyn o bryd. Bues i’n ddigon ffodus i weld y fersiwn wreiddiol y llynedd gyda Julie Walters, Celia Imrie, Neil Morrissey a’r Cymro Gareth Bryn o Ddyffryn Clwyd. Dyma sioe barodd imi chwerthin yn uchel. Yn anffodus, tydi’r actorion gwreiddiol ddim yn teithio y tro yma, ond newyddion da i’r Cymry unwaith eto gyda'r gantores Ria Jones yn portreadu'r anfarwol ‘Mrs Overall’!