Total Pageviews

Friday 30 March 2007

'Total Eclipse'


Y Cymro - 30/3/07

Dros yr wythnosa’ nesa, fyddai’n taro’n llygad ar ddwy sioe sydd i’w gweld yn Llundain ar hyn o bryd. Y ddwy yn wahanol iawn o ran eu llwyfannu a’u llwyddiant. Dwi am gychwyn efo sioe sydd wedi’i hagor yn swyddogol yr wythnos hon sef cynhyrchiad y Menier Chocolate Factory o stori garu dywyll yr amryddawn Christopher Hampton - ‘Total Eclipse’.

Mae’r ddrama yn adrodd hanes perthynas angerddol a threisgar dau fardd Ffrengig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sef Arthur Rimbaud a Paul Verlaine. Mae Verlaine (Daniel Evans) yn byw efo’i wraig ifanc feichiog Mathilde o dan ormes ei rhieni cyfoethog, ond mae ei fywyd yn cael ei wyrdroi pan gyrhaedda’r athrylith o fardd ifanc Rimbaud (Jamie Doyle). Caiff Verlaine ei hudo gan ei brydferthwch a’i allu rhyfeddol, ac mae’n dewis gadael ei fywyd ceidwadol parchus er mwyn ffoi gyda’r gŵr ifanc. Dilynwn y ddau wrth iddynt wledda eu ffordd drwy’r Paris fohemaidd ac yna draw am Frwsel a Llundain. Ond, tydi’r bywyd gwyllt a’r berthynas angerddol a ffrwydrol sydd rhwng y ddau ddim yn para’n hir, wrth i’r chwarae droi’n chwerw ac i Verlaine geisio lladd Rimbaud, cyn cael ei garcharu am y drosedd.

Er mai dyma’r ddrama gyntaf i Hampton ei gyfansoddi, mae’n debyg ei fod fwyaf adnabyddus am ei ddrama o ganol yr wythdegau sef ‘Les Liaisons Dangereuses’, gafodd ei addasu’n ffilm lwyddiannus yn ddiweddarach. Yr un fu hanes y ddrama hon, gydag addasiad ffilm ohoni ym 1995 gyda David Thewlis a Leonardo DiCaprio fel y ddau fardd. Mae drama newydd o’i eiddo sef ‘Treats’ hefyd i’w gweld ar hyn o bryd yn Theatr y Garrick gyda Billie Piper, Kris Marshall a Laurence Fox yn y cast.

Gogoniant y cynhyrchiad yma yw ei symlrwydd. Mae’r gynulleidfa wedi’u gosod bob ochor i’r stribed hir o lwyfan sy’n rhannu’r gofod perfformio, ac felly does dim dianc i’r actorion rhag llygaid treiddgar y gwylwyr. Wedi’i daflunio ar y muriau o boptu’r llwyfan mae llawysgrif Ffrengig a gaiff y set ei gludo a’i godi ar y llwyfan yn ôl y gofyn. Roedd llyfnder cynhyrchiad Paul Miller yn apelio’n fawr.

Yn bersonol, hoffwn i fod wedi gweld mwy o angerdd corfforol rhwng Verlaine a Rimbaud; fe gawsom awgrym o’r berthynas agos oedd rhwng Verlaine a’i wraig, ond braidd yn ddi-gyffwrdd a phell oedd perthynas y ddau fardd fydda wedi medru gneud efo pinsiad go hegar o sbeis i gyd fynd â’r Absithe! Wedi dweud hynny, mae’n debyg mai ceisio cyfleu mai syrthio mewn cariad efo athrylith a meddwl y bardd ifanc wnaeth Verlaine, yn hytrach na’r serch corfforol nwydus.

Allai mond canmol portread cynnil ond cadarn Daniel Evans o’r bardd treisgar a chymhleth, ac mae hi’n fraint bob tro ei wylio ar lwyfan. Mae ganddo bresenoldeb anhygoel a’i lefaru bob amser yn glir a chadarn, fel y tystia’r ffaith iddo ennill DWY Wobr Olivier - yr ail gwta fis yn ôl am ei bortread o’r artist Georges Seurat yn y ddrama gerdd ‘Sunday in the Park’. Roedd portread yr actor ifanc Jamie Doyle (sydd fwyaf adnabyddus am ei rôl yn y gyfres deledu ‘Shameless’) hefyd yn llwyddiant ar y cyfan, er bod ei ddiffyg profiad i’w weld weithiau. Roedd y ddau ar eu gorau tua diwedd y ddrama, wrth iddynt ail-gyfarfod wedi cyfnod Verlaine yn y carchar, a chafwyd golygfa arbennig iawn rhwng y ddau a lwyddodd i hoelio sylw’r gynulleidfa i gyd, gan gynnwys y dramodydd ei hun!

Mae’r ddrama i’w gweld yn y Mernier Chocolate Factory ar Stryd Southwark yn Llundain tan yr 20fed o Fai. Mae’r tocynnau yn £22.50 ond mae’r theatr yn cynnig tocyn a phryd-cyn-y-sioe am £27.50! Bargen, bwyd a’r beirdd felly, am bris rhesymol ac esgus iawn i fynd am Lundain dros y Pasg! Mwynhewch!

No comments: