Total Pageviews

Friday 27 April 2007

'Equus'


Y Cymro - 27/4/07

Cadw llygad ar y llwyfan yn Llundain fyddai dros yr wythnosau nesaf gan gychwyn efo cynhyrchiad sydd newydd gyhoeddi yr wythnos hon ei fod yn cau ar y 9fed o Fehefin. Nid dyma’r tro cyntaf i’r sioe ‘EQUUS’ fod yn y newyddion - roedd hi’n hawlio’r penawdau cyn iddi gychwyn hyd yn oed! Y prif reswm am hyn oedd y ffaith bod Daniel Radcliffe, sy’n fwy cyfarwydd fel seren y ffilmiau Harry Potter, yn ymddangos ar y llwyfan yn gwbl noeth!
Does dim dwywaith bod y ffaith yma wedi gwerthu sawl sedd yn Theatr y Gielgud ers cychwyn y sioe rai wythnosau yn ôl, ond roeddwn i’n awyddus i’w gweld hi am resymau eraill. Dyma un o fy hoff ddramâu. Byth ers imi weld cynhyrchiad theatrig ohoni dan gyfarwyddyd Terry Hands yn Theatr Clwyd ddeng mlynedd yn ôl, fe ddaeth y ddrama yn ffefryn, ac fe ail-daniwyd fy niddordeb ym mhŵer a chyfoeth y theatr.

Mae’r ddrama a gyfansoddwyd gan Peter Shaffer wedi’i selio ar stori wir a ddigwyddodd yn swydd Suffolk, dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Wrthi yn teithio ar hyd lôn wledig gyda chyfaill iddo oedd Shaffer, pan aethant heibio i stabl geffylau. Daeth stori i gof ei gyfaill am drosedd erchyll a glywodd amdani mewn parti yn Llundain. Ni chofiai lawer, ond am y ffaith i fachgen ifanc ddifa ceffylau drwy ddryllio eu llygaid. Roedd hyn yn ddigon o ysbrydoliaeth i Shaffer, ac yn ei eiriau ei hun “Roedd yn rhaid imi greu byd meddyliol er mwyn gallu dirnad y weithred hon”.

Lleolir y rhan helaeth o’r ddrama mewn Ysbyty Meddwl yn Ne Lloegr ble mae’r seiciatrydd Martin Dysart (Richard Griffiths) yn cael ei berswadio i dderbyn y bachgen dwy-ar-bymtheg oed - Alan Strang (Daniel Radcliffe) fel claf. Mae’r bachgen wedi’i swyno gan geffylau - yn wir, mae’r swyn yn troi’n addoli, wrth iddo droi’r ceffylau yn dduwiau. Drwy gyfres o olygfeydd byr, mae perthynas yn datblygu rhwng y ddau, sy’n peri i Dysart ail-ystyried ei yrfa a’i bwrpas mewn bywyd. Cawn ein cyflwyno i rieni Strang sef Frank (Jonathan Cullen) a Dora (Gabrielle Reidy) ynghyd â’r ferch brydferth Jill Mason (Joanna Christie) sy’n gweithio yn y stablau ac sy’n hudo’r Strang i gael rhyw efo hi. Y weithred hon sy’n peri i’r bachgen ifanc gyflawni’r drosedd.

Yr hyn sy’n arbennig am y ddrama yw’r ffaith mai chwe actor sy’n portreadu’r ceffylau, a hynny mewn modd cwbl drawiadol. Drwy gynllunio arbennig John Napier - a fu’n gyfrifol am gynllunio’r cynhyrchiad gwreiddiol gyda llaw, nôl ym 1973, mae gan bob actor benwisg metal o benglog ceffyl, ynghyd â phedolau uchel. Mae gofyn i’r actorion efelychu symudiadau’r ceffyl, ac mae’r chwech ohonynt yn llwyddo i wneud hynny’n effeithiol iawn.

Uchafbwynt y ddrama, heb os, yw’r drosedd o ddifa’r ceffylau sydd yn gwbl erchyll. Er cystal oedd yr olygfa hon yn y cynhyrchiad yma, mae’n rhaid imi fod yn onest a chyfaddef imi gael llawer iawn mwy o wefr yng nghynhyrchiad Terry Hands yn yr Wyddgrug. Yr hyn a gafwyd yno oedd rubanau coch yn llygaid pob penwisg oedd yn cael eu tynnu wrth i’r bachgen ifanc ddryllio’r llygaid, a hynny i gyfeiliant sgrechiadau arteithiol y ceffylau. Dyma un olygfa wnâi fyth mo’i anghofio. Ond yn y cynhyrchiad presennol, bylbiau golau sydd ymhob penwisg, a rheiny yn cael eu diffodd wrth i Strang fynd o stabl i stabl. Fel y gallwch fentro, doedd hynny ddim hanner mor theatrig â’r ddelwedd flaenorol.

Roedd perfformiad a phresenoldeb Richard Griffiths ar y llwyfan drwy gydol y ddrama i’w ganmol yn fawr iawn. Dysart sy’n ein tywys drwy’r stori, ac o’r herwydd, mae gan yr actor waith anodd o draethu i’r gynulleidfa. Cefais fy argyhoeddi’n llwyr gan ei berfformiad, ac yn wir roeddwn i’n gallu cydymdeimlo efo fo ar ddiwedd y ddrama. Mae’r un peth yn wir am Daniel Radcliffe sydd mor ifanc, ac eto wedi profi heb os fod ganddo’r gallu i gynnal un o’r rhannau anodda sydd ar gael i berson ifanc yn y theatr.

Er bod y cynhyrchiad yma yn dod i ben yn Theatr y Gielgud, mae sôn bod y ddrama yn mynd ar daith, ond yn anffodus nid efo’r cast presennol. Richard Fleeshman sydd ar hyn o bryd yn y gyfres Coronation Street fydd yn camu i esgidiau Radcliffe, er bod yntau wedi cytuno i ail-gydio yn yr awenau ar gyfer cynhyrchiad o’r ddrama ar Broadway yn ystod Haf 2008. Am y tro, beth bynnag, mae ganddo chi’r cyfle i weld y cynhyrchiad presennol am fis go lew, a chredwch fi - mae’n werth ei gweld.

Friday 20 April 2007

Edrych mlaen...

Y Cymro - 20/4/07

Cyfle i edrych mlaen yr wythnos hon am rai o’r cynhyrchiadau fydd i’w gweld dros y misoedd nesaf gan gychwyn efo Eisteddfod yr Urdd sy’n cael ei chynnal eleni, yn Sir Gâr. Ar Nos Sadwrn, 26ain o Fai yn y Pafiliwn gwelir hanes ‘Y Llyfr Du’ sef sioe wedi ei hysgrifennu gan Mererid Hopwood a Tudur Dylan, a’r gerddoriaeth gan Dyfan Jones, a'i chyfarwyddo gan Cefin Roberts. Hon yw sioe agoriadol yr Eisteddfod ac yn mynd â ni i ddirgelion 'straeon a cherddi un o drysorau mwyaf ein Llên, sef Llyfr Du Caerfyrddin’.

‘Dagrau’r Coed’ yw enw’r sioe ieuenctid, a bydd hon i’w gweld yn Theatr y Lyric ar Nos Sul a Nos Lun, 27ain a’r 28ain o Fai. ‘Mae’r sioe gerdd hon am griw o bobl ifanc yn wynebu penderfyniadau; penderfyniadau pwysicaf eu bywydau. Mae'n sioe am gyfeillgarwch a chasineb, am ddisgwyliadau rhieni i'w plant ac am gariad a thrais… Drama gerdd Gymreig sy'n ffres, yn ddeinamig ac yn real’.

Ac yn ôl i’r Pafiliwn ar Nos Fawrth a Nos Fercher, 29ain a’r 30ain o Fai ar gyfer pasiant y plant sef ‘O Bren Braf! ‘Alegori wedi ei lleoli o gwmpas coeden lle mae criw o blant yn chwarae sydd yma, plant sydd yn gweld y goeden yn bwysig am wahanol resymau. Mae’r bechgyn yn gweld y goeden fel arwydd o’r gorffennol, lle cânt gwrdd ag arwyr megis Twm Sion Cati ac Owain Glyndŵr. Ond mae gwrthdaro rhwng y bechgyn a’r merched. Mae’r merched yn ystyried y goeden fel arwydd o’r dyfodol. Maen nhw’n sylweddoli fod gan y goeden bwerau hudol sy’n caniatau iddyn nhw weld i’r dyfodol.’ Mynnwch eich tocynnau yn fuan ddweda i!

‘Cariad Mr Bustl’ sef cyfieithiad Gareth Miles o’r ddrama ‘Le Misanthrope’ gan Molière fydd yn dod â ‘Thymor y Clasuron’ ein Theatr Genedlaethol i ben dros yr wythnosau nesaf. ‘Comedi soffistigedig am frwydr un dyn i fod yn onest a diffuant mewn byd rhagrithiol’ yw cefndir y ddrama. ‘Mae Selina yn wraig weddw ifanc, brydferth a chanddi gyfrif banc helaeth. Mae pob dyn yn heidio ar ei hôl hi, a Mr Bustl yn eu plith . . . er gwaetha’r ffaith ei bod hi’n euog o bob ‘trosedd’!.’ Mae’r cast yn cynnwys Ffion Wyn Bowen, Huw Garmon, Mirain Haf, Clare Hingott, Glyn Morgan, Rhian Morgan, Dyfrig Morris, Jonathan Nefydd, Seiriol Tomos a Llion Williams gyda Judith Roberts yn cyfarwyddo. Tryweryn fydd thema cynhyrchiad nesa’r cwmni ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir y Fflint eleni. Manon Eames sydd yng ngofal y sgript a Tim Baker yn cyfarwyddo, gan fod y cynhyrchiad ar y cyd â chwmni Clwyd Theatr Cymru. Cynhelir y perfformiadau ym mhrif awditoriwm Theatr Clwyd - 4 perfformiad rhwng nos Fawrth 7fed a nos Wener 10fed o Awst, gyda matinee arbennig ar bnawn Sadwrn 8fed o Awst. ‘Bydd yn gynhyrchiad ar raddfa fawr a bydd cyfle i'w weld wedi'r Eisteddfod gyda thaith i’r prif theatrau rhwng yr 11eg o Fedi a’r 13eg o Hydref.

Sioe arall fydd i’w gweld yn Theatr Clwyd yn ystod yr Eisteddfod fydd Caffi Basra’ sef sioe glybiau newydd Theatr Bara Caws, gan Eilir Jones. Yn y cast hefyd mae rhai o selogion mwya' poblogaidd y sioeau clybiau, Maldwyn John, Gwenno Hodgkins, a Lisa Jen. Bydd y cwmni hefyd yn teithio wedi’r Ŵyl.

Ac o sôn am Clwyd Theatr Cymru, os yda chi’n digwydd bod yn Efrog Newydd ym mis Mai, cofiwch fod y cwmni yn perfformio ‘Memory’ gan Jonathan Lichtenstein fel rhan o’r ŵyl ‘Brits on Broadway’ rhwng y 5ed a’r 27ain o Fai.

Mae Llwyfan Gogledd Cymru ar fin cychwyn eu hail-daith efo’r ddrama ‘Branwen’. Bydd y daith yn cychwyn ar y 3ydd o Fai ac yn ymweld ag Aberystwyth, Felinfach, Ystradgynlais, Bae Colwyn, Caerdydd, Caernarfon, Yr Wyddgrug a Chlwb Cymru Llundain. Bydd y cwmni hefyd yn ymweld ag Iwerddon ar gyfer tri pherfformiad yn Waterford, Letterkenny a Kilkenny.

‘Rhieni Hanner Call a Gwyrdd’ fydd cynhyrchiad nesaf Theatr Arad Goch sef addasiad Sera Moore Williams o lyfr Brian Patten. Mae’r cynhyrchiad yn addas i blant 7-11 oed a bydd y cwmni yn teithio ym mis Mehefin a Gorffennaf.

Digon i’w weld felly dros fisoedd yr Haf.

Friday 13 April 2007

'Look Back in Anger' a 'The Entertainer'




Y Cymro -13/4/07

Dwi di bod yn ffodus iawn eleni. Dwi di cael y cyfle i weld dwy ddrama gan John Osborne. Y gyntaf oedd cynhyrchiad yn yr Iwerddon o’i ddrama enwocaf sef ‘Look Back in Anger’. Dyma ddrama sy’n cael y clod am drawsnewid y theatr ym Mhrydain, byth ers ei llwyfannu gyntaf ym 1956; drama a gyflwynodd inni'r ‘angry young man’ gwrieddiol sef Jimmy Porter.

Anodd credu bod y ddrama wedi’i chyfansoddi mewn dau-ddiwrnod-ar-bymtheg ar gadair torheulo ym Morecambe tra bod y dramodydd yn perfformio mewn sioe yno o’r enw ‘Seagulls over Sorrento’!. Mae’n ddrama hunangofiannol ac wedi’i selio ar ei berthynas a’i gyfnod yn cyd-fyw efo Pamela Lane yn Derby.

Dyma ddrama sy’n cyfleu holl angerdd a gwylltineb y gŵr ifanc wrth iddo ddygymod â bywyd wedi’r Rhyfel, ac er ei bod hi’n anodd iawn i’w ddilyn ar brydiau, a holl wylltineb y cymeriad yn gallu bod yn ormesol, hawdd yw gweld sut y cafodd y darlun domestig yma o fywyd pob-dydd gymaint o ddylanwad ar ddramodwyr byth ers hynny.

Mae’r un peth yn wir am yr ail-ddrama welis sef ‘The Entertainer’ sydd newydd agor yn Theatr yr Old Vic yn Llundain, efo neb llai na Robert Lindsay fel y diddanwr ‘Archie Rice’.

Cafodd y ddrama wreiddiol ei chomisiynu gan Laurence Olivier wedi iddo weld perfformiad o ‘Look Back in Anger’, ac yn awyddus i fod yn rhan o’r wedd newydd hwn yn y theatr. Cafodd y ddrama ei llwyfanu am y tro cyntaf hanner can mlynedd yn ôl, ac ynddi mae Osborne yn defnyddio hen neuadd-gerddorol o draddodiad y ‘music-hall’, sydd wedi gweld dyddiau gwell fel trosiad o stad druenus y Deyrnas Brydeinig yn sgil Creisus Suez ym mis Tachwedd 1956.

Mae’r stori wedi’i ganoli ar hanes ‘Archie’ (Robert Lindsay) a’i wraig ‘Phoebe’ (Pam Ferris) sy’n byw efo tad Archie, ‘Billy’ (John Normington). Mae Archie yn dyheu am enwogrwydd ac am gael cyrraedd yr un llwyddiant â’i dad, ond breuddwyd wag yw’r cyfan, a’r cwbl welwn ni ar y llwyfan o’n blaen yw dyn hunanol, anonest a’i yrfa ar ben. Yn sgil ymweliad gan ei ferch Jean (Emma Cunniffe) a’i fab Frank (David Dawson), mae’r tensiynau teuluol yn dod i’r berw, a daw’r gwirionedd am berthnasau Archie efo merched eraill i’r amlwg a’i ymgais i dwyllo’i dad i roi cefnogaeth ariannol i’w sioe newydd. Wrth i’r teulu ddechrau chwalu, chwalu hefyd mae act a gyrfa Archie ar lwyfan yr hen neuadd, fel y gwelir rhwng bob golygfa yn y tŷ. Ar ddiwedd y ddrama, mae’r llwyfan yn wag, a’i yrfa ar ben wrth i Phoebe ddod i’w dywys oddi ar y llwyfan am byth.

Er bod y sioe wedi derbyn canmoliaeth uchel gan feirniaid theatr yn Llundain, mae’n rhaid imi fod yn onest a datgan mai braidd yn ddiflas a di-ddigwydd oedd y ddrama imi. Anodd iawn oedd clywed geiriau’r tad (John Normington) a’r olygfa gyntaf rhyngddo â’i wyres, Jean (Emma Cunniffe) yn syrffedus o ddi-liw a di-ddigwydd. Dim ond gydag ymddangosiad arbennig Robert Lindsay fel Archie yn canu a dawnsio a rhannu’i jôcs a’i driciau llwyfan y dechreuais i fwynhau. Ond fel â’r ddrama rhagddo, yn fwriadol felly, diflasu mae rhywun ar ei ymgais, ac felly collais i flas ar y ddrama hefyd. Rhaid canmol Lindsay a Pam Ferris am eu perfformiadau fel y gŵr a’r wraig, ond roeddwn i’n disgwyl mwy ar lwyfan yr Old Vic.

Doedd set undonog a diflas Anthony Lamble yn ychwanegu dim at geisio lliniaru rhyw gymaint o’r undonedd gweledol, ac oni bai am un newid bach i gyfleu'r Britannia frestiog fawreddog, digon diflas oedd y cyfan. Mae’r un peth yn wir am gyfarwyddo Sean Holmes oedd yn rhy statig a diddychymyg, a gresyn am hyn, gyda diddanwr mor lwyddianus wrth law.

Cipolwg siomedig yn hytrach na blin felly i mi wrth gofio am fy ymweliad cyntaf â’r Old Vic. Mae’r sioe i’w gweld yno tan y 26ain o Fai.

Friday 6 April 2007

'T Rowland Hughes - y dewraf o'n hawduron'


Y Cymro - 6/4/07

Roedd na ddrama ar waith, cyn i’r un actor o Gymdeithas y Gronyn Gwenith gamu ar lwyfan Theatr Seilo yng Nghaernarfon nos Wener ddiwethaf. Eistedd a mwynhau gwylio’r cast yn cyrraedd - bob un a’i fag neu’i fasged, a’u gwisgoedd cyfoes yn cuddio’r cyfnod; y bysiau wedyn yn brwydro am le i barcio, a rheiny wedi teithio o Gaergybi, Llanrwst, Y Felinheli a Manceinion. Bob un yn llawn o ddilynwyr selog y ‘pasiant’ blynyddol, ac eleni ar gyfer eu degfed-sioe-ar-hugain, dyma gyflwyno hanes ‘Y Dewraf o’n hawduron’ sef T Rowland Hughes.

Y Parchedig Harri Parri fu’n gyfrifol am y sgript, a rhaid talu teyrnged arbennig iddo am lunio cyfanwaith llwyddiannus iawn oedd yn cyfleu bywyd a gwaith y llenor arbennig hwn; dyma lenor ‘a droes ei salwch yn hamdden’ yng ngeiriau Wil Ifan ddydd ei angladd, a thrwy gaethiwed ei salwch a roddodd inni berlau llenyddol fel y nofelau ‘William Jones’, ‘O Law i Law’ a ‘Chwalfa’. Rhoes inni hefyd gerddi ac emynau a dramâu fel y gwelsom drwy’r saith-golygfa-ar-hugain mewn dros ddwy-awr o sioe. O’i gartref yng Nghaerdydd i Lanberis ei blentyndod, neu o fyd dychmygol ei nofelau i’r Stiwdio BBC, cawsom flas o gyfraniad eithriadol T Rowland Hughes i’r byd llenyddol.

Fel un sydd eisioes wedi gweld sawl sioe gan y criw talentog yma, ac fel un sydd wedi bod yn ymwneud â sioeau tebyg iawn ym Mhwllheli, fedrai ddim ond talu teyrnged o’r mwyaf i’r cast a’r criw hefyd am eu brwdfrydedd a’u gwaith caled hollol ddi-dâl dros y blynyddoedd. Mwynhâd y criw sy’n plesio, ac mae’r mwynhâd hwnnw yn cael ei drosglwyddo yn llwyddiannus iawn i’r gynulleidfa.

Cafwyd perfformiadau cofiadwy gan sawl aelod o’r cast eto eleni - a rhaid imi sôn yn arbennig am y tri gŵr gafodd y dasg o bortreadu'r awdur ei hun; Dr W Gwyn Lewis yn gyntaf fel y Tom Rowland hŷn yn gaeth yn ei gadair, ac yn ddibynnol wrth ei wraig yn eu cartref ‘Ger-y-llyn’ yng Nghaerdydd. Owen Williams wedyn a’i fop o wallt coch trawiadol yn swyno’r gynulleidfa fel y Tom Rowland ifanc ar y stryd yn Llanberis. Roeddwn i wedi dotio at aeddfedrwydd yr actor ifanc hwn ac roedd ei wylio yn cyd-actio ac yn ymateb i actorion oedd llawer yn hŷn nag ef yn wefreiddiol. Yna Dafydd Hughes fel y Tom fymryn yn hŷn a’i ddyddiau fel cynhyrchydd yn y BBC - actor arall y dylid gweld llawer mwy ohono ar lwyfannau a rhaglenni teledu yng Nghymru. Roedd ei fynegiant cwbl glir a chlywadwy yn wers FAWR i sawl actor profiadol! Da iawn yn wir. Yr unig wendid o ran cysondeb oedd lliw’r gwallt - gan fod gwallt Owen yn goch mor drawiadol, a’r ddau actor hŷn yn dywyll, efallai at dro nesa, y dylid ystyried ei dywyllu fymryn, sy’n hawdd iawn ei wneud y dyddiau hyn!

Er y byddai ambell i aelod o’r gynulleidfa wedi dymuno gweld mwy o ganu yn y sioe eleni, fel yn y blynyddoedd a fu, mae’n rhaid imi ddweud fy mod i’n bersonol wedi ei mwynhau hi’n fawr iawn. Roedd ôl graen ymarfer cyson ar y cwbl, a’r sioe yn symud o un olygfa i’r llall yn rhwydd a di-lol. Cafodd hiwmor T Rowland Hughes ei gyfleu yn llwyddiannus iawn, a rhai o’i linellau enwocaf fel ‘Cadw dy blydi chips!’ yn derbyn y gymeradwyaeth haeddiannol.

Oedd, roedd na ddrama ar waith tu mewn i Theatr Seilo yn ogystal, a honno yn ddrama gynnes a chofiadwy. Ymlaen at y nesa, ia?...!