Total Pageviews

Friday 12 October 2007

'Little Madam'


Y Cymro - 12/10/07

Sna’m lot o bobol yn licio Margaret Thatcher!. Dyna dwi di’i ddysgu’r wythnos yma. Am be ma’r hogyn yn mwydro, medda chi? Wel, Margaret Thatcher, neu’n hytrach ‘Miss Margaret Roberts’ ydi testun y ddrama ddiweddara i agor yn Theatr y Finborough - ‘Little Madam’.

Wyddwn i’m lawer am y ddrama cyn cyrraedd chwaith. Cofio darllen rhyw ddatganiad i’r Wasg yn frysiog wythnosau ynghynt, a dallt mai drama am ferch deuddeg oed wedi’i hel i’w llofft am wrthod ymddiheuro wrth ei thad, oedd y stori. Feddyliais i rioed mai’r ‘fadam fechan’ yn nheitl y ddrama, oedd un o gymeriadau gwleidyddol mwya’ dadleuol y degawdau diweddar!

Mae’r ddrama wedi’i gosod yn llofft y fechan, uwchben siop ei thad yn nhref brysur Grantham ym 1937. Ond fel mae set hynod o effeithiol Alex Marker yn awgrymu, efo’i ffenestri di-siâp a’i linellau cam, tydi popeth ddim mor ddu-a-gwyn a hynny . Wedi datgan yn gry’ mewn ffrae ar gychwyn y ddrama “It isn’t that I always insist on being right, father, it is that everyone else always seems to insist on being wrong!”, buan iawn y daw holl deganau’r ferch fach yn fyw, gan drawsnewid y ‘Miss Roberts’ styfnig i’r ‘Mrs Thatcher’ arswydus. Trwy nifer o olygfeydd sy’n cynnwys Rhyfel erchyll y Falklands, streic y glowyr, helyntion yr IRA a’r preifateiddio parhaol ar wasanaethau cyhoeddus, rhoddir y cyfle i’r ‘fadam fechan’ ddianc rhag ei gorffennol, i ail-gymodi’r presennol, ac i baratoi ar gyfer ei dyfodol. Ond a fydd y cyfan yn ddigon i ennyn ymddiheuriad o’r genau haearnaidd?

Rhyfeddod llawer mwy imi oedd gweld mai llanc ifanc bump-ar-hugain oed - James Graham, ydi awdur y ddrama. Dyma ei drydedd ddrama sydd wedi’i gomisiynu gan Theatr y Finborough, ac mae ei ddawn yn ddiamheuol. Fel un gafodd ei eni ym 1973, cof plentyn yn unig sydd gennai o gyfnod cynnar Margaret Thatcher fel prif weinidog, cyfnod a gychwynnodd ym 1979. Ond dyma fachgen ifanc gafodd ei eni ynghanol ei theyrnasiad, ac mae ei adnabyddiaeth o gymeriad, gwleidyddiaeth a holl hanes y cyfnod yn agoriad llygad ynddo’i hun.

Cryfder unrhyw gynhyrchiad ydi’r castio cywir. Gall criw o actorion cryf wneud drama wan yn ddrama dda, ac i’r gwrthwyneb. Ond o bryd i’w gilydd, fel yn yr achos yma, pan roddir drama wych yn nwylo actorion gwych, mae’r canlyniad yn wefreiddiol. O’i hymddangosiad cynta’ ar y llwyfan, mae portread Catherine Skinner o’r ‘Margaret’ fechan stwbwrn yn fy argyhoeddi’n llwyr; o’i gwallt cringoch i’w hosgo penderfynol. Mae’r cyfan yma, a hawdd iawn gweld nodweddion corfforol y ‘Fargaret’ hŷn a ddaeth mor enwog yn sgil datganiadau tebyg i “U-turn if you want to. The Lady is not for turning”

Cymeriad tawel ond cadarn wedyn yw ei thad ‘Roberts’ (James Allen) sy’n galw mewn i’r llofft drwy gydol y ddrama, gan dorri ar yr olygfeydd sy’n rhagfynegi dyfodol ei ferch. Cynnil ond hynod o effeithiol hefyd oedd ei bortread o ‘Bobby Sands’, aelod o’r IRA, sy’n herio ‘Margaret’ liw nos, trwy ffenest ei llofft. “We’ve warned you Maggie” yw ei eiriau olaf, cyn cael ein bwrw gan y ffrwydrad yn y gwesty yn Brighton yn ystod cynhadledd y blaid Geidwadol ym mis Hydref 1984. Clod hefyd i’r cyfarwyddwr ifanc Kate Wasserberg a’r cynllunydd Alex Marker, am fedru mynd â ni trwy’r fath ystod o flynyddoedd ac atgofion, a hynny mor ddidrafferth ac effeithiol.

Ymysg yr actorion eraill, sy’n portreadu dros ddeg ar hugain o gymeriadau gwahanol yn ystod y sioe, mae Simon Yadoo. Ef sydd â’r dasg anodd o bortreadu’r dawel unigryw ‘Denis Thatcher’, ac allwn i’m llai na rhyfeddu at yr olygfa ble mae o’n ceisio caniatâd ‘Margaret’ i’w phriodi, a hithau yn ateb pob cais yn ôl ei rheolau hi’i hun. Ian Barritt wedyn, yn un o’r actorion hŷn, ynghanol y criw gweddol ifanc yma, yn cyflwyno inni gymeriadau gwych fel y ‘tedi bêr’ sy’n troi mewn i ‘Ted Heath’; rhan o’r ddeuawd gynllunio enwog ‘Saatchi and Saatchi’ ar y cyd â William McGeough, Archesgob Caergaint, a’r cymeriad sy’n rhoi imi’r olygfa fwya' gofiadwy ar ddiwedd y ddrama, sef y glöwr sy’n dod wyneb a wyneb â ‘Maggie’ ynghanol y duwch a’r mwg wedi’r ffrwydrad. Dyma’r olygfa sy’n crisialu meddylfryd ‘Maggie’ ynglŷn â’r ffaith y dylai pob unigolyn fod yn gyfrifol am wella’i stad ei hun. Mae’n crefu am i’r glöwr ddyheu am ddyfodol gwell i’w blant, ac i blant ei blant, trwy beidio eu gyrru nhw i weithio yn y Pyllau Glo. Ond, am y tro cynta’ yn ei hanes, mae hithau hefyd yn gorfod dechrau gwrando arno yntau, ac yn sgil eu sgwrs, a’r holl brofiadau a fu cyn hynny, mae’r ‘fadam fechan’ yn gorfod ildio i’w thad ar ddiwedd y dydd.

Dyma berl o ddrama unwaith eto yng nghragen werthfawr y Finborough; drama sy’n rhoi ystyr a golwg wahanol ar yrfa un o ffigyrau mwya’ dadleuol y byd gwleidyddol, ac a brofodd i minnau, pam bod cynifer o bobol yn parhau i gasáu’r ‘fadam fechan’ styfnig yma.

Mae ‘Little Madam’ i’w weld yn Theatr y Finborough tan Hydref 27ain. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â www.finboroughtheatre.co.uk

No comments: