Total Pageviews

Friday 16 November 2007

'Hairspray'



Y Cymro – 16/11/07

Dwi ‘di dysgu yn ddiweddar, bod yn rhaid cadw meddwl agored wrth fynd i weld unrhyw ddrama gerdd! Dyna ichi’r siom o weld yr hir ddisgwyliedig ‘Rent’ efo Denise Van Outen, ac yna’r ‘Grease’ seimllyd, hollol ddi-gymeriad wedi’r holl heip o’r gyfres deledu. Pan glywais i fod y sioe ‘Hairspray’ ar fin agor yn Theatr Shaftebury, am ryw reswm, doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at ei gweld. Roedd y sioe yn cael ei marchnata ar gryfder y ffaith ei bod hi’n llawn comedi, efo gwalltiau mawr a seiniau’r chwedegau yn byrlymu drwyddi. Dwi’n cofio gweld y fersiwn ffilm wreiddiol ohoni ym 1988, gyda’r cyflwynydd teledu Ricky Lake yn y brif ran a’r frenhines drag ‘Divine’ fel y fam, ac a fu farw yn fuan wedi rhyddhau’r ffilm. Roeddwn i hefyd yn ymwybodol fod fersiwn ffilm newydd ei rhyddhau gyda neb llai na John Travolta yn portreadu’r fam flonegog!



Y canwr o dras Gymreig, Michael Ball sydd â’r dasg fawreddog o gamu i mewn i esgidiau’r fam yn y sioe lwyfan, a hynny o dan siwt o bwysau a sawl ffrog lachar! Mae’n cyflawni’r gamp mor dda nes bod sawl aelod o’r gynulleidfa yn cwyno yn yr egwyl bod nhw heb ei weld o hyd y pwynt hwnnw!



O nodau cyntaf y gân agoriadol ‘Good Morning Baltimore’, a’r prif gymeriad ‘Tracey Turnblad’ (Leanne Jones) yn codi o’i gwely ac yn ymuno â gweddill y cast mewn corws o liw, o hwyl ac o ddawns, allwch chi’m peidio mwynhau’r sioe yma. Dilyn hanes ‘Tracey’ wnawn ni gydol y sioe; hi ydi’r arwr dros bwysau yn Baltimore y chwedegau, sy’n breuddwydio am gael bod yn enwog, a chael dawnsio ar sioe deledu ‘Corny Collins’ (Paul Manuel). Er bod ei mam ‘Edna’ (Michael Ball) a’i thad ‘Wilbur’ (Mel Smith) hefyd dros bwysau, maen nhw’n gefnogol iawn o’u merch, sy’n gorfod cwffio yn erbyn teneuwch ffug-berffaith cynhyrchydd y gyfres deledu ‘Velme Von Tussle’ (Tracie Bennett) a’i merch brydferth ‘Amber’ (Rachael Wooding). Ond mae gan ‘Tracey’ freuddwyd arall hefyd, sef cael cipio calon y dawnsiwr golygus ‘Link Larkin’ (Ben James-Ellis) sy’n digwydd bod yn gariad i ‘Amber’.



Er mor frau ydi’r stori mewn mannau, yr elfen o wrthdaro sy’n cynnal pethe, ynghyd â’r islif gwleidyddol o ran delwedd a lliw croen. A ninnau ynghanol yr arwahanu a’r gwahaniaethu hiliol yn America’r 60au, doedd y dawnswyr croen ddu ddim yn cael ymddangos ar y teledu, na’u gweld yn cymysgu efo’r gwynion. Drwy ein cyflwyno i’r cymeriadau ‘Motormouth Maybelle’ (Johnnie Fori) sy’n cadw siop recordiau a’i mab ‘Seaweed’ (Adrian Hansel), cawn flas o’r ddau fyd, y ddau safbwynt, a’r ddau fath o ddawnsio sy’n ennill lle i ‘Tracey’ a’i ffrindiau newydd ar y gyfres, erbyn diwedd y sioe.

Heb os nag oni bai, dwi’n hapus iawn i gyfaddef mai dyma un o’r sioeau gorau imi’i gweld yn y West End ers tro. O symlrwydd set David Rockwell sy’n ddathliad lliwgar, llawn a llawen o’r Chwedegau, i goreograffi celfydd Jerry Mitchell, sy’n cyfuno elfennau o bob dawns a chamau dawnsio’r chwedegau, roedd gen i wên ar fy wyneb gydol y sioe. Roedd gwaith y ddau, ynghyd â’r cyfarwyddwr medrus Jack O Brien i’w weld yn amlwg yn y caneuon ‘I Can Hear The Bells’ a ‘Good Morning Baltimore’.

Cefais fy swyno hefyd gan allu’r Corws i ganu’n feddal a thawel, rhywbeth na brofais o’r blaen mewn sioe o’r math yma, ac roedd gallu lleisiol ac egni Leanne Jones, ar ei début yn y West End yn wyrthiol.

Rhaid canmol y cyfoeth lleisiol gydol y sioe gyda chlod arbennig i Michael Ball a Johnnie Fiori, a yrrodd iâs oes lawr fy nghefn yn yr Ail Act, wrth ganu o’r galon am hawliau ei phobol. Atgofion hyfryd eraill yw deuawd Vaudeville-aidd Michael Ball a Mel Smith ‘Timeless to Me’ ac egni’r cast cyfan yn ‘You Can’t Stop the Beat’.

Roeddwn i’n falch iawn o fedru codi ar fy nhraed ynghyd â gweddill y gynulleidfa ar ddiwedd y sioe i dalu’r wrogaeth uchaf am eu gwaith caled, am eu hangerdd a’u hemosiwn, ac am wneud un gŵr o Ddyffryn Conwy yn hapus iawn ar ddiwedd y noson!

Mynnwch eich tocynnau rŵan! Anrheg Nadolig perffaith! Am fwy o fanylion ymwelwch â www.hairspraythemusical.co.uk

No comments: