Total Pageviews

Friday 25 January 2008

'White Boy'


Y Cymro – 25/01/08

Mae troseddau yn ymwneud â drylliau neu gyllyll yn ddigwyddiad dyddiol bellach yn y wlad ‘ma. Bob dydd, mewn sir wahanol, mae 'na stori ar y newyddion ynglŷn â llofruddiaeth mewn ysgol neu ar y stryd, a degau o fywydau ein hieuenctid yn cael ei ddifa’n rhy gynnar o lawer. Pwnc addas a phriodol a hynod o gyfredol felly ar gyfer y Theatr Ieuenctid Cenedlaethol, sy’n ail-lwyfannu eu cynhyrchiad llwyddiannus o ‘White Boy’ yn Theatr Soho yma yn Llundain.

Mae’r ddrama wedi’i gosod mewn ysgol uwchradd, ddigon tebyg i’r gyfres deledu ‘Grange Hill’, ac fel mae gwedd a gwisgoedd yr actorion yn cyfleu, mae pawb o gefndiroedd gwahanol. Mae ‘Ricky’ (Luke Norris) yn fachgen croen wyn, sydd wedi’i fagu ynghanol y gymuned groenddu, ac o’r herwydd wedi etifeddu eu tafodiaith liwgar a chyfoethog; mae ei gyfaill pennaf ‘Victor’ (Obi Iwumene) yn groenddu ac yn bêl-droediwr gwych sydd mewn cariad efo ‘Zara’ (Venetia Campbell) sydd eto’n dywyll. Cymeriad diddorol arall ymysg y criw amrywiol ydi ‘Sorted’ (Timi Kamal) sydd ag atal deud, ac wedi gorfod ffoi i Lundain ar ôl i’w deulu gael eu herlid yn ei wlad enedigol. Ac yna’r bwli o ben-groen gwyn ‘Flips’ (Ciaran Owens) gwerthwr cyffuriau hiliol sydd am weld ‘glanhad’ ar y strydoedd, er mwyn iddo ef a’i frodyr, eu hawlio yn ôl. Buan iawn yn y ddrama, fe welir y gwrthdaro rhwng y cymeriadau, a’r cymeriad addfwyn ‘Sorted’ yn ennyn ein cydymdeimlad, yn sgil cael ei erlid gan ‘Flips’. Erledigaeth sydd, fel sy’n gwbl amlwg, am arwain at y drasiedi. Ond cryfder sgript Tanika Gupta ydi’r tro annisgwyl yn uchafbwynt y stori, sy’n gwbl ddramatig, ac eto’n hynod o effeithiol a phwerus.

Nai ddim enwi pwy sy’n cael ei lofruddio, rhag tarfu eich mwynhad o’r ddrama, ond mae’r golygfeydd sy’n dilyn y digwyddiad yn hynod o emosiynol ac yn brawf sicr o bŵer theatr yn ei ddistawrwydd. Symlrwydd eto yn y digwydd a’r dweud, ac mae’r canlyniad yn gofiadwy dros ben.

Heb os, cryfder y cynhyrchiad ydi cyfarwyddo medrus Juliet Knight a dreuliodd gryn amser yn cynnal gweithdai gyda phobol ifanc cyn dechrau ar y gwaith. Roedd yr awdures hefyd yn bresennol, ac mae’r ddwy yn cyfaddef i rai o linellau mwya’ cofiadwy’r gwaith ( a rhai sy’n llawer rhy liwgar i’w hail-hadrodd ar dudalennau’r Cymro!) ddeillio’n uniongyrchol o’r gweithdai yma. Hoffais yn fawr y modd y llwyddodd y cyfarwyddo i gyfleu symudiadau a phrysurdeb bywydau’r criw ifanc yn y golygfeydd agoriadol a’r rhai oedd yn pontio’r prif olygfeydd, a’r cyfan i gyfeiliant traciau cerddorol pwrpasol. Roedd yr olygfa ail-greu araf o’r llofruddiaeth i gyfeiliant y feiolin hefyd yn bwerus o effeithiol, ac yn un sy’n aros yn y cof.

Un o wendidau’r cynhyrchiad oedd gor-hyder y cast ifanc yma, sy’n amrywio mewn oedran o 16 i 22 oed. Mae yna wastad peryg mewn unrhyw griw ifanc sydd wedi’u dethol o blith eu cyfoedion i ‘serennu’ mewn cynhyrchiad o’r math yma. Yn anffodus, roedd eu hyder, y tro hwn, yn amlygu ei hun yn ormodol, ac o’r herwydd yn amharu ar eu portread o’r cymeriadau. Roeddwn i hefyd yn teimlo bod ambell un yn llawer rhy hen i bortreadu’r ‘plant ysgol’, ac fe gollwyd y naïfrwydd plentynnaidd o’r herwydd. Roedd eu gwaith ensemble i’w ganmol yn fawr - y cyd-symud a’r coreograffi yn berffaith, ond rhaid cyfaddef fy mod i’n cael anhawster mawr wrth geisio clywed a deall y geiriau oedd yn cael ei lefaru. A bod yn onest, dim ond un actor sef Ciaran Owens fel ‘Flipps’ oedd yn amlwg â dawn glir i lefaru’n glywadwy, gyda’r gweddill yn ceisio efelychu llefaru naturiolaidd y cyfryngau, ond heb ddysgu’r gamp na’r dechneg o daflu’u lleisiau ar lwyfan.

Hunaniaeth ydi prif thema’r gwaith, sy’n ceisio ateb y cwestiwn oesol ynglŷn ag ystyr bod yn ‘groen wyn’ mewn cymuned Lundeinig y dyddiau yma. Er gwaetha’r dialog wedi’r trychineb, a’r epilog ar ddiwedd y ddrama, dwi’m cweit yn siŵr os cefais ateb i’r cwestiwn. Does na’m dwywaith fod y gwaith yn bwerus, ac ymateb y gynulleidfa o bob oed yn gadarnhaol. Ond tybed os mai’r emosiwn cry wedi’r llofruddiaeth sy’n gyfrifol am hyn, yn hytrach na’r gwir fwriad i newid agwedd ein hieuenctid i atal y troseddu yn y dyfodol? Faint pellach na phennod o’r gyfres ‘Grange Hill’ ydi’r ddrama mewn gwirionedd?

Mae ‘White Boy’ i’w weld yn Theatr Soho tan Chwefror 9fed. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â www.sohotheatre.com neu www.nyt.org.uk

Friday 18 January 2008

Edrych ymlaen...

Y Cymro – 18/01/08

Mae’n gyfnod cythryblus iawn ym Myd y Theatr yma yn Llundain ar hyn o bryd, a hynny yn sgil y newyddion cyn y Nadolig am fwriad Cyngor y Celfyddydau Prydeinig i dorri’n sylweddol ar eu nawdd eleni. Mae dyfodol dros 190 o sefydliadau celfyddydol yn y fantol, a bu cryn ymgyrchu mewn cyfarfod arbennig yn Theatr yr Young Vic ar y 9fed o Ionawr. Equity oedd wedi trefnu’r cyfarfod, gan wahodd Prif Weithredwr y Cyngor, Peter Hewitt, i geisio egluro’r rhesymeg tu ôl i'r toriadau. Chafodd ei sylwadau o fawr o groeso gan bron i 500 o’r gynulleidfa oedd yno, yn gyfuniad o gyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, actorion a chynrychiolwyr o amrywiol gyrff celfyddydol. Asgwrn y gynnen i lawer oedd y diffyg amser a roddwyd i drafod y mater, cwta pum wythnos yn cynnwys gwyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, y cyfrinachedd ynglŷn â’r newyddion, a’r diffyg sylwadau dros ddewis dyfodol ambell i theatr ar draul eraill. Ni fu unrhyw drafodaeth agored am y mater rhwng unrhyw gyrff ynghlwm â’r theatrau. Gorffennwyd y cyfarfod gyda phleidlais o ddiffyg hyder yn y Cyngor, ac fe gafwyd cefnogaeth deilwng i’r cais. Dwy theatr sydd mewn peryg yn sgil y newyddion yw Theatr yr ‘Orange Tree’ yn Richmond a Theatr y ‘Bush’ yn Shepherd’s Bush. Bydd y torriadau hefyd yn effeithio cerddorfeydd a chorau.

Yn bersonol, allai’m peidio teimlo mai bai’r gemau Olympaidd sydd wedi’u gwahodd yma yn y flwyddyn 2012, yw rhan o’r broblem. Bydd cefnogwyr y Gemau yn siŵr o anghytuno, gan daflu ffigyrau amrywiol yn profi nad oes gan hynny fawr i’w wneud â’r mater yma. Os oes rhaid dewis rhwng ychydig wythnosau o chwaraeon a blynyddoedd o theatr, mi wn i ar ba ochor fyddai i’n dymuno bod!

Fuo na ‘rioed adeg well i ymweld ag un o’r sioeau cerdd yma yn Llundain gan fod yr ymgyrch ‘Get into London Theatre’ yn cynnig gostyngiadau mawr ar docynnau i dros 50 o sioeau tan yr 8fed o Chwefror. Gallwch brynu tocynnau i’r seddau gorau am bris o £15, £25 neu £35 yn ddibynnol ar y sioe a’u hargaeledd. Mwy o wybodaeth ar y wefan : www.getintolondontheatre.co.uk

A chyfle arall eleni i sicrhau lle i Gymro neu Gymraes ar lwyfannau’r West End! Mae’r BBC ar fin cychwyn chwilio am actor ac actores i bortreadu ‘Nancy’ ac ‘Olifer’ mewn cynhyrchiad newydd o’r ddrama gerdd o’r un enw. Rhaid i’r holl ymgeiswyr am ‘Nancy’ fod yn 17oed neu’n hŷn ar Ionawr 1af 2008 ac ‘Olifer’ i fod o leia yn 9oed a ddim hŷn na 14eg ar y 31ain o Ragfyr 2008. Mwy o wybodaeth ar y wefan : www.bbc.co.uk/oliver Bob lwc!

Mae 'na amrywiaeth mawr ar fin agor yma yn Llundain, wrth inni ffarwelio â rhai o’r hen wynebau. Mae ‘Mary Poppins’ bellach wedi hedfan â’i hambarél am y tro olaf o lwyfan Theatr y Tywysog Edward, gan gychwyn ar daith genedlaethol fydd yn ymweld â Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ym mis Mawrth ac Ebrill 2009! Yn ei lle, bydd y ‘Jersey Boys’ yn hawlio’r llwyfan efo’u stori am sut y daeth Frankie Valli a’r grŵp ‘The Four Seasons’ i fod, drwy gyfansoddi eu caneuon, creu eu sain unigryw a gwerthu 175 miliwn o recordiau dros y byd i gyd, cyn bod yr un ohonynt yn 30 oed!

Bydd Jonathan Kent yn parhau â’i dymor o ddramâu yn Theatr Frenhinol yr Haymarket efo comedi gan Edward Bond ‘The Sea’ fydd yn agor ar yr 17eg o Ionawr tan Ebrill 19eg. Ymysg y cast mae Eileen Atkins a David Haig. Mwy am y cynhyrchiad yma dros yr wythnosau nesaf.

Drama newydd gan David Hare sef ‘The Vertical Hour’ sy’n agor tymor 2008 yn y Royal Court, ac yn parhau yno tan Mawrth 1af. Yn y Donmar, bydd y dramodydd o Gaerdydd, Peter Gill yn cyfarwyddo cynhyrchiad newydd o’i ddrama ‘Small Change’ sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd yn y 1950au ac sy’n sôn am gyfeillgarwch dau fachgen ifanc a pherthynas y ddau a’u mam. Bydd y ddrama yn agor ar y 10fed o Ebrill tan ddiwedd mis Mai.

Ac os da chi’n digwydd bod yn Efrog Newydd, cofiwch fod Daniel Evans ar hyn o bryd yn ail-afael yn awenau’r ddrama gerdd ‘Sunday in the Park with George’ o waith Sondheim sy’n agor ar y 25ain o Ionawr yn Studio 54, 254 West 54th Street (rhwng Broadway a 8th Aves), tan ddiwedd Ebrill. Bydd Daniel yn portreadu’r brif ran yn y ddrama gerdd sef yr artist Seurat, a chefndir rhai o’i luniau mwyaf adnabyddus. Enillodd Daniel Wobr Olivier am ei bortread o’r artist yn ystod ei gyfnod ar lwyfan yn Llundain - yr ail Olivier iddo ennill mewn cwta ychydig o flynyddoedd. Mwy o wybodaeth ar www.sundayintheparkonbroadway.com

Ac o sôn am Sondheim, cofiwch am addasiad ffilm Tim Burton o’i ddrama gerdd ‘Sweeney Todd’ sy’n agor yn genedlaethol ddiwedd Ionawr. Fues i’n ddigon ffodus i’w gweld hi ddechrau’r wythnos, a byddwch yn barod am lawer iawn, iawn o waed! Johnny Depp sy’n portreadu’r barbwr barbaraidd, ac fe dderbyniodd yntau Wobr Golden Globe ddechrau’r wythnos am ei bortread a’i ddawn i ganu! Actorion yn hytrach na chantorion yw gweddill y cast sy’n cynnwys gwraig Tim Burton, Helena Bonham Carter fel Mrs Lovett ac Alan Rickman fel y Barnwr Turpin. Dyma’r chweched tro i Burton weithio efo Johnny Depp, ac mae blas rhai o’r cynyrchiadau eraill fel ‘Edward Scissorhands’ i’w weld yn amlwg. Dim ond gobeithio y bydd y ffilm yn denu cynulleidfa newydd i’r theatrau, ac y bydd drysau’r theatrau hynny’n parhau yn agored, er gwaetha llafn anfaddeuol Cyngor y Celfyddydau. Pwy fydd â gwaed ar eu dwylo wedyn...?

Friday 11 January 2008

Edrych ymlaen...

Y Cymro – 11/01/08

A phawb bellach wedi setlo nôl yn y gwaith wedi’r holl ddathliadau, cyfle'r wythnos hon ichi lenwi’r dyddiaduron newydd efo rhai o’r cynnyrch dramatig fydd i’w weld yng Nghymru dros y misoedd nesaf.

Cychwyn efo’n Theatr Genedlaethol sy’n dechrau eu tymor o ddramâu ar y thema o ‘fradwriaeth’ efo ‘un o gynyrchiadau llwyfan mwyaf erioed yn y Gymraeg’. Sôn ydw’i am ‘Y Pair’ - cyfieithiad Gareth Miles o ddrama enwog Arthur Miller, ‘The Crucible’. Mae’r ddrama wedi’i gosod yn ystod achosion llys pentref Salem yn nhalaith Massachusetts rhwng Chwefror 1692 a mis Mai 1693 pan gyhuddwyd 150 o bobol o fod yn wrachod. Cafwyd 14 o ferched a phum gŵr yn euog ac fe’u crogwyd. Gwrthododd diffinydd arall â phledio i’r cyhuddiad ac fe’i dedfrydwyd i farwolaeth drwy ei wasgu o dan lwyth o gerrig.

Bydd y cast o 17 yn cynnwys Owen Arwyn, Rhian Jayne Bull, Fraser Cains, Richard Elfyn, Maxine Finch, Owen Garmon, Lowri Gwynne, Betsan Llwyd, Paul Morgans, Jonathan Nefydd, Catrin Powell, Christine Pritchard, Dyfan Roberts, Trefor Selway, Tonya Smith a Llion Williams gyda Catrin Morgan yn chwarae rhan arweinydd answyddogol ifanc a dichellgar gwrachod honedig Salem, Abigail Williams. Judith Roberts sy’n cyfarwyddo a Sean Crowley yn cynllunio.

Bydd y daith yn cychwyn yn Theatr Gwynedd, Bangor ar y 7fed tan y 9fed o Chwefror, 2008, cyn mynd ymlaen i Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth Chwefror 12-13; Theatr Mwldan, Aberteifi Chwefror 20-22; Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe Chwefror 28-29; Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug Mawrth 5-6; Theatr y Lyric, Caerfyrddin Mawrth 10 gan orffen y daith yn Theatr Sherman, Caerdydd ar Fawrth 13-14. Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o’r gloch.

Yn y Gwanwyn, bydd y cwmni yn mentro gyda’u hail gynhyrchiad o un o ddramâu Saunders Lewis ‘Siwan’ ac yna’r hir ddisgwyliedig ‘Iesu!’ sef drama newydd a dadleuol Aled Jones-Williams, a lwyfannir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, cyn mynd ar daith o gwmpas prif theatrau Cymru’n yr Hydref. Gobeithio hefyd y gwelwn ni’r cwmni yn cyflwyno darllediadau o’r dramâu newydd sydd wedi’u comisiynu ganddynt sy’n cynnwys gwaith gan Michael Povey, yn ogystal â dramâu buddugol Prifwyl y llynedd. Mwy o wybodaeth ar www.theatr.com

Ac o sôn am ddramodwyr newydd, rhaid llongyfarch Theatr Bara Caws am lwyfannu ‘drama broffesiynol gyntaf Dylan Wyn Rees’ fydd ar daith rhwng Mawrth 26 a’r 19 Ebrill. ‘Y Gobaith a'r Angor’ ydi teitl y gwaith, ac mae’r cwmni yn addo y cawn brofi ‘dafell o dorth bywyd sy’n ddigri a thrist, undonog a bywiog, ac yn cynnig gobaith o fath o ganol ei thywyllwch’. Y cast fydd Dyfrig Wyn Evans, Gwenno Elis Hodgkins, Huw Llŷr, John Glyn Owen a Gwyn Vaughan dan gyfarwyddyd Maldwyn John. ‘Er nad yw efallai yn addas i blant o dan 12, gyda’i gymysgedd o ffraethineb a dwyster’, mae’r cwmni yn sicr y bydd y cynhyrchiad ‘yn boblogaidd ymhlith ein cynulleidfaoedd arferol.’ Yn ystod y daith, bydd y cwmni yn ymweld â Theatr Gwynedd rhwng Mawrth 28 a 29, Galeri Caernarfon Mawrth 26, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth Ebrill 9 a Neuadd Llanofer, Caerdydd Ebrill 12. Adduned blwyddyn newydd i Bara Caws? Gwella a diweddaru eich gwefan os gwelwch yn dda! Mwy o wybodaeth ar gael drwy ffonio 01286 676335.

Rhaid canmol Arad Goch am wefan sy’n llawn gwybodaeth a chefndir y cwmni. Da iawn!. Mae blwyddyn brysur iawn yn wynebu’r cwmni sy’n cychwyn efo’u cynhyrchiad newydd o ddrama Sêra Moore Williams ‘Mwnci ar Dân’ sydd ar daith rhwng 14 Ionawr a 20 Chwefror. ‘Wrth galon Mwnci ar Dân, mae hanes bachgen ifanc anniddig sy'n chwilio am fywyd gwell, a'i gariad sydd hefyd a'i breuddwydion’, yn ôl y cwmni, ‘Mae'r ddrama yn trafod cyfrifoldeb yr unigolyn am ei hunan a thros eraill, gyda phwyslais efallai ar y cyfrifoldeb a ddaw yn sgil bod yn rhiant’. Mae’r ddrama hon yn dilyn yn nhraddodiad cynyrchiadau diweddar gan Arad Goch sy’n arbenigo mewn gwaith i blant a phobl ifanc. Bydd y cwmni yn agor ym Mhwllheli ar Ionawr 15fed cyn ymweld â Theatr Gwynedd, Bangor, Ysgol y Cymer, Rhondda, Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth, Ysgol Bro Morgannwg, Neuadd Pontyberem, Canolfan Celfyddydau Pontardawe, Ysgol Bryntawe, Neuadd Bronwydd, Theatr Llwyn, Llanfyllin, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, Chapter, Caerdydd gan orffen yn eu Canolfan yn Aberystwyth.

Bydd y cwmni hefyd yn cynnal eu pumed Ŵyl Agor Drysau rhwng Mawrth 11 a’r 15 sef Gŵyl Theatr Ryngwladol i Gynulleidfaoedd Ifanc yn cynnwys perfformiadau o Ffrainc, Denmarc, Gwlad Belg, Lloegr, Iwerddon yn ogystal â pherfformiadau gan rai o gwmnïau theatr gorau Cymru. Cynhelir yr ŵyl yn Aberystwyth. Mwy o wybodaeth ar www.aradgoch.org

Ac i orffen, draw yng Nghlwyd Theatr Cymru rhwng Ionawr 31 a Chwefror 16 mae drama newydd Sophie Stanton o’r enw ‘Cariad’ wedi’i gyfarwyddo gan Phillip Breen, gyda Esther Ruth Elliott, Bettrys Jones a Rachel Lumberg yn y cast. Rhwng Chwefror 7 a Mawrth 1, bydd Tim Baker yn cyfarwyddo ‘Breuddwyd Noswyl Ifan’ (yn Saesneg) gan Shakespeare a bydd y cast yn cynnwys Simon Armstrong, Louise Collins, Steven Elliott, Sally Evans, Bradley Freegard, Michael Geary, Phylip Harries, Eleanor Howell, Julian Lewis Jones, Daniel Lloyd, Dyfrig Morris, Siwan Morris, Alex Parry, Dyfed Potter, Sion Prichard, Lucy Rivers a Simon Watts. Gwledd dwi’n siŵr. Mwy o wybodaeth ar www.clwyd-theatr-cymru.co.uk

Friday 4 January 2008

'The Seagull'


Y Cymro – 04/01/08

Mae’n flwyddyn newydd, ac am flwyddyn sy’n wynebu’r Cwmni’r Royal Shakespeare sydd wedi ymgartrefu dros dro yn Llundain tra bod cartref parhaol y cwmni yn Stratford-upon-Avon yn cael ei drawsnewid. Mae’r gwaith yno’n gobeithio cael ei gwblhau erbyn 2010. Ac am ddewis ac amrywiaeth mae’r cwmni yn ei gynnig. Dyna chi’r ‘addasiad o ‘A Christmas Carol’ ar gyfer cenhedlaeth y rhyngrwyd’ gan Anthony Nielson - ‘God in Ruins’ sydd ar hyn o bryd yn Theatr y Soho, dau gomisiwn i awduron cyfoes arall yn Theatr y Tricycle ym mis Chwefror a Mawrth sef ‘I’ll be the devil’ gan Leo Butler a ‘Days of Significance’ gan Roy Williams. Prosiectau sy’n gwireddu breuddwyd y cwmni o wahodd awduron i weithio’n agos gyda’r actorion, yn union fel wnaeth Shakespeare ei hun. Ac o sôn am y dyn ei hun sy’n rhoi ei enw i’r cwmni, bydd digonedd o’i waith yntau i’w weld hefyd dros y flwyddyn gan fod y Cwmni ar hyn o bryd yn paratoi i lwyfannu ei gylch o ddramâu hanesyddol sef ‘Richard II’, ‘Henry IV’(rhan I a II), ‘Henry V’, ‘Henry VI’ (rhan I, II a III) a ‘Richard III’. Bydd y cyfan i’w weld yn y Roundhouse yn Llundain rhwng Ebrill 1af a Mai 25ain.

Yn y New London Theatre ar hyn o bryd, mae’r meistr Syr Ian McKellen yn ymuno â chast y Cwmni i berfformio dwy ddrama sef ‘Y Brenin Llŷr’ (King Lear) a’r ‘Wylan’ (The Seagull) o waith Chekhov. Llwyfannwyd ‘Y Brenin Llŷr’ (gan yr un cast) fel diweddglo i’r ŵyl o holl weithiau Shakespeare a gynhaliwyd yn Stratford-upon-Avon rhwng Ebrill 2006 ac Ebrill 2007 ble gwelsom berfformio 37 o ddramâu’r Meistr gan 30 cwmni gwahanol. Y ddau gynhyrchiad wedi’u cyfarwyddo gan Trevor Nunn, yn yr un theatr gyda llaw ag y creodd yntau’r sioe ‘Cats’ nôl ar ddechrau’r wythdegau. Wedi i gyfnod yr RSC ddod i ben yno, bydd Nunn yn parhau i weithio yn y theatr gan lwyfannu’r ddrama gerdd uchelgeisiol nesa i agor yma yn Llundain sef ‘Gone with the Wind’ .

Ond dilyn hanes ‘Yr Wylan’ gan Chekhov wnes i wedi’r ŵyl, a bod yn lwcus o gael gweld Syr Ian McKellen yn portreadu’r tad neu’r brawd llesg ‘Sorin’ gyda Frances Barber fel ei chwaer a’r actores ‘Arkadina’. Wrth wylio’r cynhyrchiad yma, daeth atgofion pleserus iawn am gynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o ddrama Chekhov ‘Y Gelli Geirios’ sawl blwyddyn yn ôl, gyda’r diweddar annwyl Graham Laker yn cyfarwyddo. Roedd holl naws cynhyrchiad Graham i’w weld yng ngwaith Nunn, o’r goleuo hydrefol cynnes, i’r gwisgoedd golau a’r angst teuluol. Wedi’i gyfansoddi ym 1896, mae ‘Yr Wylan’ yn cael ei hystyried fel y gyntaf o bedair prif ddrama Chekhov, gyda’r ‘Gelli Geirios’ neu ‘The Cherry Orchard’ yn cael ei gydnabod fel y pedwerydd.

Wrth i’r actores enwog a llwyddiannus ‘Arkadina’ ddod i dreulio’r haf ar stad wledig ei brawd ‘Sorin’, ynghyd â’i chariad ifanc a’r nofelydd llwyddiannus ‘Trigorin’ (Gerald Kyd), mae ei mab ‘Konstantin’ (Richard Goulding) sy’n ddarpar ddramodydd wedi cyfansoddi drama newydd sydd i’w berfformio yn yr ardd gan yr ‘wylan’ ei hun ‘Nina’ (Romola Garai) merch i dirfeddiannwr cyfagos, a channwyll ei lygad. Ond yn ystod y ddrama, mae ‘Konstantin’ yn laru ar agwedd gwamal ei fam, ac mae’r cyfan yn mynd i’r gwellt. Mae ‘Masha’ (Monica Dolan) sy’n ferch i reolwr y stad, ‘Shamrayev’ (Guy Williams), dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad efo ‘Konstantin’, ond mae’r athro lleol ‘Medvedenko’ (Ben Meyjes) hefyd mewn cariad efo hithau! Fel sy’n nodedig am waith Chekhov, buan y mae’r teimladau yn dechrau drysu, a Nina yn syrthio mewn cariad efo ‘Trigorin’ sy’n achosi tor calon i ‘Konstantin’ a chynnig terfynol gan ‘Arkadina’. Wnâi ddim sôn rhagor am y plot rhag chwalu’r stori, ond yng ngeiriau Chekhov ei hun : ‘os oes dryll yn crogi ar y mur yn yr act gyntaf, mae’n rhaid ei danio yn yr act olaf’. Ac mae ergydion y dryll hwnnw yn drasig o drist ar ddiwedd y ddrama.

Dwi wastad wedi ofni gwaith Chekhov. O gael cynhyrchiad gwael ohono, fe all suro pob awydd i weld mwy o’i waith, gan fod y cyfan mor eiriol a dwys, gyda llawer o’r prif ddigwyddiadau o fewn y ddrama, yn digwydd oddi ar y llwyfan. Braf yw medru datgan fod cynhyrchiad Trevor Nunn, fel yng ngwaith Graham Laker gynt, wedi gadael blas mwy arnai. Efallai mai un rheswm dros hyn oedd y ffaith i Nunn ei hun fynd yn ôl at y Rwsieg gwreiddiol i gyfieithu’r ddrama, yn hytrach na ‘addasiad’ arall ohoni. Drwy wneud hynny, mae’r cast wedi llwyddo i gadw rhythm naturiol dialog gwreiddiol Chekhov, ynghyd â dewis i gynnwys ambell i olygfa sydd ddim yn y gwreiddiol, fel ymgais aflwyddiannus ‘Konstantin’ i ladd ei hun ar ddiwedd yr Ail Act.

Llwyddodd McKellen a’r forwyn o gymeriad ‘Masha’ (Monica Dolan) i ddod â’r hiwmor i ganol treialon y teulu truenus yma, ac ar ddiwedd eu taith sydd wedi mynd â’r cwmni i Singapore, Melbourne, Wellington, Auckland, Efrog Newydd, Minneapolis a Los Angeles, dwi’n falch iawn o fod wedi medru eu gweld yma yn Llundain. Mae’r ddrama, ynghyd â’r ‘Brenin Llŷr’ i’w weld yn Llundain tan Ionawr 12fed. Mwy o fanylion am waith y cwmni ar www.rsc.org.uk