Total Pageviews

Wednesday 21 October 2009

'The Rise and Fall of Little Voice'





21/10/09
Dwi’m yn cofio’n iawn lle, pryd na pwy â’m cyflwynodd i i’r ffilm ‘Little Voice’ o stabal gyfoethog ffilmiau Working Title. Yr hyn allai fyth anghofio yw’r effaith gafodd y ffilm honno arnai, gan beri imi syrthio mewn cariad efo’r stori, a sicrhau lle breintiedig i’r ddwy brif actores, Brenda Blethyn fel y teigr o fam a’i merch dawel, eiddil Jane Horrocks, ar ben fy rhestr ddethol o hoff actorion. Wedi gwylio’r ffilm ddegau o weithiau, a darllen y ddrama wreiddiol gan Jim Cartwright a’i theitl llawn ‘The Rise and Fall of Little Voice’ roeddwn i’n ysu am weld cynhyrchiad llwyfan ohoni, petai ond i ymgolli yn hiwmor gogleddol ddwyreiniol Cartwright, a’i stori dwymgalon, hudolus.

Fe wyddwn i’n iawn mai nid gorchwyl hawdd fyddai llwyfannu’r ddrama, gan fod angen i’r actores sy’n portreadu’r ferch eiddil ‘LV’ fod â’r ddawn unigryw i efelychu lleisiau a dawn canu y ‘divas’ enwog fel Shirley Bassey, Dusty Springfield, Judy Garland a Marilyn Monroe, i enwi ond rhai. Dyna sut y daeth Jane Horrocks i lygad y byd, oherwydd ei dawn yng nghynhyrchiad llwyfan gwreiddiol y Theatr Genedlaethol ym 1992.

Pwy fasa’n meddwl y byddai’r gyfres ‘X Factor’ yn rhoi inni seren newydd ym myd y ddrama! Ond dyna sydd wedi digwydd, a diolch i lais unigryw Diana Vickers o’r gyfres ddiwethaf, llais a gymharwyd i Amy Winehouse a Katie Melua ar y pryd) a llais a barodd i gynhyrchwyr y ddrama weld potensial ynddi i bortreadu’r cymeriad unigryw yma. Pan glywais fod ‘The Rise and Fall of Little Voice’ ar ei ffordd i Theatr y Vaudeville ar y Strand, roeddwn i wrth fy modd, a Lesley Sharp a Mark Warren yn ymuno gyda Vickers i bortreadu’r fam ‘Mari Hoff’ a’r asiant adloniant ‘Ray Say’.

Mae’n stori syml am fam gegog, fler a diog sy’n poeni mwy am ei bywyd rhywiol na’i merch ifanc eiddil sy’n cuddio yn ei llofft i gyfeiliant recordiau’i thad. Dyma’r unig beth sy’n bwysig i ‘LV’, a thrwy wrando ac efelychu lleisiau’r ‘divas’ dramatig, mae’n teimlo’n agos at ei thad, sy’n lleddfu’r unigrwydd.

Tra ar ymweliad â’r cartref, yng nghwmi meddwol y fam, fe glyw’r asiant a’r dyn busnes ‘Ray Say’ ddawn unigryw ‘LV’, ac mae’r punnoedd posib yn ei ddallu! Wedi llusgo perchennog y clwb nos lleol, ‘Mr Boo’ (Tony Heygarth) yno i’w chlywed, mae’r ddau yn dechrau ar eu cynllun i wneud arian o’i thalent. Yr unig broblem yw perswadio ‘LV’ i gytuno.

Fel awgryma’r teitl, mae ‘LV’ yn swyno pawb sy’n ei chlywed gyda’i dawn anhygoel, a buan iawn mae’r clasuron yn llenwi pob cornel o’r clwb a’r theatr. Dyma yw’r llinyn mesur i berfformiad Diana Vickers, ac er bod y ddawn i actio braidd yn wan, mae’r gallu lleisiol yn anhygoel. Fe yrrodd ei dynwarediad o Shirley Bassey iâs oer i lawr fy nghefn.

Mae’n anodd i beidio cymharu’r cynhyrchiad hwn gyda’r ffilm, sy’n aros fel ffefryn yn fy nghof. Cryfder y ddrama yw rhoi’r cyfle i weld ochor mwy dynol o’r fam, ac roedd y fonolog ar y gwely gwag, tra yn llofft ei merch yn bwerus iawn. Monolog na chynhwyswyd yn y ffilm, a sy’n ceisio ennyn cydymdeimlad tuag at y fam yn ogystal.

Seren arall y cynhyrchiad llwyfan, fel y ffilm, yw’r cymeriad ‘Sadie’ (Rachel Lumberg) sef ffrind gorau’r fam, sy’n cael ei thrin yn ofnadwy ganddi. Dyma gymeriad llond ei chroen, lliwgar, doniol ac eto’n drasig mewn mannau, a hoffais y chwerthiniad o dalu’r pwyth yn ôl, ar ddiwedd y ddrama, pan fo’r fam yn ei dagrau yn y gwter.

‘Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear’ yw’r adnod sy’n dod o ennau ‘Mr Boo’, wedi i ‘LV’ lwyr ymlâdd, a dyma neges y ddrama mewn gwirionedd. Etifeddu cyfeillgarwch ‘Billy’ (James Cartwright) a dry’n garwriaeth wna ‘LV’ erbyn diwedd y ddrama, ac mae cân wreiddiol a phwerus Mark Owen (Take That) yn datgan y cyfan, wrth ddod â’r llen i lawr ar gynhyrchiad cofiadwy iawn.

Mae ‘The Rise and Fall of Little Voice’ i’w weld yn Theatr y Vaudeville tan ddiwedd Ionawr 2010. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.littlevoicewestend.com

Friday 16 October 2009

'Shawshank Redemption'




16/10/09

Ai fi oedd yr unig un yn y Wyndhams oedd heb weld y ffilm Shawshank Redemption neu heb ddarllen nofel Stephen King hyd yn oed? Roedd pawb a glywodd mod i ar fy ffordd yno yn hynod o eiddigeddus, ac yn ffans mawr o'r ffilm. Roedd ambell un yn honni iddynt fedru ail adrodd llinellau'r ffilm ar gof! Selog ta trist o beth ‘di hynny?

Beth, felly yw'r swyn sy'n gyfrifol am droi'r nofel am gyfeillgarwch dau garcharor yn y Shawshank State Prison yn glasur llenyddol, gweledol a bellach yn gynhyrchiad llwyfan llwyddiannus yn y West End?

A bod yn onest, doedd y syniad o wylio drama mewn carchar gan 19 o gast gwrywaidd ddim yn apelio. Gwta ddwy flynedd yn ôl, ganllath lawr y lôn yn y Garrick, cofio mentro'n bryderus i weld ‘Bad Girls - The Musical’. Carchar, carwriaeth, cam-drin a'r canu oedd yn fy aros bryd hynny, a rhywbeth yn debyg oedd ar lwyfan y Wyndhams y tro hwn. Peidiwch â'n ngham-ddallt i. Nid drama gerdd sydd yma ond yn hytrach cynhyrchiad gafaelgar, tywyll, treisgar a trasig mewn mannau am y modd y llwyddodd un dyn i wyrdroi ffordd o feddwl y frawdoliaeth gaeth a'r swyddogion llwgr. Yr eiddil yn trechu'r gormeswyr, ac yn cynnig gobaith i'r gwan.

Mae'r sialens o droi nofel, neu ffilm lwyddiannus yn gynhyrchiad llwyfan yn dipyn o fynydd i'w ddringo, ond yn amlwg yn gwerthu, fel mae ‘Calendar Girls’, ‘On the Waterfront’ a ‘Breakfast at Tiffany's’ wedi profi'n ddiweddar. Y demtasiwn yw dechrau cymharu’r perfformiadau a'r golygfeydd. Fel un oedd ddim yn gyfarwydd â gwaith King na’r ffilm, y dasg oedd i fy niddanu, fy niddori, fy nghyffwrdd ac o bosib fy addysgu.

A bod yn onest, fe lwyddodd y cynhyrchiad yn hynny o beth. Roedd perfformiadau Kevin Anderson fel y cyfrifydd ‘Andy’, sy’n honni ei fod yn ddi euog o lofruddio ei wraig a’i gyd garcharor ‘Red’ (Reg E Cathey) yn gofiadwy ac yn ganmoladwy. Roedd gan ‘Red’ dipyn mwy o dasg i’w gyflawni wrth adrodd yr hanes i ni’r gynulleidfa, ac erbyn diwedd y ddrama, a’i gyfnod yntau yn y carchar, cafwyd eiliadau o theatr hynod o sensitif a theatrig. Roedd llwybr storïol ‘Andy’ yn dipyn mwy o dasg, ac yntau’n gorfod diosg ei dillad yn gyfan gwbl o fewn munudau cynta’r ddrama, cyn cael ei dreisio gan y bwli ‘Bogs’ (Joe Hanley) a’i gyd ‘chwiorydd’. Am ryw reswm, a dwn i’m yn iawn pam, roeddwn i’n cael hi’n anodd cydymdeimlo gyda’r cymeriadau. O’r herwydd, doeddwn i’n malio fawr ddim amdanynt, ac felly, falle, ddim wedi cael blas llawn o ogoniant y nofel.

I’r rhai sy’n ffans o’r ffilm, ac yn wybyddus o gefndir a thranc y cymeriadau, allwn i lawn feddwl y bydd y ddrama’n plesio. I un fel fi, oedd yn gyfan gwbl ddibynnol ar y geiriau oedd yn cael eu hynganu ar y llwyfan, ynghyd â’r awgrymu cynnil yn y golygfeydd, falle nad oedd hynny’n ddigon i lawn werthfawrogi cyfoeth y gwreiddiol.

Mae’r ‘Shawkshank Redemption’ i’w weld ar hyn o bryd yn Theatr y Wyndhams ger Leicester Square. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.theshawshankredemption.co.uk