Total Pageviews

Friday 12 February 2010

Y Gofalwr






Y Cymro – 12/02/10

Wedi gweld y cynhyrchiad ‘perffaith’ o The Caretaker o waith Harold Pinter yma yn Llundain, gwta bythefnos ynghynt, roedd gan y Theatr Genedlaethol fynydd go serth i’w ddringo er mwyn plesio un o ffans mwyaf y dramodydd.

Dyma ddrama lwyddiannus cyntaf Pinter, ar ôl i The Birthday Party gau gwta wythnos wedi’r agor. Oni bai am adolygiad ffafriol Harold Hobson yn y Sunday Times, gafodd ei gyhoeddi ddiwrnod wedi’r cau, go brin fyddai neb wedi clywed namyn mwy am Pinter, a’i ddawn fel dewin y geiriau a’r seibiau.

Profiad personol Pinter, pan oedd yn byw mewn fflat yn Chiswick oedd egin y ddrama; mae’n cofio dau frawd yn byw ar un o’r lloriau isaf – un yn weithiwr diwyg, yn rhuthro lan a lawr y grisiau yn ddyddiol, cyn gyrru ymaith yn ei fan wen, tra bod y llall yn llawer mwy tawel, yn ei ddyfnder o ddirgelwch. Un noson, fe wahoddodd y brawd tawel drempyn i’r tŷ, hen ŵr a fu’n trigo gyda’r teulu am dair neu pedair wythnos. Dyna’r sbarc a daniodd dychymyg Pinter, sy’n nodweddiadol o sawl drama arall o’i eiddo. “I just write” oedd ei genadwri, gan adael i gyfrolau o ddamcaniaethau geisio eglurhad.

“Bu farw Pinter yn Rhagfyr 2008, felly mae'n briodol fod Theatr Genedlaethol Cymru yn cynhyrchu Y Gofalwr fel coffâd iddo” oedd symbyliad Cefin Roberts, gyda’i gynhyrchiad olaf fel Arweinydd Artistig y cwmni. Dewisodd i gyflwyno cyfieithiad y diweddar Elis Gwyn, brawd y diweddar Wil Sam, gafodd ei lwyfannu gan Gwmni Theatr Cymru yn y 1970au.

Braidd yn drwsgl oedd y trosiad imi, yn cwffio’n anfodlon gyda’r Saesneg farddonol wreiddiol, a dialog cyhyrog, gyfoethog Eifionydd. Roedd defnyddio’r gair “caretaker” yn chwithig iawn yn yr Act gyntaf, a hynny o enau ‘Aston’ (Rhodri Siôn) oedd yn amlwg yn medru ynganu geiriau Cymraeg godidog pan y myn. Roedd na gryn anghysoneb drwyddi draw, a dylid fod wedi cywiro neu addasu, er mwyn y glust. Collwyd llawer o’r seibiau effeithiol bwriadol, a’r cyfarwyddiadau llwyfan manwl o’r gwreiddiol, yn enwedig ar gychwyn y ddrama, drwy ddileu presenoldeb bygythiol ‘Mick’ (Carwyn Jones) ac elfennau pwysig o’r dirgelwch.

Roeddwn i’n bryderus iawn cyn mentro i Theatr Mwldan nos Sadwrn, a hynny am y castio. Mae dewis i lwyfannu un o ddramâu Pinter yn dipyn o her i unrhyw actor, neu gyfarwyddwr, gan fod y dehongli a throsglwyddo’r ystyr yn dasg enfawr. Wedi gweld dwsinau o gynyrchiadau aflwyddiannus dros y blynyddoedd, rhaid wrth actorion profiadol, sydd â’r gallu meistrolgar o gymeriadu’n gryf, cyn yngan yr un gair. Cymeriadau sydd wastad ar gyrion y gymdeithas, yn cwffio pob math o drais meddyliol a chorfforol; yn boddi yn eu meddyliau wrth geisio dehongli’u hanes a’u hunaniaeth, gan ddyheu am yfory gwell.

Gyda balchder, roedd y cwmni’n arddangos poster o gynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o’r ddrama, ac enw Meredith Edwards yn serennu ar y poster. Dyma ichi actor profiadol, yn ei bumdegau hwyr bryd hynny, wedi gyrfa lwyddiannus ar lwyfan ac ym myd y ffilmiau. Jonathan Pryce wedyn, yn y Trafalgar Studios yn Llundain, eto’n ŵr yn ei oed a’i amser, a phrofiad helaeth ar sawl llwyfan yn sylfaen gadarn i ddenu’r gynulleidfa. Mae’r rhestr o’r enwogion solet, sydd wedi cytuno i bortreadu’r dieithryn o drempyn ‘Davies’ ,sy’n dod i amharu ar fywydau’r ddau frawd ‘Aston’ a ‘Mick,‘ yn nodedig iawn : Donald Pleasance, Warren Mitchell, Michael Gambon, Patrick Stewart a Leonard Rossiter. Pob un yn llawer hŷn, na’r dewisedig Llion Williams.

Er bod Rhodri Siôn a Carwyn Jones yn yr oedran cywir, o ran cyfarwyddiadau Pinter, anaml iawn y rhoddir y cyfrifoldeb ar ysgwyddau mor ifanc, gyda chyfarwyddwyr yn dewis actorion hŷn er mwyn y profiad. Er cystal oedd ymdrech y ddau Gymro, doedd y dyfnder angenrheidiol ddim ar gyfyl portread plentynnaidd Rhodri Siôn o’r ‘Aston’ poenus. Doedd yr ymson teimladwy yn yr ail act, sy’n egluro nerfusrwydd ac unigrwydd y cymeriad, ddim hanner mor effeithiol ac emosiynol ac y dylai fod.

Fe sonia’r Athro Anwen Jones yn y Rhagair, fod Elis Gwyn wedi ychwanegu ystumiau gwahanol i’r gwrieddiol, er mwyn hwyluso’r deall. Cyfarwyddiadau fel ‘cau ei lygaid wrth siarad’ neu ‘pwyntio bys am i lawr’. O gofio mai ar gyfer Theatr y Gegin, Criccieth y troswyd y ddrama’n wreiddiol, hawdd gweld yr angen a’r dyhead i nodi’n fanwl er mwyn rhoi cymorth i’r actorion di-brofiad i ddeall gwaith y dramodydd dyrys hwn. Yn anffodus, glynwyd at y cyfarwyddiadau hyn yn ormodol o arwynebol, heb fynd at ddyfnder poenus cefndir y cymeriad.

Felly hefyd gyda Carwyn Jones a’r bwli o frawd ‘Mick’, sy’n fod i ennyn atgasedd, ofn, cydymdeimlad ac edifarhad, drwy gydol ei lwybr storïol. Yn anffodus, tydi camu i bob cyfeiriad mewn esgidiau caled, ddim yn cyfleu’r bwlio angenrheidiol. A bod yn deg â Carwyn, doedd dileu ei funudau o bresenoldeb holl bwysig ar gychwyn y ddrama, sy’n angori a meddiannu ei gysylltiad â’r ystafell , yn anfantais fawr iddo.

Rhaid canmol Llion Williams eto am ymdrech deg iawn, ond wedi gweld Jonathan Pryce yn hawlio’r llwyfan o’r cychwyn hyd y diwedd, allwn i’m peidio teimlo bod angen actor llawer hŷn tebyg i Stewart Jones neu John Ogwen, i gynnal y cyfan.

Anffodus, ac anymarferol oedd set dros ben bocsys, chwaethus Sean Crowley, drwy geisio cyfleu’r llanast yn lloches y ddau frawd, a’u trugareddau blith draphlith dros y lle. Y nam mwyaf oedd cuddio’r drws - un o’r elfennau pwysicaf yn y ddrama (os nad pob drama), a holl sail i’r ddelwedd ar boster y cwmni. “While watching the film, I noticed a repeating motif of looking through the door and the feeling that someone was watching you”, meddai cynllunydd ifanc y poster, Noma Bar. “...the whole door could become an abstract and an enigmatic observer” medda hi, yn rhaglen y cynhyrchiad. Collwyd eiliadau dramatig pwysig o guddio’r drws, gan ystyried cymaint o fynd a dod sydd yn y ddrama. Methais yn lân a deall hefyd pam bod ‘Mick’ wedi diflannu i’r ystafell ymolchi ar y cychwyn, yn hytrach nag allan drwy brif ddrws yr ystafell, fel y nododd Pinter. Roedd y ffenest yng nghefn y set yn llawer rhy fawr - na’r tŷ teras, a’i bedwar llofft, a sonnir amdano yn y sgript. Fu bron imi orfod galw’r Frigâd Dân ar un adeg, gan fod y mwg (diangen) o dan y llawr pren yn ddigon i fygu’r pymtheg ohonan ni oedd yn y gynulleidfa.

Chefais i ddim mo’n siomi gan gynllun Sain Dyfan Jones, sy’n amlwg, o’i brofiad helaeth, yn deall yr angen a’r defnydd o synau arswydus sy’n gallu gyrru ias oer i lawr y cefn. Braidd yn ddiddychymyg oedd goleuo Elanor Higgins, ond doedd y set ddim lles yn hynny o beth.

Felly, mae aranai ofn, mai methiant arall oedd y cynhyrchiad hwn, sy’n cynnwys holl wendidau cyson cyfnod Cefin wrth y llyw; gorddibyniaeth ar ddeunydd cyn cwmnïau drama Cymraeg, cyfieithiadau sigledig, castio anghywir, absenoldeb actorion cydnabyddedig , setiau rhy fawr ac anymarferol, a dim gweledigaeth gyffrous a mentrus.

Sioc a siom oedd gweld bod Bwrdd y Theatr wedi dewis i gyhoeddi gweddill rhaglen artistig Cefin, yn y rhaglen. I ba reswm? Ffôl iawn, ac annheg ar unrhyw Arweinydd newydd sydd â’r dasg o fynd ati i’w llwyfannu. Wedi saith mlynedd o siom, a saith miliwn o bunnau o wastraff, rhaid disgwyl am flwyddyn arall, cyn y bydd gobaith am gyfeiriad a gofalwr newydd...

Bydd Y Gofalwr ym ymweld â PHONTARDAWE 12 Chwefror, CASNEWYDD 18 Chwefror, PWLLHELI 24-27 Chwefror, RHUTHUN 02-03 Mawrth, ABERYSTWYTH 05-06 Mawrth, FELIN FACH 09-10 Mawrth, a CHAERDYDD 12-13 Mawrth. Mwy o fanylion ar www.theatr.com