Total Pageviews

Friday 6 August 2010

'Dyfodol y Theatr Genedlaethol'

Y Cymro – 06/08/10

Gyda chic i’r truan Gwilym Owen, y cychwynnodd Yr Athro Ioan Williams y drafodaeth am ddyfodol y Theatr Genedlaethol, yn Theatr y Maes, bnawn Mawrth. Cyfeirio roedd o, at yr amrywiaeth o drafodaethau a gafwyd ar raglen Wythnos Gwilym Owen, yn trafod y Theatr Genedlaethol, a hynny er gwaetha’r ffaith bod Gwilym heb weld y cynyrchiadau!. Braidd yn annheg oedd hynny yn fy marn i, gan mai ‘holi a phryfocio’ ydi pennaf nòd Gwilym, nid i roi barn am eu gwaith! Onid y gwesteion sy’n cael eu holi sy’n bwysig, ac nid barn Gwilym? Am gychwyn da!

Parhau i weld beiau wnaeth y drafodaeth, a ninnau’r adolygwyr yn ei chael hi wedyn, a hynny am y prinder o ‘adolygu safonol’ yn y Gymraeg. O ddarllen ambell i adolygiad ar wefan y BBC, ac yn Golwg, heb sôn am Radio Cymru, mae’n rhaid imi gytuno! Er hynny, hyd yn oed gyda’r adolygwyr gorau posib, yn rhesymegu’n onest ac yn ddoeth am yr arlwy, faint o wahaniaeth mewn difrif fyddai hynny’n ei wneud ar safon y cynyrchiadau? Onid chwilio am lefydd eraill i roi’r bai oedd bwriad y cyfarfod?

Daniel Evans oedd yn hawlio ac yn hwylio’r drafodaeth wedi hynny, ac yn awyddus iawn i gywiro’r ‘cam-ddyfynnu’ a fu yn y Western Mail y bore hwnnw. Wedi hanner awr o gyfweliad gyda’r newyddiadurwr Karen Price, dewis i ganolbwyntio ar yr elfen ieithyddol wnaeth Karen yn ei herthygl, gan agor y stori gyda’r sylw dadleuol, (wedi’i gipio o’i gyd-destun ehangach), y dylai’r Theatr Genedlaethol ymestyn eu harlwy i gynulleidfaoedd di-gymraeg, os am barhau.

Cafwyd trafodaeth agored ac iach iawn am yr elfen ieithyddol, a Daniel yn cyfeirio at lwyddiant cynhyrchiad Sherman Cymru o ‘Llwyth’ yn ddiweddar, ble y llwyddodd Dafydd James i daro tant ieithyddol newydd , ffres a chyfoes.

“Rhaid i’r iaith dyfu’n naturiol o gynnwys y ddrama” oedd sylw Sharon Morgan, gan gyfeirio at ei chyfieithiad o ddrama Ed Thomas, ‘House of America’ sy’n cael ei gynhyrchu’r wythnos hon gan y Theatr Genedlaethol o dan y teitl ‘Gwlad yr Addewid’. Wedi gweld y cynhyrchiad, a chlywed y cyfieithiad godidog, mae’n rhaid imi gytuno â Sharon, gan fod y Saesneg sy’n cael ei gynnwys ar ddiwedd y ddrama yn gwbl, gwbl berthnasol i’r cyd-destun, wrth i’r ‘Gweni’ a ‘Boio’ gael eu boddi yn y nelfrydau cymeriadau Jack Kerouac.

Ond roedd yma bryder hefyd, gydag Elen ap Gwynn yn ein hatgoffa am y frwydr a fu i sefydlu’r Theatr Genedlaethol drwy gyfrwng y Gymraeg, saith blynedd yn ôl. Poeni y byddai unrhyw gyd-weithio posib gyda’r National Theatre Wales, neu’r llwybr dwyieithog, yn agor pob math o ddrysau tuag at uno’r ddau gwmni, oedd ei sylw.

Fe barhaodd Daniel drwy osod y cyd-destun, drwy ofyn yn gynnil os y dylid glynu at y strwythur gwreiddiol o fod yn gwmni ‘teithiol’ a ‘prif ffrwd’?. Fe gyfeiriodd at yr elfen o gyffro a ddaeth yn sgil y National Theatre Wales, a’u patrwm syml o gynhyrchu amrywiaeth o gynyrchiadau llai, mewn lleoliadau tu allan i furiau’r theatr draddodiadol. Fe soniodd am Sherman Cymru, gan holi os mai o’r stabl honno y dylai’r holl sgwennu ‘newydd’ gael ei ddatblygu, yn sgil eu llwyddiant diweddar gyda’r ddrama ‘Llwyth’?. A’r sylw mwyaf diddorol, os mai ‘cynhyrchydd’ ynteu ‘cyfarwyddwr’ a ddylid ei benodi, er mwyn gwireddu’r freuddwyd?

Roedd yma ddigonedd o gwestiynau i’w gofyn, a Chyngor y Celfyddydau yn amlwg yn aros yn eiddgar am adroddiad y Bwrdd, yn sgil eu cais am greu ymchwiliad i ddyfodol y cwmni. Gobaith yr Athro Williams yw i fedru cyflwyno’r adroddiad i Fwrdd y Theatr ym mis Medi, er mwyn iddynt hwythau wedyn ateb cais CCC. Yn y cyfamser, bydd swydd ddisgrifiad yn cael greu i gyd-fynd â’r nod, ac i egluro’r math o rôl newydd fydd ar gael i arwain y cwmni tua’r dyfodol.

Er pa mor iach oedd y drafodaeth, does dim dwywaith bod gan y Theatr Genedlaethol dasg a chyfrifoldeb enfawr i’w gyflawni. Allwn ni drafod hyd Ddydd y Farn, fel y digwyddodd wrth sefydlu’r cwmni yn 2003. Y bobol a’r penodiad cywir sy’n holl bwysig. Y gallu a’r weledigaeth. Rhaid bod yn sicr o’r safon, yn agored ein meddyliau, yn fentrus ac yn gyfoes. Chaiff pawb ddim mo’u plesio, ar y cychwyn efallai, ond o ganfod y map cywir, o ‘yrru’r car yn ofalus, synnwn i ddim na fydd modd i ddenu llawer mwy i ddilyn ac i wireddu’r freuddwyd.

Bydd adolygiadau llawn o ddramâu’r Ŵyl i’w gweld dros yr wythnosau nesaf.

No comments: