Total Pageviews

Wednesday 16 February 2011

'Clybourne Park'






Y Cymro – 18/02/11

A sôn am berfformiadau pwerus, mi ges i’r cyfle o’r diwedd i weld cynhyrchiad y Royal Court o ‘Clybourne Park’, y bu cymaint o ganmoliaeth a sylw iddi ers y llynedd. Bellach, wedi ymgartrefu yn theatr Wyndhams, mae’r cynhyrchiad a’r ddrama ddadleuol yma yn dal i gorddi a chosi’r cynulleidfaoedd, gyda’u stori sy’n llawn o jôcs a chyfeiriadaeth hiliol, am bob carfan o’r gymdeithas.

Mae’r act gyntaf wedi’i gosod yn 1959, mewn tŷ ynghanol swbwrbia dosbarth canol croenwyn Clybourne Park, Chicago, ble mae ‘Russ’ (Stuart McQuarrie) a’i wraig hurt ‘Bev’ (Sophie Thompson) yn paratoi i fudo o’r ardal i ran arall o’r ddinas. Buan y sylweddolwn fod yna nifer o resymau dros hyn, nid yn unig am fod eu mab ‘Kenneth’ wedi cyflawni hunanladdiad yn y tŷ, yn dilyn ei brofiadau yn Rhyfel Korea, a’r ymateb a dderbyniodd gan y gymuned leol wedi iddo ddychwelyd. Ymateb a digwyddiadau sydd wedi suro ac sy’n dawel ladd enaid a meddwl ei dad Russ, wrth iddo ferwi’n dawel yn ei sedd gydol yr act gyntaf, cyn ffrwydro’n wenfflam ar ei diwedd. Ffrwydrad sy’n cal ei danio yn sgil ymweliad arweinydd cymdeithas y cymdogion lleol ‘Karl’ (Stephen Campbell Moore), sy’n erfyn arnynt i wrthod gwerthu, wedi deall mai teulu croenddu fydd yn ymgartrefu yno.

Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, fe gychwyn yr ail act yn 2009, ac mae’r tŷ ar fin cael ei ddymchwel, er mwyn codi cartref newydd i deulu croenwyn, ynghanol y gymuned groenddu! Fe dry’r holl ddadleuon ar ei ben, sy’n dysteb i ffwlbri a ffars yr Oes sydd ohoni.

Mewn sgript sy’n llawn ergydion a sylwadau miniog, am ein cymundedau, a gwirioneddau fydd yn brifo ambell un, mae digonedd o gyfleoedd hefyd gan Bruce Norris inni chwerthin yn uchel, boed hynny gyda, neu ar ben y cymeriadau. Mae 'na ambell glasur o jôc yma hefyd, ond sy’n llawer rhy las i’w hail adrodd ar dudalennau’r Cymro!

Rhwng adeiladwaith tynn y sgript, a pherfformiadau ffrwydrol a bythgofiadwy Stuart McQuarrie a Sophie Thompson (yn y ddwy act) dyma gynhyrchiad sy’n rhaid ichi’i weld.

Fydd hi ddim yn plesio pawb, a rhaid cyfaddef iddi gymryd rhyw chwarter awr o leia’ imi dderbyn a chael fy swyno gan y stori, ond unwaith mae’r crafangau’n cydio, mae’r canlyniad yn gadarnhaol iawn.

Mae 'Clybourne Park’ i’w weld yn y Wyndhams ar hyn o bryd – mwy o fanylion drwy ymweld â www.clybournepark.co.uk

No comments: