Total Pageviews

Wednesday 9 March 2011

'The Wizard of Oz'





Y Cymro – 11/03/11

Canmoliaeth fu’n clecian rhwng cytseiniaid y golofn hon dros yr wythnosau diwethaf, a hynny’n syml am fy mod i’n teimlo’n hael, yn mwynhau medru canmol, ac efallai yn dewis peidio â rhoi blaenoriaeth i’r sioeau llai cofiadwy. Unioni’r cam yr wythnos hon, a mynd ati i dafoli a dwrdio fel bo’r angen.

Y sioe ddiweddara i agor (yn swyddogol) yma yn Llundain yw’r bythol boblogaidd ‘The Wizard of Oz’ o stabl dewin y dramâu cerdd, Andrew Lloyd Webber. Does dim angen imi restru’r heip fu eisoes i’r sioe, drwy’r gyfres ar y BBC, fu’n chwilio’n ddyfal am y ‘Dorothy’ delfrydol a’r ‘Toto’ mwya’ trwsiadus am wythnosau lawer, cyn dewis y newydd ddyfodiad Danielle Hope (a’r Gymraes Sophie Evans fel ei dirprwy) i’n harwain ni gyd i lawr y lon frics melyn enwog hyd at y ddinas emrallt.

Wedi gwario miliynau ar gynlluniau’r sioe, a’i lwyfan lliwgar sy’n troi a chodi, gan ddatguddio rhyfeddodau a gweledigaeth y cynllunydd Robert Jones, siomedig ar y cyfan oedd y deunydd oedd yn cael ei ddatguddio (a’i daflunio) drosto.

Y gwendid a’r gŵyn fwya’, gan lawer a’i gwelodd hyd yma, yw’r teimlad o segurdod a diflastod mewn mannau. Er cystal y lliwiau a’r llawenydd, does fawr ddim arall i’w ganmol, heblaw'r ci! Mae’r awr a hanner o’r act gyntaf yn rhygnu mlaen, gyda gormod o olygfeydd hir rhwng dau neu dri pherson, yn hytrach na’r campweithiau cerddorol llawn dawns a drama. Mae’r agoriad yn ddiddychymyg â fflat, ac yn annheg ar brif seren y sioe, ‘Dorothy’ (Danielle Hope) sy’n rhedeg i fuarth y fferm, bron yn ddisylw, heb ddigon o adeiladwaith dramatig na cherddorol, wedi ennill y fath ganmoliaeth. Boddi yn hytrach na serennu mae’r lodes ifanc yng ngwacter enfawr y Palladium, a’i chri am Afallon draw dros yr enfys yn llawer rhy gynnar yn y sioe i gael yr adwaith haeddiannol.

Siom hefyd oedd yr enw mawr arall sef Michael Crawford, fel y dewin a llu o gymeriadau eraill drwy gydol y sioe gan gynnwys y ‘Professor Marvel’ yn yr act gyntaf (ac sydd, gyda llaw yn derbyn y gydnabyddiaeth haeddiannol gan y gynulleidfa wrth iddo gael ei ‘ddatgelu’ ar gychwyn yr olygfa). Er cystal oedd coluro a gwisgoedd y ‘Tin Man’ (Edwards Baker-Duly), y ‘Llew’ (David Ganly) a’r ‘Bwgan Brain’ (Paul Keating), wnaeth ‘run o’r tri lwyddo i guro perfformiadau perffaith y tri yn y ffilm wreiddiol, ac roeddwn i’n dyheu ac yn digalonni o weld absenoldeb asbri, cyffro a drama yng nghoreograffi stêl, diddychymyg a phrin iawn Arlene Phillips.

Yr unig gymeriad (ac actores) a roddodd wên ar fy ngwyneb oedd Hannah Waddingham fel y ‘Wicked Witch of the West’ sydd wedi’i hanfarwoli bellach yn hanes lliwgar y sioe wych ‘Wicked’. Sioe sydd ganmil gwell yn gerddorol ac yn weledol na’r llanast o liw, a’r gwacter o ganu ar lwyfan y Palladium.

Mwy am ‘The Wizard of Oz’ drwy ymweld â www.wizardofozthemusical.com

No comments: