Total Pageviews

Friday 29 April 2011

'The Passion'






Y Cymro – 29/04/11

Rhyw basio heibio, neu drosto (diolch i’r M4) fu fy unig gysylltiad â Phorth Talbot cyn y Pasg yma. Tref â naws negyddol neu ddirmygus oedd hi, yn sgil y Newyddion neu’r ystadegau truenus, a môr o goncrit yr M4 yn gorfodi pawb i fynd heibio o’r ochor arall. Ond diolch i un o feibion y dref, yr actor o Hollywood Michael Sheen, cwmni theatr Wildworks a National Theatre Wales, fydd gen i (a miloedd eraill) angerdd ac atgofion melys iawn am y dref unigryw hon am weddill fy oes.

‘The Passion’ oedd trydydd cynhyrchiad ar ddeg National Theatre Wales, sy’n cloi blwyddyn gyntaf hynod o lwyddiannus yr arweinydd artistig John McGrath. Dyma flwyddyn sydd wedi cyffwrdd pob cornel o Gymru; sydd wedi mynd â’r Theatr gorau posib at y bobol; sydd wedi cydweithio a grwpiau cymunedol a chwmnïau bach a mawr drwy’r wlad, ac sydd wedi tanio’r gobaith am ddyfodol tanbaid y Theatr yng Nghymru.

Cynhyrchiad 72awr oedd ‘The Passion’, gan gychwyn yn swyddogol am dri ar bnawn Gwener y Groglith, gan orffen yn hwyr ar Sul y Pasg. Hanes oriau olaf yr Iesu oedd wrth wraidd y cyfan, ond diolch i syniad a sgript farddonol y bardd Owen Sheers, fe blethwyd stori gywrain, llawn haenau a hanes lleol drwy’r cyfan, nes troi’r digwyddiad theatrig hwn yn llawer mwy na darn o theatr.

Roedd yr hadau wedi’u plannu’n ofalus cyn bod yr un aelod o’r gynulleidfa wedi cyrraedd, diolch i’r ddwy flynedd o gynllunio a chydweithrediad dros fil o’r gymuned leol. Gyda’r dref wedi’i threchu gan luoedd arfog y cwmni busnes ICU, oedd â’u bryd ar gael gwared â’i thrigolion er mwyn hawlio’r mwynau oedd yn drysor odditani , roedd dirfawr angen am Rywun i’w Hachub. Deugain dydd a deugain nos cyn cychwyn ein stori, diflannodd athro lleol (Michael Sheen) gan adael ei fam (Di Botcher) a’i frodyr (Rhys Matthews a Kyle Rees)i grwydro’r dref yn ddyddiol i chwilio amdano. Roedd posteri yn bla ar ffenestri’r siopau ac adroddiadau ar y newyddion lleol.

A minnau newydd ddeffro yn Llundain am chwech fore Gwener (er mwyn cychwyn am Gymru i ddal y dechrau am dri) roeddwn i’n gandryll ac ar goll yn llwyr o weld, drwy gyfrwng y Gair (Twitter) fod y cyfan eisoes wedi cychwyn ar draeth Aberafan y bore hwnnw, gyda dychweliad ‘Yr Athro’ a gafodd ei weld yn cael ei drochi yn y môr gan y ‘Dieithryn’ (Nigel Barrett). Y dieithryn a ddaeth yn ei dro i fod yn Ioan Fedyddiwr, a ddilynodd pob cam o’r daith hyd y diwedd un. Wedi myllio braidd am imi golli’r cychwyn, cefais wybod yn fuan iawn mai tridiau felly yr oedd hi am fod. Roedd sawl golygfa annisgwyl arall wedi’u trefnu, ac felly roedd gofyn bod ar flaena’ nhraed, os am gael profi’r cynhyrchiad yn ei llawn ogoniant.

Ymunais â’r chwe mil eraill oedd wedi’u casglu ar y traeth am dri, yn gymysg o gorau lleol, o gamerâu ffilm a theledu, o gerddorfeydd a diddanwyr lu, oedd wedi’i hymgasglu mewn cylch ar y traeth. Aros am gyrhaeddiad y ‘gŵr busnes’ (Hywel Simons) sef pennaeth y cwmni ICU oedd y bwriad, a’r seremoni groesawu yn cael ei ymarfer yn drylwyr o dan oruchwyliaeth y Maer a’r pwysigion lleol. I gyfeiliant 12 cwch o filwyr arfog y cyrhaeddodd y ‘gŵr busnes’ lannau’r traeth, gan eu hannerch, a chyfeirio at y cyfoeth oedd eisoes wedi dod i’r dref yn sgil codi’r draffordd sef y ‘passover’, ac y byddai llawer mwy o dda yn dod i’w rhan yn fuan iawn. (Cafodd ei wir fwriad sef i ddifa’r holl dref, mo’i ddadlennu tan yn hwyrach yn y dydd, pan ddangoswyd sgwrs gyfrinachol â’r Maer, yn ddamweiniol o flaen y dyrfa). Ynghanol y dathlu, mae un o’r gwrthwynebwyr lleol ‘Joanne’ (Francine Morgan) yn agor ei chot i ddadlennu ffrwydradau ar hyd ei chorff, ac yn bygwth hunanladdiad dros yr achos.
Dyma yw’r allwedd sy’n dod â’r ‘Athro’ i lygaid y dyrfa am y tro cyntaf, wrth iddo lwyddo i’w hachub, gan ennill ei ddilynwr a’i ddisgybl cyntaf sy’n ymuno ag Ef ar y daith. (Joanne gyda llaw a ddaeth i fod yn Jiwdas yn y Swper Olaf).

Dyna oedd diwedd yr olygfa swyddogol gyntaf, gyda’r ail (yn ôl y rhaglen) ddim tan saith ar sgwâr y dref. Roedd y siom o golli’r bore wedi fy rhybuddio, ac felly fe ddewisais i, a chwta hanner cant arall, i ddilyn yr ‘Athro’ a Joanne ar hyd y traeth, a diolch byth mod i wedi! Buan, y daethom at bysgotwr lleol a ddaeth i’w adnabod fel ‘Peter’ (David Rees Talbot). Ymunodd Pedr â’r daith, a buan roeddem yn cerdded ar hyd yr afon, draw am y dref. Dwy awr a hanner o daith dalltwch! Roedd yr Athro yn aros bob hyn a hyn, er mwyn ein haddysgu am yr ardal leol, cyn oedi ger yr afon am bicnic. ‘Faint ohonoch chi sy’ ma?’, meddai’r Sheen yn gellweirus, ‘...tua pum mil ia?!’. Ac fe borthodd y pumdeg ohonom ar chwe brechdan ham, paced o greision ac oren! All geiriau fyth ddisgrifio fath brofiad.

Erbyn saith yr hwyr, roedd y dyrfa wedi ymgasglu unwaith yn rhagor ger Neuadd y Dref ar gyfer Anerchiad swyddogol y gŵr busnes, ac yma eto roedd y gwrthwynebwyr yn gweiddi’n groch yn ei erbyn. Cododd un ferch leol ar ben y wal i’w herio, cyn cael ei saethu’n farw gan un o’r milwyr. Roedd y cyfan mor ddramatig chyffrous, a’r ias oer yn rhedeg i lawr y cefn o weld wyneb yr Athro, unwaith eto ar y sgrin, yn cludo corff y ferch ifanc ymaith. Roedd yr amwysedd a’r dirgelwch ynglŷn â’r Athro yn cynyddu, a buan iawn y gwelsom ni’r perygl a’r genfigen yn llygaid penaethiaid ICU, wrth i’r dorf gael eu swyno ganddo.

Ar ddiwedd y Nos Wener, roeddwn i’n dyheu am weld mwy, ac yn amheus os oedd mwy i’w weld ai peidio. Gwelais oleuadau yn fflachio ar y mynydd, gan feddwl mai paratoi ar gyfer y dydd i ddod yr oeddent. Dalld bore wedyn fod yr Athro a’i ddisgyblion wedi treulio’r nos ar y mynydd, draw o lygaid y cyhoedd, wrth i’r ddrama bersonol a chorfforol barhau i Michael Sheen.

Roedd y Sadwrn hefyd yn llawn cyffro ac emosiwn, wrth i fwy o stori’r dref gael ei ddadlennu mewn dwy olygfa wirioneddol wefreiddiol. Y cyntaf yn y fynwent wrth ddilyn dau frawd (Matthew Aubrey a John-Paul Macleod) meibion Sebedeus, oedd yn chwilio’n ddyfal am eu mam, ynghanol y meirw byw. Roedd y fynwent yn llawn o gyrff byw, bob un yn fud, gan syllu ar y ddau fab yn rhuthro’n orffwyll o’r fynwent i’w cuddfan o dan y ‘passover’ concrid. Roedd y muriau wedi’i gorchuddio ag enwau mewn sialc, enwau bedydd o bob oes, yn gymysg o’r Gymraeg a’r Beiblaidd, a sawl un wedi’i chroesi allan, fel petai’r ddau yn cadw cyfrif dros feirw’r dref. Dyma ddau o’r digartref, wedi’u hel o’u tai, yn sgil codi’r draffordd. Yr un oedd neges yr ail olygfa, a geiriau Waldo yn atseinio yn fy nghlust. Traffordd lle bu teuluoedd a thai, a choncrid lle fu cymdogaeth. Roedd y neges yn glir, ac ergydion lleol tuag at dranc y Porth yn sgil yr M4 yn boenus o fyw. Roedd yr olygfa ger Stryd Llewellyn yn drasig o drist wrth i hen ŵr hel atgofion am y strydoedd a’r teuluoedd a gofiodd wrth edrych allan drwy ffenest ei lofft. Ffenest oedd bellach yn wynebu’r hunllef o bileri concrid. Fesul un, fe ddychwelodd y teuluoedd, oll yn ei gynnau gwynion, ac roedd adlais hyfryd o Dan y Wenallt yn eu mynegiant.

Dod i achub y tri wnaeth yr Athro eto, gan eu hannog (ynghyd â’r gymuned gyfan) i anwesu’i hatgofion gan ddod i’w ddilyn. Ymlaen aeth y ddrama yn ôl i’r Ganolfan siopa oedd bellach dan ei sang. Gwadu adnabod ei fam yn gyhoeddus, oedd y bennod nesaf, a’n bwriodd i’r Swper Olaf yn un o Glybiau Cymdeithasol y dref. Yma eto, gwelsom werth a pharch y cynhyrchiad drwy lwyddo i ddenu enwau mawr fel Iwan Rheon, Paul Potts a’r Manic Street Preachers i ddiddanu’r dorf. Torrodd yr Athro’r frechdan, a’i rannu i’r rhai â’i ddilynodd cyn diolch i bob un am ei addysgu Ef.

Trodd Gesethmane i fod yn stad o dai Abbeyville Court , ble cafwyd golygfa arall hynod o gofiadwy wrth i’r Athro ymddiddan yn ei wewyr â’i Dad; ei ‘dad’ gyda llaw yn trwsio’r to ar dŷ cyfagos, ac yn gofyn i’w fab godi darn o lechen oedd wedi disgyn i’r llawr. Roedd haenau o ystyr ymhob gair ac ystum. “Shame, like I said, to lose a slate...” meddai’r tad wrth ei fab, “...if it saves the whole house, got to be worth it in the long run hasn’t it?”

Cael ei atal a’i arestio wnaeth yr Athro ar y nos Sadwrn, a threulio’r noson mewn cell yn yr Orsaf Heddlu lleol. Fe wyddai’r dyrfa a ddaeth yn eu dillad tywyll mai emosiynol ac ingol fyddai’r golygfeydd ar y Sul. Golygfeydd welodd yr Athro yn cael ei ddedfrydu i’w farwolaeth, a hynny yn cael ei wneud yn gynnil drwy roi’r dewis i ferch ifanc yn y Dorf. Oedd hi am weld colli’i chartref, a’r holl bethau da oedd wedi dod yn sgil y ‘passover’ a’r arian a ddaeth i’r dref? Na, oedd ei hateb deirgwaith, ac felly dyna benderfyniad y Peilat o ddyn busnes wedi’i wneud.

Aethpwyd ag Ef ymaith, ei guro a gosod coron o weiren bigog ar ei ben. Llusgwyd Ef drwy’r dref a’i Groes, nes iddo ddisgyn yn waedlyd ar y llawr. Cludwyd Ef i’r Ganolfan Siopa ble y cawsom weld ei fam yn golchi ei glwyfau i gyfeiliant telynau a chôr lleol.

Roedd yr awyrgylch a’r emosiwn ar strydoedd y Porth, wrth i’r deuddeg mil o dystion wylio Sheen yn llusgo’r Groes am dair milltir o ganol y dre i’r traeth yn wefreiddiol. Roedd y dyrfa yn fud (ar wahân i ambell i feddwyn a’i seidr a’r sigaréts) a’r dagrau ar wyneb yr hen a’r ifanc yn adrodd cyfrolau. Cydiodd sawl un yn dynn mewn lluniau a’u hatgofion o’r dref, fel pe baent am godi allor o atgofion wrth droed y Groes. Yn crogi o’r lampau stryd ar hyd y promenad roedd siwtiau tywyll, yn iasol o effeithiol o dan y neon, ac yn erbyn y nos. Codwyd y Groes, a’r Athro’n gruddfan arni, i gyfeiliant ‘Dafydd y Garreg Wen’ a’i eiriau olaf yn atsain o is-neges y cyfan “I remember...” y crefodd, “...Beach Hill, The Trafalgar Ball... The Majestic... Egan’s...Bernies... The Starlight Club...” a gyda phob enw marw, anghofiedig, cafwyd bonllef o gytuno gan y dyrfa. Bob un yn iasol o ddirdynnol, a dynnodd ddagrau i lygaid y caletaf, wrth i luniau a ffilm o’r dref a fu, gael ei daflunio ar ffynnon o ddŵr a gododd fel mur y tu cefn iddo.

Dyma fwy na chynhyrchiad theatr. Dyma gynhyrchiad a digwyddiad y bydd sôn amdani am flynyddoedd i ddod. Yn addysgiadol ac yn llawn adloniant. Profodd pobol y Porth rywbeth arbennig iawn dros y Pasg. Braint oedd cael bod yno i’w rannu. Diwedd bythgofiadwy i flwyddyn gyntaf National Theatre Wales, sy’n sicr wedi gneud eu marc, mewn mwy nag un ffordd, ar bobol Cymru a thu hwnt. Un gair. Gwych.

Bydd rhaglen yr ail flwyddyn yn cael ei gyhoeddi ddiwedd Mai.

No comments: