Total Pageviews

Friday 17 June 2011

'Lord of the Flies'







Y Cymro – 17/06/11

A ninnau ynghanol tymor yr Eisteddfota a’r Gwyliau amrywiol ymhob cwr o’r wlad, braf yw gweld drysau’r Theatr Awyr Agored yn Regent Park, Llundain yn agor ei drws blynyddol ar gyfer pedwar cynhyrchiad cofiadwy arall.

Byth ers y 1930au, mae’r tyrfaoedd wedi heidio’u ffordd i dawelwch un o barciau prydfertha gogledd Llundain, er mwyn eistedd yn yr awyr agored i wylio â phrofi perfformiadau gan rai o’n hactorion amlyca. Dros y blynyddoedd, mae’r gofod coediog unigryw yma wedi cael ei drawsnewid i fod yn amryw o leoliadau gwahanol, er mwyn diddanu’r ddinas, a’u Pimms a’u picnic, wedi diwrnod hir yn y gwaith. Yn y 1970au, ar gost o £150,000 codwyd awditoriwm addas o gadeiriau pren ar wely o gonricd, a byth ers hynny, o flwyddyn i flwyddyn, mae’r adnoddau technegol ac adloniannol wedi’u gwella, fel nad oes angen y picnic bellach gan fod y barbiciw neu’r bwffe gourmet yn cynnig arlwy blasus i’r geg, yn ogystal â’r llygaid.

Addasiad o’r nofel ddadleuol a dirdynnol ‘Lord of the Flies’ yw dewis dewr yr arweinydd artistig Timothy Sheader, i agor yr ŵyl eleni. Bu Sheader yn hynod o lwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf, gan gipio sawl gwobr theatraidd am ei gynyrchiadau tebyg i ‘Into the Woods’, ‘The Cruicible’ ac ‘Hello Dolly!’ ar ‘lwyfan’ mwdlyd y gofod coediog hwn. Fel gyda’r cynyrchiadau blaenorol yma, unwaith eto eleni, mae’r golwg gyntaf ar y ‘set’ yn ddigon i gipio gwynt y gorau. Ynghanol y goedwig, mae sgerbwd yr awyren, sydd wedi plymio i’r ddaear ar ynys bellennig, gan adael ei theithwyr , sef y bechgyn ysgol Prydeinig i gwffio’u ffordd i gadw trefn ar ei gilydd, wrth aros i gael eu hachub. O’n cwmpas, ar frigau’r coed, mae diferion o ddillad a rhannau amrywiol o’r awyren, sy’n dal i fud losgi’n dawel ers ei thranc. Y mwg tawel yn awgrym o’r dadlau tanbaid sy’n mudlosgi ym meddyliau’r bechgyn, wrth i bob un geisio hawlio’u hawdurdod dros ei gilydd. O dan draed, cannoedd o gesys a bagiau, yn un môr o lanast, ac sy’n arwydd o’r hyn sydd i ddod, cyn i’r un gair gael ei yngan.

Mae 'na gryn ddadlau dros ystyr y ‘stori’ ac is-destun neges y ddrama, gyda ‘r farn gyffredinol yn cytuno mai darlun o gymdeithas ar ei gwaethaf sydd yma; cymdeithas sy’n chwilio’n daer am arweinwyr, yn crefu am gyfarfodydd er mwyn trafod hyd ddydd y farn. Yn rheibio mannau mwyaf tywyll a beiddgar y meddwl dynol, sy’n ymylu ar orffwylledd a’r awydd anifeilaidd i ladd.

Wedi cael fy swyno gan y wledd weledol, buan iawn roedd safon actio'r unarddeg o lanciau ifanc, o bob lliw a llun, yn dadlau ac yn cwffio, yn wefreiddiol. Hyder yr arweinydd hunan ddewisedig ‘Ralph’ (Alistair Toovey) ac anwyldeb llond ei groen ‘Piggy’ (George Bukhari) oedd yn cynnal y cyfan, yn ogystal ag elfennau tywyll y meddwl dynol yng nghymeriad ‘Jack’ (James Clay) , yn gwrthod dilyn y Drefn, ac sy’n gwyrdroi’r gymdeithas, a’i throi yn anwar.

Roedd y briodas rhwng y cyfarwyddo a’r coreograffi hefyd yn gynnil ac yn gofiadwy, wrth i’r golygfeydd blethu i’w gilydd, i gyfeiliant y trac sain drawiadol. Wedi’r egwyl, wrth i’r haul fachlud ar gefnlen eang gogledd Llundain, roedd ofn y tywyllwch, a goleuo cynnil James Farncombe yn dyfnhau’r themâu tywyll , ac yn rhoi gwefr gofiadwy i bob aelod o’r gynulleidfa freintiedig.

Dyma un o’r cynyrchiadau unigryw hynny y bydd rhywun yn ei gofio amdano, bob tro y clywai sôn am nofel William Golding weddill fy mywyd. Nid yn unig am ei chynnwys amrwd, ond am y llwyfannu unigryw ond cwbl addas yma.

Erbyn i’r geiriau yma gyrraedd Cymru, bydd y pryfed wedi ymadael â’r ynys a’r gofod wedi’i drawsnewid ar gyfer yr ail a thrydydd gynhyrchiad y tymor sef addasiad o waith John Gay, ‘A Beggar’s Opera’ ac addasiad i blant o ‘Pericles’ Shakespeare, tan y 23ain o Orffennaf. Yn dilyn hynny, bydd y tymor yn dod i ben i gyfeiliant cerddoriaeth wych y brodyr Gershwin, yn y sioe ‘Crazy for You’ tan y 10fed o Fedi.

Ewch, a mwynhewch, gan gofio mynd â blanced a photel gyda chi, rhag i wyntoedd oer min nos y ddinas eich styrbio! Mwy o fanylion drwy ymweld â www.openairtheatre.org

No comments: