Total Pageviews

Friday 24 June 2011

'Realism'




Y Cymro – 24/06/11

Mae ail-ymweld ag unrhyw ddrama yn medru bod yn brofiad anghyfforddus; cof da am y cynhyrchiad cynta’, neu’r gwreiddiol yn sicr yn y cof, ac yn sbardun i lusgo’n hun i’r theatr gan obeithio ail-brofi’r wefr. Rhowch yr holl emosiynau uchod yng nghyd-destun un o fy hoff ddramâu neu ddramodwyr, yna mae’r sialens, yr her a’r disgwyliadau gymaint yn uwch!

Anghofiai fyth y wefr o weld a chlywed gwaith Anthony Nielson am y tro cyntaf, a hynny yn yr Ŵyl flynyddol yng Nghaeredin, nôl yn 2006. ‘Realism’ oedd enw’r darn, ac wrth gamu mewn i Theatr Frenhinol y Lyceum yn y ddinas, (sylwi am y tro cyntaf efallai) bwysigrwydd set trawiadol, sy’n gymaint mwy na dim ond dodrefn neu furiau ffug. Ar y llwyfan o’m blaen, roedd cafn enfawr o dywod gwyn, yn gorchuddio hyd y llwyfan. Ynghanol y tywod roedd dodrefn y ty - peiriant golchi, soffa, gwely, oergell, toiled a phopty; popeth i’w bwrpas, er mwyn creu cynfas wag ar gyfer gweledigaeth y dramodydd dan law’r cyfarwyddwr a’r cynllunydd.

Does ryfedd na fentrodd unrhyw gwmni Professional i ail-lwyfannu’r cynhyrchiad ers 2006, oherwydd roedd cost y gwreiddiol yn helaeth iawn. Gymaint mwy o ystyried y tro enfawr yn y gynffon fyddai’n sôn amdano cyn diwedd fy llith. Dewr felly yw penderfyniad arweinydd artistig newydd Theatr Soho, Steve Marmion i agor ei dymor newydd yn y theatr gyda’r campwaith cymhleth hwn.

Astudiaeth o salwch meddwl sydd wrth wraidd ‘Realism’ a’r modd mae’r prif gymeriad ‘Stuart’ (Tim Treloar) yn gweld y byd o’i gwmpas. Dau fyd a bod yn fanwl gywir; y byd go iawn, ble mae iselder ac unigrwydd yn ei lethu, a’r dyheu am ei gariad ‘Angie’ (Golda Rocheuvel) yn ei dagu, a’r byd cuddiedig yn ei ben, sy’n troi’r call yn ddiystyr, sy’n drysu ac yn cymysgu ei atgofion am ei ffrindiau gorau ‘Paul’ (Rocky Marshall) a ‘Mullet’ (Shane Zaza), ei fam (Joanna Holden) a’i dad (Barry McCarthy), ei gyn-gariad ‘Laura’ (Robyn Addison) a hyd yn oed ei gath, sy’n cael ei bersonoli gan Rocky Marshall.

Pwrpas y cafn tywod gwreiddiol oedd ychwanegu at yr amwysedd ynglŷn ag amser; y ffaith mai diferion o dywod yda ni gyd ar ddiwedd y dydd, ar draethau bywyd. Ac er mai bychan yw gofod y Soho, a’u cyllidebau yn llai fyth, cafwyd awgrym o’r thema amser drwy gydol y ddrama wrth i lif o dywod ddisgyn o’r entrychion, yn cael ei ddal gan lif y goleuadau, wrth gyfleu ymadawiad atgof arall. Gogoniant arall set drawiadol Tom Scutt, oedd galluogi’r gynulleidfa i weld hurtni meddwl y prif gymeriad, wrth i leisiau ac wynebau’r gorffennol gael eu cyfleu ar y llwyfan o’n blaen; o bennau’r cymeriadau yn ymddangos o’r bin a’r peiriant golchi neu lwyth o’r ‘Black and White Minstrels’ i gerdded allan o’r oergell, yn dawnsio gan ganu brawddegau o regfeydd na allai fyth eu hailadrodd ar dudalennau’r Cymro!

Cryfder y ddrama, heb oes, yw gallu’r cyfarwyddwr i greu triciau, dro ar ôl tro, er mwyn cyfleu’r salwch meddwl. Dylai’r ffaith bod dyn mewn siwt cath, yn camu i’r tŷ, gan regi ei ffordd drwy’i fwyd ymddangos yn gwbl ‘real’ i bawb, yn yr un modd wrth i’r fam ymddangos o nunlle, tu ôl i ddrws y gegin ar gychwyn y ddrama. Y triciau llwyfan yma sy’n codi’r cyfan uwchlaw’r dyddiol diflas, ond sy’n dwysau tristwch llanast meddwl y prif gymeriad.

Yr unig fan gwan yn y cynhyrchiad caboledig hwn yw’r diweddglo. Yn y cynhyrchiad gwreiddiol, y tro enfawr ar ddiwedd y ddrama, yw bod y cafn tywod yn diflannu mewn eiliadau o dduwch, ac yn ei le ar y llwyfan mae bocs o gegin draddodiadol, sy’n cynnwys yr holl ddodrefn a fu’n cuddio yn y tywod, i gyd yn ôl yn eu priod le. I mewn i’r olygfa ‘real’ a ‘normal’ yma y camai’r prif gymeriad, gan fynd ati i wneud paned o de i’w hun, gan aros yno hyd nes i’r aelod olaf o’r gynulleidfa adael y theatr. Dim clapio, dim curtain calls, dim byd. Dyma’r byd go iawn, os liciwch chi, ac arwydd (efallai) ei fod wedi gwella. Oherwydd cyfyngderau’r gyllideb a’r lle, methwyd a chyfleu hyn yn y Soho, ac felly fe orffennodd y ddrama, yng nghyd-destun y dryswch a fu. Difyr iawn oedd darllen sylw’r dramodydd yn y rhaglen, sydd hefyd yn cynnwys y ddrama, a gyfaddefodd ei fod wedi nodi, mewn cyhoeddiadau blaenorol, nad oedd angen y diwedd costus hwn, ond ei fod bellach yn anghytuno a hynny, ac y dylai pob cynhyrchiad o hyn allan, gynnwys awgrym o’r byd go iawn, i gloi.

Allwn i’m cytuno mwy. Cynhyrchiad gwych o ddrama ddofn, ac eto hynod o ddoniol. Mae ‘Realism’ i’w weld tan y 9fed o Orffennaf. Mwy drwy ymweld â www.sohotheatre.com

No comments: