Total Pageviews

Friday 15 July 2011

'Lend me a Tenor'






Y Cymro – 15/7/11

Rhyw fynd a dod mae dramâu cerdd yn Llundain y dyddiau yma, a chryn sôn a chynnwrf am gyrhaeddiad bob un. Ar eu ffordd i mewn mae ‘Rock of Ages’, ‘Matilda’ a ‘South Pacific’ tra bod ‘Love Never Dies’, ‘Priscilla Queen of the Desert’ a ‘Chicago’ ar eu ffordd allan.

Un ddrama gerdd y bu cryn sôn amdani ers tro oedd ‘Lend me a Tenor’, a gyrhaeddodd Theatr Gielgud fis diwethaf. Ffars lwyr o’i chychwyn i’w diwedd yw’r ddrama gerdd, sy’n seiliedig ar ddrama lwyfan Ken Ludwig o’r un enw.

‘Tito Merelli’ (Michael Matus ) yw’r ‘tenor’ yn y teitl sy’n enwog iawn ym myd Opera 1934, ac sy’n cael ei adnabod gan ei ffans fel ‘Il Stupendo’. Gyda Chwmni Opera enwog Cleveland ar ganol ymarferion o’r opera ‘Othello’ , does dim sôn am ‘Tito’ yn unman, ac mae rheolwr y cwmni, ‘Henry Saunders’ (Matthew Kelly) o’i go o’r cychwyn hyd y diwedd. Yr unig opsiwn, rhag digalonni’r gynulleidfa, a rhag gorfod ail-dalu pris y tocynnau, mae Saunders yn perswadio ‘Max Garber’ (Damian Humbley) ei gyfaill llipa, i dduo ei wyneb, rhoi wig am ei ben a gwisg ar ei gefn, a dynwared y tenor enwog.

Fel ymhob ffars, mae popeth yn mynd o’i le, ac ar un cyfnod, mae tri ‘Othello’ ar y llwyfan wrth i’r gwir fonheddwr ddadebru o’i farwolaeth / cwsg dros dro, ac wrth i Matthew Kelly ei hun orfod ffugio’i ffordd i blesio’r noddwyr. Yn anffodus i Kelly, oherwydd ei faint a’i daldra, o gymharu â’r ddau actor bychan arall, doedd yr olygfa yma yn gwneud dim synnwyr o gwbl, ac mi fydda unrhyw berson o Ddinbych i Doolally wedi sylwi ar y gwahaniaeth amlwg rhwng y tri!

Tydwi ddim yn ffan o’r ffars, a wastad yn teimlo bod angen clyfrwch eithafol i drosglwyddo’r gwir gomedi. Yn anffodus i’r cynhyrchiad yma, er gwaethaf ysblennydd y set, y gwisgoedd a’r gerddoriaeth, fe gychwynnodd y cyfan ar lefel llawer rhy uchel imi, ac felly doedd unman i ddianc. O’r olygfa gyntaf, wrth i Matthew Kelly sgrechian ei ffordd mewn panic o gwmpas y llwyfan, fe gollon nhw fy niddordeb am fy amynedd, a doedd dim troi nôl.

Gwir, bod angen cyflymdra go hegar ar unrhyw ffars, ond o gychwyn ar lefel llawer rhy uchel, doedd unman i’r elfen ddramatig gynyddu. Roedd y corcyn allan o’r botel os liciwch chi, ac felly siom oedd gwylio’r swigod yn araf ddiflannu wrth i’r ddwy awr a hanner fy moddi’n llwyr.

Cafwyd perfformiadau derbyniol gan y cast dros ben llestri, ac roedd Joanna Riding yn gofiadwy fel gwraig y tenor , ‘Maria Merelli’ a’i hymateb i’r hurtni o’i chwmpas yn yr ail olygfa yn adrodd cyfrolau am fy nheimladau i tuag at y sioe! Boddhaol oedd Matthew Kelly hefyd, a phetai wedi dofi llawer mwy ar y cychwyn, efallai, fyddwn i wedi cael mwy o fwynhad o’r cyfan.

Seren y sioe oedd ‘Desdemona’’r cynhyrchiad ( Sophie-Louise Dann) sy’n achub ar ei chyfle i ddangos ei doniau i’r tenor drwy ganu a phortreadu llu o brif gymeriadau benywaidd byd yr Opera mewn cwta ychydig o funudau - o Tosca a Violetta i Carmen.

Oedd, roedd y cyfan eto dros ben llestri, ond yn fwriadol felly y tro hwn, oedd yn peri i normalrwydd dros ben llestri'r ddrama gerdd i edrych hyd yn oed yn fwy hurt. Coreograffi Randy Skinner a Set foethus a gwisgoedd melfed Paul Farnsworth fydd yn aros yn y cof, a theimlad Broadway-aidd y cynhyrchiad enfawr hwn.

Mae’r ‘Lend me a Tenor’ i’w weld yn Theatr Gielgud ar hyn o bryd. Os am ei weld, ewch yn eitha’ sydyn. Mae digonedd o docynnau rhad ar gael, sy’n arwydd y bydd drama gerdd arall yn ymadael yn eitha’ buan... Gwynt teg efallai...

Mwy o fanylion drwy ymweld â www.tenorthemusical.co.uk

Friday 8 July 2011

'The Pride'




Y Cymro – 8/7/11

Tra bod canran go uchel o’r gymuned hoyw yn ei mudo hi am Lundain y penwythnos diwethaf, i ddathlu eu balchder yn yr Ŵyl flynyddol ‘Pride’, mudo hi am Sheffield wnes i, yn llawn balchder dros gynhyrchiad diweddara Daniel Evans, ‘The Pride’. Cyd-ddigwyddiad llwyr oedd y ffaith imi ddewis y Sadwrn hwnnw i deithio, a wyddwn i ddim, wrth archebu’r tocynnau, pa mor briodol fyddai’r dyddiad o ran y digwyddiad a chynnwys y ddrama.

Gwelwyd ‘The Pride’ am y tro cyntaf yn y Royal Court yn 2008, a dyma ddrama gyntaf Alexi Kaye Campbell. Mae’r stori wedi’i rannu dros ddau gyfnod, ac yn ymwneud â dau gwpl a safbwynt gwahanol, ond yr un emosiwn, waeth bynnag bo’r Oes.

Yn 1958, mae ‘Philip’ (Jamie Sives) sy’n briod â ‘Sylvia’ (Claire Price) mewn cariad ag ‘Oliver’ (Daniel Evans) ond oherwydd yr Oes, a’i falchder ac efallai ei gydwybod, mae ‘Philip’ yn methu dygymod â’i deimladau, ac yn cwffio’n ddyddiol yn erbyn y fath emosiwn ‘aflan’ yn ei feddwl ef. Mewn cyfres o olygfeydd pwerus, mae poen meddwl ‘Philip’ yn cael ei gyfleu’n berffaith gan berfformiad tanllyd Sives, a’i lygaid ac osgo'r corff yn adrodd cyfrolau rhwng y geiriau dethol.

Yn 2008, mae ‘Oliver’ (Daniel Evans) yn ceisio adfer ei berthynas â ‘Philip’ (Jamie Sives) sydd newydd chwalu yn sgil angen ‘Oliver’ i gael amrywiaeth yn ei fywyd rhywiol. Er gwaethaf ei gariad angerddol a diffuant tuag at ‘Philip’, mae’r ysfa a’r angen am ddynion eraill yn peri iddo golli gwir gariad ei fywyd. Yn ei unigrwydd, a rhwng ymweliadau ag amryw o buteiniaid megis ‘Y Dyn’ (Jay Simpson) mae ‘Oliver’ yn trin a thrafod ei fywyd efo’i ffrind gorau ‘Sylvia’ (Claire Price) sydd hefyd yn rhannu angst ei bywyd carwriaethol hithau, hefo fo.

Cryfder y campwaith o sgript hwn yw’r dyfnder a’r gyffelybiaeth rhwng y ddwy Oes wahanol. Mae’r chwarae ar yr enwau, sydd hefyd yn ymestyn i’r set a’r gwisgoedd, yn ychwanegu at blethu’r ddau gyfnod, gan brofi nad yw teimladau’n newid, waeth bynnag bo’r Oes.

Onestrwydd amrwd cynhyrchiad Richard Wilson a’m swynodd fwyaf, sy’n gwthio’r pedwar actor tu hwnt i’r geiriau. Roedd cwffio meddyliol ‘Philip’ ym 1958 sy’n arwain at drais yn bwerus iawn, a pherfformiad Jamie Sives yn wefreiddiol, yn enwedig yn yr Ail Act wrth iddo geisio triniaeth feddygol i’w ‘iachau’ o fod yn hoyw. Yn yr un modd gyda Daniel Evans, sy’n byw drwy nifer o deimladau a sefyllfaoedd anghyfforddus o fod yn was rhywiol yn ei drôns i butain mewn gwisg Nazi i gael ei dreisio gan ddyn y mae’n ei garu. Cadarn, cyson a chwbl gredadwy yw’r perfformiad cofiadwy yma eto gan Daniel, sy’n bleser pur i’w wylio a’i wrando ar lwyfan.

Roedd portread Claire Price o’r ddwy ‘Sylvia’ hefyd yn gofiadwy iawn, a’i phoen meddwl wrth geisio delio â theimladau cudd ei gŵr ‘Philip’ yn 1958 yn bwerus tu hwnt. Y boen o orfod rhannu’i gŵr a’i deimladau cudd, ond sy’n gwrthod trafod na chydnabod hynny â neb. Ei hawgrym hi, o wybod bod ‘Oliver’ yn hoyw, oedd ei wadd i’r tŷ ar gychwyn y ddrama, ac sy’n esgor ar y daith emosiynol hon i’r holl gymeriadau.

Yng ngofod clyd y Stiwdio yn y Crucible, Sheffield, fe brofais wefr arbennig y penwythnos diwethaf. Gwefr sy’n ein hatgoffa fod y frwydr a’r balchder yn parhau, a pha mor bwysig yw rhyddid yr unigolyn i fyw eu bywyd mor agored ac onest â phosib.

Tra bod miloedd yn dathlu eu balchder ar strydoedd Llundain, fe erys y ddrama hon fel cofnod gwerthfawr o’r hanner can mlynedd a mwy o daith i ryddid.

Mae ‘The Pride’ i’w weld yn y Crucible tan yr 16eg o ‘Orffennaf. Mynnwch eich tocynnau da chi.

Friday 1 July 2011

'Betty Blue Eyes'







Y Cymro – 01/07/11

Bu cryn dipyn o sôn am y ddrama gerdd ‘Betty Blue Eyes’ cyn imi gyrraedd Llundain nôl yn 2007, ac ymhell cyn i’r cynhyrchiad presennol ymgartrefu yn Theatr Novello, yn yr Aldwych, ar ben uchaf y Strand yma yn Llundain. Roedd y bartneriaeth greadigol Stiles and Drewe wedi bod yn cyd-weithio ar yr addasiad o ffilm enwog Alan Bennett a Michael Mowbray ‘ A Private Function’ ers blynyddoedd, a chyda chefnogaeth eu cyfaill cefnog Cameron Macintosh, a 2.5 o filiynau o bunnau, bellach mae’r sioe ar ei thraed, ac yn werth ei gweld.

Bu George Stiles ac Anthony Drewe yn cyd-weithio efo Cameron ers blynyddoedd, gan gynnwys cyfansoddi deunydd newydd ar gyfer y ddrama gerdd ‘Mary Poppins’ a welais rai blynyddoedd yn ôl. Yr hyn sy’n apelio am eu gwaith imi yw’r alawon canadwy a chofiadwy, sy’n felfed i’r glust a’r galon, ac sy’n aros yn y cof ymhell wedi gadael y theatr.

Mae’n stori fechan, glyd, sydd i’w brofi orau o resi blaen y theatr. Yr agosatrwydd a pherfformiadau cadarn, cynnil a comediol y cast cryf sy’n cynnal y stori Brydeinig hon. Wedi’i gosod ym 1947, a’r Rhyfel Byd ar ben, mae’r gymuned gyfan yn gorfod gneud y tro a’u llyfrau dogni, a’u dogn prin o gig sy’n arwain at galon y gloren flasus o’r clasur hwn. Yn gefnlen i’r cyfan, mae’r Briodas Frenhinol, y Dywysoges Elizabeth a Philip Mountbatten, ac awydd y crach i gael pryd enfawr o’r cig gorau, er mwyn dathlu achlysur arbennig hwn. Dyma sy’n arwain y cyfan at ‘Betty’, sef y mochyn pinc delia’ welsoch chi erioed, a’i llygaid glas sy’n ddigon i doddi calon y caletaf. ‘Betty’ y mae pawb yn brwydro drosti, ac sy’n ennill y dydd i bawb ar ddiwedd y dydd (gan gynnwys y Frenhines ei hun!)

Y meddyg traed ‘Gilbert Chilvers’ (Reece Shearsmith) a’i wraig bigog ‘Joyce’ (Sarah Lancashire) sy’n arwain y stori, sy’n byw’n llwm a’u prydau o Spam, wrth warchod mam ‘Joyce’ (Ann Emery). Canmol bysedd dewinol ‘Gilbert’ wna holl wragedd y gymuned, wrth iddo drin eu hanhwylderau traedol, ac mae’r gân ‘Magic Fingers’ ymhlith y gorau yn y sioe wrth i ‘Mrs Roach’ (Annalisa Rossi), ‘Mrs Lester’ (Gemma Wardle) a ‘Mrs Turnbull’ (Rachael Archer) ddianc o lymder a thristwch eu bywydau unig gan doddi yn ei ddwylo medrus.

Y dyn drwg, hanfodol, i bob drama dda yw ‘Inspector Wormold’ (Adrian Scarborough) neu’r ‘arolygydd cig’ sy’n ceisio dal unrhyw ffarmwr neu gigydd sy’n meiddio torri’r rheolau, gan fagu neu werthu unrhyw anifail, sydd ddim yn dod o dan y drefn dogni. Y gosb lywodraethol swyddogol yw paentio’r cig yn ‘regulation green’ sy’n ei wneud yn anfwytadwy. Sefyllfa hollol hurt, fel mae’r ddrama gerdd yn ei brofi.

Dyma ddarlun o gymuned ar ei chythlwng, yn fodlon gneud unrhyw beth er mwyn cael llond eu boliau a phryd blasus. Er mai bychan (ac efallai’n rhy wan i rai) yw’r stori graidd, yr hyn sy’n codi’r cyfan i dir uchel y ddrama gerdd yw dihangfa gerddorol y cymeriadau a’r munudau o fawredd theatrig o waith yr arch-gyfarwyddwr Richard Eyre a Choreograffi celfydd Stephen Mear. Rhowch y cyfan o fewn set liwgar a symudol Tim Hatley, a’u gwisgoedd cyfnod cywir, heb sôn am bresenoldeb ‘Betty’ sy’n werth pris y tocyn ynddo’i hun.

Gredwch chi ddim, ond mi welais y cynhyrchiad ddwywaith o fewn tridiau! Y tro cyntaf yn absenoldeb yr enw mawr Sarah Lancashire fel ‘Joyce’ a’i dirprwy Kirsty Hoiles yn serennu gan mil gwell yn ei lle. Mae portread y ddwy mor wahanol, ac roedd cynildeb ac anwyldeb Hoiles yn gweithio’n llawer gwell. Felly hefyd yr eildro yn absenoldeb Reece Shearsmith y tro hwn, wrth i Neil Ditt gymryd ei le fel ‘Gilbert’, ac roedd ei berfformiad gystal os nad gwell na’r gwreiddiol. Arwydd sicr bod y deunydd yn ddigon cryf ynddo’i hun, heb angen am yr enwau mawr .

Os ar ymweliad â’r ddinas, ceisiwch da chi i ddal y sioe hyfryd hon; mae tocynnau’r rhes flaen mor rhad ag £20, ac er na welwch chi gefn y llwyfan, mae’r agosatrwydd yn werth y profiad. Sioe gynnes, glyd a gwefreiddiol, mor flasus â rhost o’r porc gorau, ar bnawn dydd Sul!

Mae ‘Betty Blue Eyes’ yn Theatr y Novello. Mwy o fanylion a blas o’r sioe drwy ymweld â www.bettyblueeyesthemusical.com