Total Pageviews

Friday 8 July 2011

'The Pride'




Y Cymro – 8/7/11

Tra bod canran go uchel o’r gymuned hoyw yn ei mudo hi am Lundain y penwythnos diwethaf, i ddathlu eu balchder yn yr Ŵyl flynyddol ‘Pride’, mudo hi am Sheffield wnes i, yn llawn balchder dros gynhyrchiad diweddara Daniel Evans, ‘The Pride’. Cyd-ddigwyddiad llwyr oedd y ffaith imi ddewis y Sadwrn hwnnw i deithio, a wyddwn i ddim, wrth archebu’r tocynnau, pa mor briodol fyddai’r dyddiad o ran y digwyddiad a chynnwys y ddrama.

Gwelwyd ‘The Pride’ am y tro cyntaf yn y Royal Court yn 2008, a dyma ddrama gyntaf Alexi Kaye Campbell. Mae’r stori wedi’i rannu dros ddau gyfnod, ac yn ymwneud â dau gwpl a safbwynt gwahanol, ond yr un emosiwn, waeth bynnag bo’r Oes.

Yn 1958, mae ‘Philip’ (Jamie Sives) sy’n briod â ‘Sylvia’ (Claire Price) mewn cariad ag ‘Oliver’ (Daniel Evans) ond oherwydd yr Oes, a’i falchder ac efallai ei gydwybod, mae ‘Philip’ yn methu dygymod â’i deimladau, ac yn cwffio’n ddyddiol yn erbyn y fath emosiwn ‘aflan’ yn ei feddwl ef. Mewn cyfres o olygfeydd pwerus, mae poen meddwl ‘Philip’ yn cael ei gyfleu’n berffaith gan berfformiad tanllyd Sives, a’i lygaid ac osgo'r corff yn adrodd cyfrolau rhwng y geiriau dethol.

Yn 2008, mae ‘Oliver’ (Daniel Evans) yn ceisio adfer ei berthynas â ‘Philip’ (Jamie Sives) sydd newydd chwalu yn sgil angen ‘Oliver’ i gael amrywiaeth yn ei fywyd rhywiol. Er gwaethaf ei gariad angerddol a diffuant tuag at ‘Philip’, mae’r ysfa a’r angen am ddynion eraill yn peri iddo golli gwir gariad ei fywyd. Yn ei unigrwydd, a rhwng ymweliadau ag amryw o buteiniaid megis ‘Y Dyn’ (Jay Simpson) mae ‘Oliver’ yn trin a thrafod ei fywyd efo’i ffrind gorau ‘Sylvia’ (Claire Price) sydd hefyd yn rhannu angst ei bywyd carwriaethol hithau, hefo fo.

Cryfder y campwaith o sgript hwn yw’r dyfnder a’r gyffelybiaeth rhwng y ddwy Oes wahanol. Mae’r chwarae ar yr enwau, sydd hefyd yn ymestyn i’r set a’r gwisgoedd, yn ychwanegu at blethu’r ddau gyfnod, gan brofi nad yw teimladau’n newid, waeth bynnag bo’r Oes.

Onestrwydd amrwd cynhyrchiad Richard Wilson a’m swynodd fwyaf, sy’n gwthio’r pedwar actor tu hwnt i’r geiriau. Roedd cwffio meddyliol ‘Philip’ ym 1958 sy’n arwain at drais yn bwerus iawn, a pherfformiad Jamie Sives yn wefreiddiol, yn enwedig yn yr Ail Act wrth iddo geisio triniaeth feddygol i’w ‘iachau’ o fod yn hoyw. Yn yr un modd gyda Daniel Evans, sy’n byw drwy nifer o deimladau a sefyllfaoedd anghyfforddus o fod yn was rhywiol yn ei drôns i butain mewn gwisg Nazi i gael ei dreisio gan ddyn y mae’n ei garu. Cadarn, cyson a chwbl gredadwy yw’r perfformiad cofiadwy yma eto gan Daniel, sy’n bleser pur i’w wylio a’i wrando ar lwyfan.

Roedd portread Claire Price o’r ddwy ‘Sylvia’ hefyd yn gofiadwy iawn, a’i phoen meddwl wrth geisio delio â theimladau cudd ei gŵr ‘Philip’ yn 1958 yn bwerus tu hwnt. Y boen o orfod rhannu’i gŵr a’i deimladau cudd, ond sy’n gwrthod trafod na chydnabod hynny â neb. Ei hawgrym hi, o wybod bod ‘Oliver’ yn hoyw, oedd ei wadd i’r tŷ ar gychwyn y ddrama, ac sy’n esgor ar y daith emosiynol hon i’r holl gymeriadau.

Yng ngofod clyd y Stiwdio yn y Crucible, Sheffield, fe brofais wefr arbennig y penwythnos diwethaf. Gwefr sy’n ein hatgoffa fod y frwydr a’r balchder yn parhau, a pha mor bwysig yw rhyddid yr unigolyn i fyw eu bywyd mor agored ac onest â phosib.

Tra bod miloedd yn dathlu eu balchder ar strydoedd Llundain, fe erys y ddrama hon fel cofnod gwerthfawr o’r hanner can mlynedd a mwy o daith i ryddid.

Mae ‘The Pride’ i’w weld yn y Crucible tan yr 16eg o ‘Orffennaf. Mynnwch eich tocynnau da chi.

No comments: