Total Pageviews

Friday 30 September 2011

'Othello'




Y Cymro - 30/09/11

Mwy o Shakespeare oedd ar y fwydlen yr wythnos hon, a hynny gan y prif gogydd o Gymro, Daniel Evans, ar fwrdd crwn o lwyfan y Crucible, Sheffield. 'Othello' oedd y dewis blasus ger ein bron, a chynwysion cyfarwydd o'r gyfres deledu 'The Wire' , (ynghyd â dau actor o Gymru), sydd wedi sicrhau bod y tocynnau fel y Caviar gorau, yn brin iawn iawn.

Wedi methu mynychu noson y Wasg, a ddennodd yr enwau Mawr o Lundain a thu hwnt, cael a chael oedd hi i brynu yr unig docyn oedd ar ôl, yn rhes gefn, i dde'r llwyfan. Man na eisteddais o'r blaen, wedi fy amgylchynnu gan griw o bobol ifanc, eiddgar a direidus. Roedd y theatr yn orlawn, yn gymysg o bob oed; myfyrwyr yn astudio gwaith y bardd, selogion triw'r theatr ond canran go uchel, ddywedwn i o ffans y ddau enw mawr, Dominic West a Clarke Peters. Ill dau yng ngofal y ddau brif gymeriad, yn un o drasiediau enwocaf Shakespeare am onestrwydd.

Fyddai'n edrych ymlaen bob tro i weld y set yn Sheffield, gan fod y gofod yn grwn, ac felly'n dipyn o sialens i gynllunwyr, i arlwyo'r bwrdd o'n blaen. Cipiodd yr olygfa fy ngwynt y tro hwn o waith Morgan Large, a gyflwynodd inni fur creigiog a drysau o bren enfawr, a gynrychiolodd blastai a muriau dinas Fenis, ynghyd ag ynys heulog Cyprys. Crogwyd uwchben y cyfan, yn ôl y gofyn, lanteri o olau cannwyll, a chynheswyd y muriau moel a'r llawr mosaic gan oleuo cynnil Lucy Carter. Asiwyd y cyfan gan gyfeiliant y gwisgoedd o'r cyfnod, a'u lliwiau yn cwblhau'r wledd weledol.

Fe'n taflwyd i galon y ddrama gyda chyrhaeddiad carlamus y dihiryn o filwr 'Iago' (Dominic West) sy'n hysbysu'r llanc cefnog 'Roderigo' (Brodie Ross) am briodas ddirgel y ferch brydfertha yn Fenis, 'Desdemona' (Lily James) a'r milwr buddugoliaethus dewr a chroenddu 'Othello' (Clarke Peters). Cyhoeddiad sy'n deffro'i thad 'Brabantio' (Colin George) a sy'n cychwyn cadwyn o gelwyddau a chamdroi'r gwir o waith Iago, yn ei ymgais i ddial ar Othello, am ddewis 'Cassio' (Gwilym Lee) yn Raglaw iddo. Deffro hefyd wna gwylltineb Roderigo sy'n treiddio o'i ddymuniad yntau i hawlio calon y forwyn a sy'n arwain y cyfan at y drasiedi erchyll, ar wely o angau ar ddiwedd y dweud.

Er mod i'n croesawu'r carlamu, a gadwodd y ddrama i wibio ymlaen mor slic, collwyd ambell i air ac ystyr, ar gychwyn y ddrama. Chefais i ddim mo'n nal gan y stori a'r emosiwn tan ddiwedd yr act, a roddodd reswm pendant iawn i ddod yn ôl wedi'r egwyl. Canfyddiad Emilia (Alexandra Gilbreath) o'r hances enwog o eiddo Desdemona, sy'n ei roi i'w gŵr Iago, sy'n ei ddefnyddio fel y brif dystiolaeth o'i hanffyddloneb ffug â Cassio, yw'r sbardun sy'n tanio'r gwir ddrama. Roedd perfformiad graenus Gilbreath yn gadarn ac yn gwbl drydannol, pob gair yn glir fel cloch, a'i phresenoldeb yn gosod ambell i actor yn ei chysgod.

Cadarn, a chomedïol oedd Iago Dominic West yn ogystal, a'i acen Sheffield gartrefol yn gweddu i'r dim. Llai llwyddiannus yn anffodus oedd Clarke Peters fel Othello, a rhaid cyfaddef imi gael cryn drafferth i ddeall ei fwmblan, dro ar ôl tro, yn enwedig yn ei orffwylledd a'i salwch yn yr ail act. Clod i'r ddau Gymro, Gwilym Lee a Rhodri Miles am berfformiadau tanbaid a geirio clir, unwaith eto.

Anodd yw credu, yn ôl Cyflwyniad y cyfarwyddwr Daniel Evans, mai dyma'r tro cyntaf i 'Othello' gael ei lwyfannu yn y Crucible, a chychwyn teilwng i ddathliadau'r theatr yn ddeugain oed yr Hydref hwn. Unwaith eto, dyma gynhyrchiad cynnil, glân a gofalus gan Daniel, a'r sylw i'r pethau a'r geiriau lleiaf yn taro deuddeg, dro ôl tro. Nid adrodd barddoniaeth Shakespeare sydd yma, ond byw pob berf, ansoddair ac emosiwn. Gwych iawn.

Mae Othello i'w weld yn y Cruicible, Sheffield tan y 15fed o Hydref. Mynnwch y tocynnau prin sydd ar ôl da chi!

No comments: