Total Pageviews

Friday 2 December 2011

'The Kitchen Sink'





Y Cymro – 02/12/11

Dilyn y Cymry fu fy hanes yr wythnos hon wrth alw mewn i’r Bush Theatre er mwyn dal Lisa Palfrey a Steffan Rhodri yn y ddrama gartrefol ‘The Kitchen Sink’ a mawredd llwyfan y Coliseum wedyn, ar gyfer perfformiad hudolus Gwyn Hughes Jones, fel yr arlunydd yn opera fawr Puccini, ‘Tosca’.

Dwi di bod yn ffan mawr o waith Lisa Palfrey a Steffan Rhodri ers cryn amser; byth ers perfformiad cofiadwy Lisa fel y ‘Gwennie’ fregus yn nrama Ed Thomas, ‘House of America’ a Steffan fel y Gwyddel ‘Mc Cann’ yn nrama Pinter, ‘The Birthday Party’ yng Nghlwyd Theatr Cymru nol yn 2006. Dau actor ifanc sydd wedi llwyddo i goncro muriau theatrau Llundain, ac sy’n cael eu parchu a’u croesawu’n fawr am wneud hynny.

Withernsea, Swydd Efrog yw lleoliad cartref y teulu agos yn ‘The Kitchen Sink’, a threulio blwyddyn rhwng bwrdd a sinc y gegin wnawn ni yn nrama wreiddiol Tom Wells, wrth iddynt geisio cwffio yn erbyn hualau caeth eu bywyd, yn ysu am dorri’n rhydd o’u cwysi creulon. Ond, fel gyda llinell anfarwol Parry Williams, does dim dianc i’w gael rhag hon, ac aros o fewn eu milltir sgwâr yw dewis, os nad penyd bob un ohonynt, a charu’r hyn sydd o’u cwmpas “cos it's knackered and funny and it's falling in the sea”

Rhygnu byw o baned i baned wna’r fam ‘Kath’ (Lisa Palfrey) sy’n prysur gasglu ei darnau ugain ceiniog er mwyn fforddio i brynu sinc newydd i’r gegin; ysu am gael mynychu coleg celf yw breuddwyd eu mab hoyw ‘Billy’ (Ryan Sampson) ac er i’r freuddwyd gael ei gwireddu, siom ac estron yw’r byd mawr tu hwnt i’r pentref, ac yn ôl at ffedog ei fam y daw yntau erbyn cwymp y dail. Wedi suro mae bywyd i’r tad, ‘Martin’(Steffan Rhodri) sy’n ddyn llaeth wrth ei alwedigaeth, ond sy’n gorfod gwerthu ei fan a’i fusnes, yn sgil tiliau tsiep Tesco a gwthio ymaith pob arwydd o gariad yn ei dallineb o ddryswch wna’r ferch ‘Sophie’ (Leah Brotherhead) er cystal ymdrechion y llipryn annwyl o gariad, a’r prentis o blymwr ‘Pete’ (Andy Rush).

Allwn i’m peidio â theimlo fod adlais sicr yma o glasur o ddrama Jim Cartwright ‘Little Voice’ neu ‘Beautiful Thing’ o waith Jonathan Harvey; delio â theuluoedd dosbarth gweithiol wna’r ddwy, a chynhesrwydd clos y teulu, sy’n ffrwydro yn ystod y ddrama, cyn dod yn ôl at ei gilydd, o dan ddealltwriaeth wahanol, cyn i’r llen olaf ddisgyn.

Yng ngofod newydd y Bush Theatre (sydd bellach yn hen lyfrgell Sheppard’s Bush) llwyddodd Ben Stones i ail-greu'r tŷ ar y tywod bregus hwn, gyda’i furiau holltedig hallt, ei gegin weithredol sy’n cynnwys ffwrn sy’n tanio a thap sy’n chwistrellu dŵr yn ôl y gofyn. Hoffais yn fawr yr awgrymiadau cynnil o’r newid tymhorau, o’r blodau haul unigol a dyfodd yn gynnil yn erbyn y pedwar piler, i gwymp y dail a’r eira erbyn y diwedd.

Campwaith o actio clos y pum actor fydd yn aros yn y cof, yn byw bob berf ac yn anadlu bywyd ac enaid i gymeriadau hoffus Wells. Doeddwn i ddim eisiau ymadael â’r theatr ar ddiwedd y ddrama, gan fod yr angen i wybod mwy am eu stori yn mynnu aros. Arwydd sicr o lwyddiant y perl o ddrama brydferth, gynnes hon.

Mae ‘The Kitchen Sink’ i’w weld yn y Bush Theatre tan yr 17eg o Ragfyr.

No comments: