Total Pageviews

Friday 20 January 2012

'Lovesong'









Y Cymro – 20/1/11

Ma’ ‘na wledd yn eich aros, a phriodas o emosiwn ac egni pan ymwela Frantic Assembly â Sherman Cymru fis Chwefror. ‘Lovesong’ yw enw’r cynhyrchiad, a neb llai na Siân Phillips yw un o’r pedwar actor sy’n rhan o’r delyneg brydferth hon.

Ieuenctid, henaint, cariad a’r cof yw’r themâu sy’n cael eu harchwilio, wrth inni ddilyn hanes un cwpl ifanc, ‘William’ (Edward Bennett) a ‘Margaret’ (Leanne Row) o’u hugeiniau afieithus hyd gaethiwed a chreulondeb eu saithdegau hwyr, ‘Billy’ (Sam Cox) a ‘Maggie (Siân Phillips). O fewn munudau cynta’r ddrama, cawn wybod bod ‘Maggie’ yn sâl, ac mai byr iawn yw’r llwybr bellach. Drwy gyfres o ôl-fflachiadau cywrain a chynnil, cawn hanes eu bywyd tymhestlog gyda’i gilydd; oes o gyd-fyw yn ddedwydd, gydag ambell i dro annisgwyl yn eu llwybrau, ond y cyfan yn cael ei gywiro yn enw gwir gariad.

Os nad ydych yn gyfarwydd â gwaith Frantic Assembly, cewch eich swyno gan ddewiniaeth cyfarwyddo a choreograffi celfydd Scott Graham a Steven Hoggett. Ai ddim ati i sôn am bob manylyn, rhag imi ddifetha gwir naws y cynhyrchiad. Ond mae yma feddwl gofalus, a phriodas o symudiadau swynol a phwrpasol, dros ddawns y degawdau. Mae yma angerdd, emosiwn a geiriau fydd yn cyffwrdd â’ch enaid, gan yr awdur ifanc Abi Morgan.

Seiliwyd y ddrama ar gerdd enwog T S Elliot ‘The Love Song of J. Alfred Prufrock’ ac fe lwydda’r cynhyrchiad i ddal gwir neges y gerdd i’r dim. Hiraeth y cof ar ddiwedd y daith yw thema sy’n eich anwesu ar ddiwedd y ddrama, wrth i’r dagrau lifo oherwydd prydferthwch yr hyn a grëir o fewn y 90 munud gogoneddus hwn.

Does 'na’m dwywaith bod perfformiad a symudiad y pedwar actor cynnil yn rhan enfawr o lwyddiant y cynhyrchiad. Yr ieuenctid ffôl, llawn egni a serch ym mherfformiadau trydanol Edward Bennett a Leanne Row, yna’r styfnigrwydd caeth a’r salwch creulon sy’n poenydio unigrwydd Siân Phillips a Sam Cox. Dau sydd wedi byw ar ben eu hunain ers blynyddoedd, mewn tŷ mawr gwag, yn ddi-blant a chadwyn o gyfeillion arwynebol i gadw cwmni iddynt.

Un olygfa fydd yn aros yn y cof dros y cyfan yw creulondeb cyfaddefiad y ‘Billy’ hŷn ei fod yn barod ar gyfer ei daith unig, wedi ymadawiad ‘Maggie’. Hithau wedi morol fod popeth yn ei le ar ei gyfer, o fwyd yn y rhewgell i duniau yn y cwpwrdd, sut a phryd i fwydo’r gath hyd at gyfarwyddiadau i beiriannau’r tŷ ar gyfres o ‘post it’ notes wedi’u glynu o gwmpas y gegin.

‘Lovesong is elusive. It is a feeling, an instinct; a response to something that happened’ meddai’r tîm cyfarwyddo, ‘ The intention was to create something fragile and beautiful about love, memory and loss’ ac y mae’r ddau air, ‘For Dad’ ar glawr y ddrama / rhaglen gyhoeddedig, yn dweud y cyfan.

Ychwanegwch at y sgript gref, a’r perfformiadau pwerus rym a gweledigaeth y gerddoriaeth bwrpasol, y taflunio teimladwy a set syml ond trawiadol y cynllunydd Merle Hensel, ac fe gewch chi gyfanwaith o glasur am gariad fydd yn canu yn y cof ymhell wedi gadael y theatr.

Roedd gweld staff blaen y tŷ yn y Lyric Hammersmith nos Lun yn rhannu hancesi i aelodau ifanc y gynulleidfa, yn adrodd cyfrolau. Mynnwch eich hancesi cyn camu i’r Sherman. Byddwch wir eu hangen.

Cychwyn caboledig i’r flwyddyn newydd, a chynhyrchiad nas anghofiaf am gryn amser.

Bydd ‘Lovesong’ yn Sherman Cymru rhwng y 15fed a’r 18fed o Chwefror.

No comments: