Total Pageviews

Friday 22 March 2013

'Grimm Tales'






Y Cymro – 22/03/13

Tra bod tîm Cymru'n rhoi cweir iawn i dîm Lloegr ar y cae rygbi bnawn Sadwrn, roedd cwmni drama o Gymru yn swyno cynulleidfa o amrywiol oed yn theatr fechan y Polka yn Wimbledon.  Sôn ydw’i am Theatr Iolo a'u cynhyrchiad hudolus o syml o’r straeon tylwyth teg Almaeneg, a’u tro erchyll,  y Grimm Tales.

Braf oedd clywed bod y cwmni wedi ennill y wobr am y cynhyrchiad gorau i blant, yng ngwobraunewydd beirniaid y theatr yng Nghymru, y llynedd. Wedi taith lwyddiannus o gwmpas Cymru, gyda nifer o’r canolfannau wedi gwerthu pob tocyn, roedd hi’n braf iawn cael ymuno â’r cwmni, ar ymweliad â Llundain.

Tair stori a gafwyd, o’r trysor o gasgliad o straeon i blant gan y ddau frawd Jacob a Wilhelm Grimm, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1812.  Y straeon i gyd yn adnabyddus i genedlaethau o blant ac oedolion bellach, diolch i fyrdd o addasiadau amrywiol o raglenni plant i bantomeimiau’r Nadolig. Addasiadau sydd, gan amlaf, yn medru mwrdro neu ddofi natur fregus neu greulon y straeon gwreiddiol, yn ôl eu cynulleidfa, neu’r Oes a’u rhannant.

Hanes y brawd a’r chwaer Hansel (Wiebke Acton) a Gretel (Ceri Elen) gafodd ei chyflwyno’n gyntaf, a hynny’n hynod o annwyl a thyner, gan gofio bod môr o wynebau eiddgar, o 6 i 11 oed yn ysu am gael eu diddanu, wrth lyncu llanast llawn siwgr, ar bnawn Sadwrn gwlyb!. Gyda Elliot Quinn yn portreadu’r tad a Cassandra Jane Bond yn cyflwyno’r fam, trwy addasiad barddonol, di-lol Carol Ann Duffy a Tim Supple, a dawn yr actorion medrus i ganu offerynnau yn ogystal ag ambell i gân, fe lwyddodd y cynhyrchiad i hudo a thawelu pob cnonyn cwynfanllyd am yr awr ac ugain munud pleserus hwn.

Stori Aschenputtel (Cassandra Jane Bond) a ddilynodd, sy’n fwy adnabyddus i ni fel Sinderela, diolch i dylwyth Disney a’u tebyg sydd wedi troi’r chwedl brydferth hon, yn antur dros-ben-llestri. Oes, mae yma elfennau go erchyll, sy’n cael eu cyflwyno yma mewn modd doniol a chreadigol iawn, ond yr hyn â’m swynodd i’n bennaf oedd symlrwydd creulon y stori wreiddiol, sy’n rhoi fwy o gig a gwaed ar y cartŵn o gymeriadau arferol.

Eira Wen  (Ceri Elen) – (wedi lliwio’i gwallt yn dywyll dros gyfnod yr egwyl sy’n gamp ynddo’i hun!) sy’n agor yr ail-ran, ac yn cloi’r sioe. Yma eto, fel gyda gweddill y sioe, mae’r hyn sydd i’w weld a’i glywed ar y llwyfan yn syml ond hynod o drawiadol, diolch i gyfarwyddo  Kevin Lewis , cynllunio Erini Gregoriades, cerddoriaeth Lucy Rivers  a goleuo Jane Lalljee. Ychwanegwch at hynny eich dychymyg byw ac ymlaciwch yn swyn y gynulleidfa ifanc ac fe gewch chi brofiad theatrig hynod o gofiadwy, i bob oed.

Mae Theatr Iolo yn parhau i fod yn Wimbledon tan y 23ain o Fawrth. Rhuthrwch yno da chi!

 

No comments: