Total Pageviews

Friday 3 May 2013

'Once'




Y Cymro

Tra’n ymweld â’r ddinas, cefais y fraint flynyddol bellach o gwmni Gwanas yn y theatr, a’r ddrama gerdd ‘Once the Musical’ oedd ei dewis, y tro hwn. Wedi’i leoli o fewn muriau tafarn yn Nulyn (sy’n agored i’r gynulleidfa ar gychwyn ac ar ganol y ddrama !) dilynwn hanes y cariad dwfn sy’n esblygu rhwng y gitarydd o Wyddel (Declan Bennett ) a’i bianydd prydferth o wlad Tsiec (Zrinka Cvitešić). Swynodd symlrwydd y cynhyrchiad bawb ar Broadway, gan fod pob aelod o’r cwmni hefyd yn cyfeilio i’w hunain, wrth i’r caneuon gwerinol eu naws gael eu creu a’u canu ganddynt. Wedi’i gyfarwyddo gan y dewin dawns John Tiffany,  roddodd inni ‘Blackwatch’ a ‘Peter Pan’ drwy  Theatr Genedlaethol yr Alban, mae’n dysteb berffaith i’r gallu i greu, drwy ddychymyg a dyfeisgarwch. 

No comments: