Total Pageviews

Friday 16 August 2013

'Charlie and the Chocolate Factory'




Y Cymro – 16/08/13

Mae’r West End ma wedi mynd yn dwl-Dahl ar hyn o bryd, gyda chymaint o addasiadau gwahanol o waith yr awdur toreithiog, a anwyd yng Nghaerdydd, Roald Dahl. Wedi llwyddiant (hunan chwyddedig) y sioe Matilda, sydd bellach wedi agor ar lwyfannau Broadway yn ogystal, bu hir ddisgwyl a dyfalu sut oedd y cyfarwyddwr enwog Sam Mendes, am fynd i’r afael ag addasu’r ‘clasur’ ‘Charlie and the Chocolate Factory’ ar lwyfan enfawr theatr frenhinol yn Drury Lane.

Gyda chyllideb o hyd at £20 miliwn, roedd 'na ddigon o drin a thrafod, a’r disgwyliadau yn uchel iawn am gynhyrchiad theatrig tu hwnt.  Ac wedi bod yno, ar un o’r pum noson i’r Wasg (sy’n record ynddo’i hun!) mae’n amlwg iawn ble mae’r holl arian wedi’i wario.

Mae’r stori am ‘Charlie’ (Jack Costello) sy’n byw gartre’n dlawd gyda’i rieni a’i neiniau a’i deidiau (sy’n rhannol gaeth yn eu gwely) yn gyfarwydd i bawb, yn sgil sawl addasiad ffilm enwog o’r stori.  Wedi ennill un o bum tocyn aur prin, mae Charlie, a’i daid ‘Joe’ (Nigel Planer) yn cael ymweld â ffactri siocled yr unigryw ‘Willy Wonka’ (Douglas Hodge), yng nghwmni ei gyd enillwyr lliwgar a rhyngwladol.

Oherwydd natur y stori, mae’r act gyntaf yn eithaf araf deg a llwyd, wrth ddarlunio llymder ei fywyd teuluol, a’i ddyhead am gael dianc, sy’n cael ei gyfleu yn wych drwy’r gân ‘A letter from Charlie Bucket’ a’i dric llwyfan slic sy’n ei ddilyn.  Roedd yn llawer gwell gen i gynildeb, a llonyddwch lliwgar yr act hon, na’r ffair ddrudfawr o driciau llwyfan, pypedau, dawnsfeydd a setiau dros ben ffactri (hynod theatrig) yr ail-act, ddidrugaredd. Fel gyda gwendid ‘Matilda’ imi, mae’r ail act hon lawer rhy fywiog a phrysur, wedi’i gorlwytho â phethau da, sy’n gadael rhywun yn teimlo’n sâl o or-felysder.

Rhaid hefyd canmol cynildeb y Gymraes Alex Clatworthy, sy’n portreadu mam Charlie,  ‘Mrs Bucket’, ynghyd a’i gŵr Jack Shalloo fel y tad. Er bod gofyn i’r creadigaethau ifanc sy’n ennill y tocynnau fod yn erchyll o afiach, yn ôl diben Dahl i ddysgu gwers i blant ‘drwg’, roedd naturioldeb cymeriadau’r actorion wedi’i foddi gan feddylfryd ac ystumiau’r ysgolion dramâu bondigrybwyll sy’n pecynnu’r perfformwyr ifanc hyn, yn hytrach na meithrin eu doniau unigol.

Digon sâl, a di-nod yw’r caneuon hefyd, o waith Marc Shaiman a Scott Wittman, y ddeuawd a fu’n gyfrifol am lwyddiant y ddrama gerdd ‘Hairspray’, fu ar daith yn ddiweddar.  Yr unig un sy’n dal y glust yw ‘Pure Imagination’ sydd wedi’i ddwyn o’r ffilm, ac sy’n cyd-fynd ag un o’r golygfeydd mwyaf trawiadol y sioe, tua’r diwedd.

Os am sbloets o liw, a chynnwrf theatrig, neu os am ffoi i fyd doniol a dychymyg gorfelys-sur Dahl, yna mae’n werth ei weld. Mae beirniaid theatr Llundain, fel finna, wedi eu rhwygo gan eu barn. Rhai’n mynnu rhoi pum seren i’r sioe, ac eraill namyn dwy neu dair.  Mae un peth yn sicr, bydd hi’n siŵr o letya ar Drury Lane am flwyddyn neu ddwy, nes bydd y siocled wedi toddi a’r siwgr wedi suro.

Mae ‘Charlie and the Chocolate Factory’ i’w weld yn Theatr Drury Lane.

No comments: