Total Pageviews

Friday 9 August 2013

Cyhoeddi Chwalfa Pontio, 'Shadow Boxing', 'Richard Parker' a 'Robert Golding'



Y Cymro 9/8/13

Cychwyn yr wythnos yma, gyda chyhoeddiad a ddaeth i law ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth, ynglŷn â’r perfformiad cyntaf, Cymraeg, ar lwyfan newydd Pontio ym Mangor.  Bydd rhaid aros tan fis Medi 2014 i weld addasiad newydd y Theatr Genedlaethol o ‘Chwalfa’, nofel T Rowland Hughes am Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, Bethesda sy’n chwalu teulu Edward Ifans, a’r gymdeithas leol . Cyd-gynhyrchiad fydd hwn rhwng Pontio, Cwmni’r Frân Wen a’r Theatr Genedlaethol.

Pwy all anghofio cynhyrchiad cyntaf Cwmni Theatr Gwynedd gynt, o nofel arall T Rowland Hughes, ‘O Law i Law’, ac mae cyfarwyddwr y cynhyrchiad presennol, yn ogystal â’r cwmni Cenedlaethol, Arwel Gruffydd, yn gobeithio bydd apêl a’r cysylltiad yma, yn gymorth i’r cynhyrchiad newydd. “Roedd cynhyrchiad bythgofiadwy'r diweddar Graham Laker, yn garreg filltir a nododd tipyn o adfywiad yn hanes y theatr Gymraeg”, meddai.  “Fe ellid dadlau i lwyddiant Cwmni Theatr Gwynedd osod rhywbeth o sylfaen i Theatr Genedlaethol Cymru, a bu cefnogaeth cynulleidfaoedd ardal Bangor yn allweddol i lwyddiant cynnar y cwmni cenedlaethol,” ychwanegodd.

Newyddion da yn wir, a chyfle inni o’r diwedd ddychwelyd i’n prif theatrau, yn hytrach na gorfod teithio a cherdded a sefyll a rhynnu neu losgi neu wlychu neu gael ein bwyta’n fyw gan wybed mân, diolch i’r cynyrchiadau ‘safle penodol’ sy’n syrffedus o sylweddol ar hyn o bryd. Felly’n wir a brofais yng Nghaerdydd yn ddiweddar, mewn cynhyrchiad o dan ofal y Chapter.


‘Shadow Boxing’ gan gwmni newydd ‘Broken Souls’, a thaith bws o’r Chapter i Ganolfan Focsio yn Llanrhymni. Wedi disgwyl chwip o ganolfan swanc, yn fwrlwm o gyhyrau a chwys y paffwyr, siom oedd gweld portacabin ynghanol stad o dai cyngor, a’r gofod lleia’n byd oddi mewn. Cwta lond bws ohonom oedd yna, a diolch am hynny, neu byddai hi wedi bod yn annioddefol oddi mewn wrth geisio osgoi'r bagiau bocsio ac ergydion ‘Flynn’ y bocsiwr, a hynny yng nghysgod methiant ei dad.


Annisgwyl oedd y tro tua’r diwedd, a chollwyd yr angerdd imi wrth droi’n stori stêl arall am ddyn strêt yn cwffio gyda’i rywioldeb, yn wyneb y meddylfryd macho meysydd chwaraeon.  Er cystal oedd perfformiad chwyslyd Alex Harries a’r ffaith iddo golli hyd at ddwy stôn wrth baratoi at y rhan, ches i ddim mor wefr roeddwn i wedi’i ddisgwyl, a byddai’r cyfan wedi gweithio’n well mewn stiwdio theatr dywyll, wedi’i oleuo’n fwy effeithiol.

Diolch byth am gael eistedd i lawr a mwynhau dwy sioe yn theatr y Chapter, a hynny dan ofal ‘Darkman Productions’ y tro hyn. ‘Richard Parker’ a ‘Robert Golding’ -  dwy sioe cwbl wahanol, sy’n gweithio ar wahân, ond yn gryfach fel cyfanwaith, oherwydd natur Pinteraidd glyfar sgwennu Owen Thomas.



Dau ŵr bonheddig, ar yr olwg gyntaf, sy’n cyd deithio ar gwch yr SS Kennedy a geir yn ‘Richard Parker’ sy’n rhannu ei enw, fel y datgelir,  â’r ddau gymeriad. Enw sydd eisoes yn gyfarwydd i bawb yn sgil gweithiau Edgar Allan Poe a ‘Life of Pi’, Yann Martel yn fwy diweddar.  Casgliad google-aidd o gyd-ddigwyddiadau a gawn, sy’n llwyddo’n eithriadol o ddifyr.  Yn yr ail ddrama, ‘Robert Golding’ (sef enw bedydd cyn ei fabwysiadu) cymeriad Alastair Sill yn y ddrama gyntaf, wedi iddo ddengid o’r cwch, a phriodi ‘Jen’ (Sara Lloyd-Gregory) sy’n agor tŷ bwyta Ariadne’s yn y ddinas. Prin fod amser na lle imi fynd i fanylu am y cysylltiad Groegaidd gydag enw’r tŷ bwyta, ond fel gyda’r gyntaf, cyd-ddigwyddiadau a chynllwynio gofalus sydd wrth wraidd y stori yma eto, gydag ymddangosiad y cymeriad ‘Mark’ (Gareth John Bale), sy’n efaill i’r Richard Parker yn y stori gyntaf!


Yn sgil yr holl sgwennu ‘newydd’ sy’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd, roeddwn i wedi mynd yn orbryderus am safon y cyfan, gyda phob actor-allan-o-waith i’w weld yn rhoi pin ar bapur neu’n cydio mewn cyfrifiadur, er mwyn rhannu eu ‘gwaith’ â’r byd. Does dim o’i le ar hynny, wrth reswm, ond rhaid gofalu nad yr un gwendidau sy’n cael eu gweld a’u clywed dro ar ôl tro, a’u hefelychu gan eraill, o’r herwydd.

Dyma ddwy ddrama werth eu darllen a’u hastudio; eu hadeiladwaith yn gynnil ac yn glyfar, er bod peth gorddibyniaeth ar ystrydebau’r cyd-ddigwyddiadau. Falle mai dewis ffôl oedd i’r prif actor Gareth John Bale, benderfynu cyfarwyddo’r cyfan, gan iddo fethu â gweld bod diffyg enfawr yn llwyfannu’r llong.  Go brin y byddai unrhyw fôr mor llonydd â’r hyn a brofwyd, waeth pa mor fawr oedd y llong i ddau!

A nodyn arall o gŵyn cyn gorffen. Pam bod angen eto i bron pob cyfarwyddwr gychwyn ei gwmni theatr ei hun? Pa le mae’r ‘cyd-weithio’ awgrymedig? Fedrai ddim deall sut mae Cyngor y Celfyddydau yn gallu cyfiawnhau cymaint o grantiau prosiect unigol, i bob cwmni bach?  Mae adlais sicr yma o ddyddiau bras trên grefi goludog S4C, ganol y nawdegau, cyn i neges glir HuwJones, i ‘uno neu golli’ a chreu’r pwerdai o gwmnïau sydd gennym ar hyn o bryd.  Mae’r prif ganolfannau yn wag, yn crefu am gynyrchiadau, tra bod mwy a mwy o gynyrchiadau ar leoliad! Cyd-weithiwch da chi, cyd-ddathlwch a dowch inni gryfhau gyda’n gilydd, boed o dan bont, mewn galeri, ar faes, mewn canolfan, lwyfan neu neuadd! Amen.

Mae 'Robert Golding' i'w gweld yng Nghaeredin ar hyn o bryd. 

No comments: