Total Pageviews

Friday 27 December 2013

Rhagflas o 2014

Y Cymro – 27/12/13


Blwyddyn o ddathlu ac o gofio bydd 2014, wrth inni goffau cychwyn un o erchyllterau’r ddynol ryw – Y Rhyfel Mawr yn Haf 1914. Theatr Bara Caws fydd yn cofio’r achlysur gyda’i rifíw newydd ‘Dros y Top’ wedi’i gyfansoddi gan y cwmni ifanc – Gwion Aled, Rhian Blythe, Mirain Haf, Carwyn Jones a Rhodri Siôn, o dan fentoriaeth y dewin drama Aled Jones Williams a cherddoriaeth wreiddiol Osian Gwynedd.  Wedi llwyddiant y daith ‘Hwyliau’n Codi’ yn gynharach eleni, parhau â’r patrwm o sioeau cynnar y cwmni wnaiff Betsan Lwyd, gan efelychu arddull agit prop Joan Littlewood, a’i ‘Oh What a Lovely War’ chwedlonol, sy’n cael ei ail-lwyfannu yn Theatr Frenhinol Stratford East, hanner can mlynedd union yn ddiweddarach. Bydd y sioe i’w weld yn Llundain rhwng y Chwefror 1af a Mawrth 15fed. 



Fel y gwelsom yn Y Cymro’r wythnos diwethaf, mae’r Theatr Genedlaethol hefyd wedi cyhoeddi eu bwydlen ar gyfer y flwyddyn newydd, ond cawl eildwym eto fydd y rhan helaeth ohono. Wrth groesawu’r ail-gyfle i weld portread grymus Rhian Morgan yn ‘Dyled Eileen’ yn ystod Eisteddfod Sir Gâr, dewr iawn fydd ymgais Arwel Gruffydd i ail-greu swyn y ‘digwyddiad theatrig’ allanol ‘Blodeuwedd’ o Domen y Mur, i dywyllwch y theatr.  Dathlu agoriad Theatr Wilbert yn Pontio Bangor fydd ei gynhyrchiad o ‘Chwalfa’, wedi’i addasu gan Gareth Miles a drama wreiddiol Caryl Lewis ‘Y Negesydd’, ar y cyd â Theatr Felinfach, sy’n cwblhau’r arlwy.  Wrth feirniadu’r ail-deithio tragwyddol, rhaid canmol Arwel am ddod ag wyth drama wreiddiol i’w llwyfan eleni, a sawl prosiect addawol cyffrous o Lydaw i’r Wladfa, yn berwi yn y pair, ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Gair o gyngor ar gyfer y dyfodol – efelychwch eich llwyddiant yn hytrach na’i ail lwyfannu!

Dathlu can mlynedd ers geni dewin geiriau Dylan Thomas fydd Clwyd Theatr Cymru, wrth ail-lwyfannu ei ddrama i leisiau, ‘Under Milk Wood’, chwedeg mlynedd ers ei chyfansoddi.  Bydd y sioe, o dan gyfarwyddyd Terry Hands, i’w weld yn Yr Wyddgrug rhwng y 6ed o Chwefror a’r 8fed o Fawrth, cyn teithio i Gaerdydd, Abertawe, Casnewydd, Aberhonddu, Aberystwyth a’r Drenewydd. Bydd y cyfansoddwr John Metcalf hefyd yn cyflwyno inni ei opera wreiddiol yn seiliedig ar y ddrama, mewn sawl Canolfan drwy Gymru, o dan adain Canolfan Taliesin a dathliadau Dylan100. A phetai hynny ddim yn ddigon, mae sôn y bydd National Theatre Wales, ar y cyd â BBC Cymru yn nodi’r dathliad gyda digwyddiad unigryw fydd yn plethu ffilm a pherfformiadau o Dalacharn i Efrog Newydd rhwng Mawrth a mis Mai. 


Parhau hefyd mae’r berw dramatig yn y Chapter yng Nghaerdydd gyda llwyfaniad o ddrama hir gyntaf Theatr 1.618 sef addasiad a phortread Sharon Morgan o ‘Priodferch Utah’ gan Carmen Medway-Stephens, ddiwedd Ionawr. Cwmni difyr a doniol yr Harri Parri’s sy’n ôl ganol Chwefror ar gyfer ‘The Big Day’ o waith Llinos Mai. Rhaid imi ddweud mod i wedi cael blas da o fywiogrwydd a chreadigrwydd ei chynhyrchiad diwethaf. Dewrder y ferch ifanc Malala fydd  dan sylw Theatr Iolo, ar Fawrth 20fed, ar y cyd â New Theatre Nottingham, gyda’r cynhyrchiad ‘A Girl With a Book’.


Dathlu wythfed Ŵyl Agor Drysau, sef Gŵyl Celfyddydau Perfformio Rhyngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc fydd Arad Goch, rhwng Ebrill 1af a’r 4ydd, drwy wahodd y byd a’i blant i Aberystwyth. Bydd mwy o fanylion am yr ŵyl, a gweddill arlwy’r cwmni ar eu gwefan hynod o greadigol a lliwgar, dros yr wythnosau nesaf.


Croesawu cyfarwyddwr artistig newydd o Perth, Yr Alban fydd Sherman Cymru, pan fydd y Wyddeles greadigol Rachel O’Riordan yn ymuno â’r cwmni, ddechrau’r flwyddyn. Tan hynny, mae dwy sioe Nadolig y Sherman wedi derbyn canmoliaeth uchel ar donfeddi Trydar, felly heidiwch yno i ddal hanes ‘The Sleeping Beauties’ a ‘Corina Pavlova a’r Llew sy’n Rhuo’ tan Ionawr 4ydd. ‘Fe Ddaw’r Byd i Ben’ o waith Dafydd James fydd un o gynyrchiadau sy’n cael ei ddatblygu ar y cyd gan y Sherman, Cwmni Richard Burton a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ganol Chwefror, a dwi’n annog pawb o bob oed i weld ‘Maudie’s Rooms’ gan Roar Ensemble ganol fis Ebrill. Sioe liwgar, fywiog, werth ei brofi, fydd yn eich tywys tu hwnt i furiau’r theatr gyffredin.

Parhau i ddatblygu gwaith Aled Jones Williams sef ‘Anweledig’ (Lleisiau Ysbyty Dinbych) fydd Frân Wen, yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â chyd gynhyrchu ‘Chwalfa’ â’r Theatr Genedlaethol, a pharatoi ar gyfer sioe ieuenctid arbennig iawn yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, ym Meirionnydd.


War Horse’, ‘Wicked’, ‘Cats’ a ‘Shrek’ fydd y dramâu cerdd mawr ar daith, tra bydd yr RSC yn cyflwyno Antony Sher fel Falstaff yn ‘Henry IV’, Rhannau 1 a 2, a ‘The Two Gentlemen of Verona’, ond peidiwch â phoeni am orfod teithio i Stratford, bydd y cyfan yn cael ei ddarlledu’n fyw, i’ch theatrau lleol. 

‘Stephen Ward’ ydi drama gerdd newydd, wleidyddol, syml ond digon swynol Andrew Lloyd Webber, a welais yn Theatr yr Aldwych yr wythnos hon. Mae ynddi holl gyfalawon melys, meistr y miwsig, ond yn anffodus tydi’r gerddorfa o allweddellau  yn gwella dim, ar y gerddoriaeth. Synnwn i ddim os na fydd y sioe yn lletya yma’n hir, ond mae hi’n barod i’w theithio, oherwydd symlrwydd rhad y cyfan.



Yn Sheffield, o dan arweiniad Daniel Evans, bydd tymor o ddramâu Brian Friel gan gynnwys ‘Translations’ ac ‘Afterplay’  a sawl darlleniad o’i waith, tra bydd Daniel ei hun yn cyfarwyddo dros gant o bobol lleol yn nigwyddiad unigryw ‘The Sheffield Mysteries’. Bydd ‘The Full Monty’, hefyd o waith Daniel, i’w weld y Theatr Newydd yng Nghaerdydd a Bryste, cyn lletya yn Theatr Noël Coward, Llundain o’r 20fed o Chwefror. 

Drama gerdd olaf, ac anorffenedig y Cymro cerddorol Ivor Novello sef ‘Valley of Song’ fydd i’w weld yn theatr fechan y Finborough, yma yn Llundain am bythefnos yn unig o’r 12fed o Ionawr. Cymoedd De Cymru flwyddyn cyn cychwyn y Rhyfel Mawr, yw sail a swyn y sioe.

Ond tuag at y Donmar y bydda i’n heidio er mwyn gweld drama newydd y Cymro annwyl Peter Gill sef ‘Versailles’ o ddiwedd Chwefror tan Ebrill, ac yna ‘Privacy’ gan James Graham, awdur ‘This House’ a ‘Tory Boyz’, o ganol Ebrill tan ddiwedd Mai.


Digon felly at ddant pawb. Mwynhewch a chefnogwch eich theatrau!

No comments: