Total Pageviews

Friday 20 December 2013

Spamalot

Y Cymro – 20/12/13


Mae hogia’r Monty Python yn ôl yn y newyddion ar hyn o bryd, yn sgil cyhoeddi eu haduniad arbennig yng ngofod enfawr yr O2, yma yn Llundain, yn 2014. Aduniad, gyda llaw, a werthodd pob ticed o fewn eiliadau! Felly, mae’r galw am ddeunydd doniol a deifiol pump o’r chwe gwreiddiol dawnus yma’n ddihareb o ddibynnol. 

Os am flas o waith un o’r creaduriaid comig, y Cymro o Fae Colwyn, Terry Jones, yna heidiwch i gastell Caerdydd dros y Nadolig, i gartref dros dro'r ‘Silly Kings’. Bydd y sioe deuluol ryngweithiol hon yn llawn plisg cnau coco’r Pythoniaid, hiwmor gwirion a cherddoriaeth fyw Patrick Dawes o Groove Armada, â’r cyfan mewn Spiegeltent enfawr wedi’i gwresogi, oddi mewn i furiau’r castell mawreddog.  Ymhlith y cast, sy’n cynnwys cerddorion a pherfformwyr syrcas, mae’r actorion Remy Beasley, Stephen Casey, Kier Charles, George Fuller, Maxwell James, Hannah McPake, Sion Pritchard a Matthew Woodyatt.


Mae’r sioe yng Nghaerdydd tan y 4ydd o Ionawr. Mwy drwy ymweld â www.nationaltheatrewales.org neu drwy ffonio 029 2063 6464.

A dyma ddod at Gymro arall, fu’n serennu yn sioe deithiol Monty Python, ‘Spamalot’ ond sydd bellach wedi nythu yn theatr y Playhouse yma yn Llundain, nepell o’r Strand a’r afon Tafwys.  Nid dyma’r tro cyntaf imi weld y sioe liwgar a bywiog hon; cefais y cyfle i’w dal hi ar lwyfan enfawr theatr y Palace, rai blynyddoedd yn ôl, cyn iddi ymadael â’r West End, a theithio o gwmpas y wlad, cyn dychwelyd. Dychwelyd am fod galw mawr amdani, mae’n debyg, a hawdd gweld pam.


Chware ar eiriau sydd yma, drwyddi draw, wrth droi Camelot y Brenin Arthur yn Spamalot, dafod yn eich boch! Yn ddigon tebyg i’r ‘cig’ o’r un anian, mae’r gymysgfa yma o gomedi geiriol slapstic, hiwmor hynod o’r pair Python a dirmyg doniol tuag at ddramâu cerdd, yn cydio o’r cychwyn cyntaf. Gyda phob mis a blwyddyn aiff heibio, caiff y deunydd ei addasu i’w gadw’n gyfoes o’r Boris benfelyn (maer Llundain) ar un o’i feiciau hynod i sgarmes Saatchi a’i gogyddes o gyn-wraig i’r babi brenhinol.


Mi wyddwn fod Steffan Harri, y llanc ifanc dawnus o Ddolannog, ger Llanfair Caereinion, a raddiodd o’r Guildford School of Acting (gydag anrhydedd y myfyriwr gorau), wedi ymuno â chast y sioe egniol hon. Er bod ei gyfraniad nos weithiol arferol yn cynnwys Ffrancwr gwallgo’ ac Albanwr anifeilaidd (yn ogystal â dawnsiwr Morus yn ystod un o ganeuon enwocaf y sioe), ddiwedd yr wythnos diwethaf, cefais y fraint o’i weld yn dirprwyo un o brif actorion, sef ‘Lancelot’.  A bod yn gwbl onest efo chi, oni bai am allu anhygoel Steffan i newid cymeriad, acen  a gwisg mewn eiliadau prin, go brin y byddai sioe o gwbl y noson honno! 


Wrth i’r golygfeydd doniol ddilyn taith y Brenin Arthur a’i seid-cic o was, sy’n cael eu portreadu ar hyn o bryd gan ‘Dick and Dom’ – sêr rhaglenni plant CBBC, i geisio canfod y Greal Sanctaidd, ymddangosodd Steffan mewn myrdd o gymeriadau gwahanol, gan barhau i bortreadu ei gymeriadau arferol! Gyda phob cymeriad newydd a ddaeth i’r llwyfan, bu’n rhaid imi syllu’n ofalus a phendroni cyn deall, a rhyfeddu eto, at ddawn drydanol y Cymro i greu’r creadigaethau comediol, dro ar ôl tro. O goeden uchel ar stilts i’r arwr sy’n ennill calon Gwenhwyfar, yn ei thong o drôns! – (ond peidiwch â sôn am hynny wrth Barti Cut Lloi, neu caiff o byth beint arall yn nhafarn unigryw'r Cann Office!)


Braint yn wir oedd ei longyfarch, a chael clonc gyda’i rieni cefnogol a’i deulu a chyfeillion balch, ar ddiwedd y sioe. O lwyfan Eisteddfod yr Urdd a Theatr Maldwyn, hyd golegau a llwyfannau Llundain, roedd ei bresenoldeb hyderus, ei wên hudolus a’i allu actio yn amlwg iawn, o’i gamau cyntaf ar y llwyfan. Prawf sicr o’i allu a’i brofiad, a diolch enfawr iddo am ddewis y llwyfan, yn hytrach na’r cae chwarae! 

Heidiwch i’w weld tra medrwch chi, ac os na chewch chi gyfle i ddal y sioe yma, mi glywais si gan dderyn bach, ei fod eisoes wedi’i ddewis i bortreadu un o brif gymeriadau mewn drama gerdd enwog arall, yn y flwyddyn newydd! Da iawn wir, a chwbl haeddiannol.

Mae Spamalot i’w weld yn y Playhouse tan yr 22ain o Chwefror 2014. Cofiwch bod dau docyn i’w gael, am bris un, bob nos fawrth! Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.spamalotwestend.co.uk neu drwy ffonio 0844 871 7631.

No comments: