Total Pageviews

Friday 8 May 2015

'American Buffalo'


Fues i rioed yn ffan o’r dramodydd Americanaidd David Mamet. Wedi gweld gormod o gynyrchiadau gwan o’i waith mae’n siŵr! Ei ogoniant i rai yw ei lonyddwch a’i ddyfnder, ei lais aflafar lliwgar ‘lygredig’, sy’n peri iddo gael ei gydnabod (ymysg rhai) fel ‘Shakespeare'r iaith frwnt, ddinesig’. Mae’n sialens fawr i gyfarwyddwr, cynllunydd ac actorion  fedru goresgyn yr hualau uchod, gan greu gwledd i’r llygaid, i’r galon ac i’r glust. Wel, braf ydi medru cyhoeddi fod Daniel Evans, yr actor a’r cyfarwyddwr o’r Rhondda, wedi llwyddo unwaith eto gyda champwaith o gynhyrchiad o ddrama Mamet, ‘American Buffalo’ sydd newydd agor (yn swyddogol) yn Theatr y Wyndham’s, yma yn Llundain. Theatr, gyda llaw, ble y gwelais Daniel ei hun, bron i ddeng mlynedd yn ôl, yn cipio’i ail wobr Olivier am ei bortread o’r artist Seurat yn nrama gerdd Sondheim, ‘Sunday in the Park with George’.


Tri sydd ar y llwyfan godidog, sydd wedi’i drawsnewid i fod yn siop llawn llanast yn Chicago, tua 1975. Pan gododd y llen, roedd ymateb y gynulleidfa i wledd liwgar weledol o waith y cynllunydd Paul Wills yn argyhoeddi’n dda. A chawsom ni mo’n siomi. Mae’r stori ei hun yn eitha gwan. ‘Don Dubrow’ (John Goodman) yn cadw siop o hen bethau anghofiedig y byd, ac yn cael cwmni’r llipryn pen moel ‘Bob’ (Tom Sturridege). Mae’r hen ‘Dubrow’ crintachlyd yn flin iawn ei fyd, am ei fod wedi gwerthu hen ddarn o arian yr ‘american buffalo’ i gwsmer, am lawer llai o arian na’i werth masnachol, ac mae’r dihiryn yn benderfynol o ddwyn y darn arian yn ôl. I mewn i’r potes, daw’r arch-ddihiryn pengoch ‘Teach’ (Damian Lewis) yn ei siwt biws swel a’i sideburns blewog, ac o glywed am y cynllun i ddwyn yn ôl y darn arian, (a chyfle ‘hawdd’ am geiniog neu ddwy o elw iddo fo’i hun) mae’n llwyddo i berswadio ‘Dubrow’ mai ef yw’r dyn addas i’w gynorthwyo, ac nid ‘Bob’ druan.


Gogoniant y cynhyrchiad heb os ydi dyfnder y berthynas pell-ac-agos, gymhleth a chwbl chwareus rhwng y tri dihiryn yma. Perthynas sy’n gwneud i ni fel cynulleidfa gydymdeimlo gyda’r drwgweithredwyr anifeilaidd hyn. Mae gwylio'r ddau enw ‘mawr’ o fyd y ffilmiau a theledu Lewis a Goodman yn trin a thrafod dialog cyhyrog ac amrwd Mamet yn werth ei weld, a’r brwydrau o dan yr wyneb sy’n bwysig, ac sy’n cael eu cyfleu’n wych gan amrywiaeth cyfarwyddo manwl, Daniel Evans. Mae’r tri actor yn portreadu ac yn byw angst eu cymeriadau o’u hymddangosiad cyntaf ar y llwyfan. Poen meddwl diniwed (ta cyfrwys?) ‘Bob’, hyder (ta gwiriondeb?) ‘Teach’, aeddfedrwydd (ta gwendid?) ‘Dubrow’. Dyfnderoedd di-ben-draw wrth i’r dihirod ddawnsio ar y dibyn.

O wybod arch y stori wan, ac i ba gyfeiriad mae’r gwch yn hwylio, roeddwn yn gallu ymlacio a gwerthfawrogi ymgais y tri i gael y cwch i’r dŵr a’i chadw’r cyfan rhag suddo. Dwi’m yn meddwl fod pob aelod o’r gynulleidfa wedi llwyr werthfawrogi’r dyfnder di-bendraw ym mhorteradau’r tri, ac oherwydd prinder a gwendid y prif stori iddynt, mae’r rhegfeydd a’r iaith liwgar yn merwino’r glust. Clywais un cwpl oedrannus yn yr egwyl yn datgan yn dalog ‘Wel, mae bobol y Wasg ‘ma yn dwli ar y math yma o beth!’


Wel, yn sicr iawn, dwli wnes i, gan ddiolch unwaith eto i Daniel am adfer fy ffydd yn yr hen gelfyddyd annwyl hon.

Mae American Buffalo i’w weld yn y Wyndham’s tan 27ain o Fehefin. Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy ymweld â’r wefan www.AmericanBuffaloThePlay.com neu ar y trydar @AmBuffaloPlay

 Gyda llaw, mae’n neis bod nôl! Dwi di ildio i’r gofyn a’r crefu am ‘farn onest’ felly dwi’n edrych ymlaen i fedru gweld yr amrywiaeth o waith ar hyd ac ar lled y wlad (ac nid dim ond yng Nghymru!)

No comments: