Total Pageviews

Friday 22 May 2015

'To Kill A Machine'


Weithia, mae 'na bortread ar lwyfan sy’n eich cynhyrfu neu’ch cyffwrdd ac yn mynnu aros yn y co’. Dyma’r eildro i mi gael y profiad prin hwnnw yng nghwmni’r actor Gwydion Rhys. Y tro cyntaf o dan gyfarwyddyd medrus Lee Haven-Jones yn ‘Tir Sir Gâr’ a’r tro hwn yng nghyd-gynhyrchiad Scriptography ac Arad Goch, yn Theatr yr Arcola yma yn Llundain.

‘To Kill A Machine’ o waith y darlithydd o Adran y Gyfraith Aberystwyth, Catrin Fflur Huws  oedd dan sylw, sef hanes trasig yr athrylith Alan Turing (Gwydion Rhys). Mae ei stori yn wybyddus i lawer yn sgil y ffilm diweddar ‘The Imitation Game’, ond yr is-stori sy’n cael ei archwilio y tro yma, sef perthynas gariadus Turing gyda’i frawd a’i ffrind coleg ‘Christopher’ (Francois Pandolfo), a’r llanc penfelyn pedwar-ar-bymtheg oed, ‘Alfred’ (Rick Yale).  Robert Harper yw’r olaf o’r pedwarawd soniarus hwn.



Mae’r rhaglen chwaethus ddwyieithog sy’n cyd-fynd â’r cynhyrchiad yn gyforiog o gyfeiriadaeth a dadansoddiad o’r sgript. Gormod o bwdin, efallai, gan mai’r sgript a set gaeth Cordelia Ashwell oedd dau o hualau’r cynhyrchiad imi.  Mae’n amlwg fod cryn ddatblygu wedi bod ar y gwaith  a gall hynny fod yn wendid weithiau, gan or-gymhlethu’r gwir stori syml bwerus. Stori i ddau sydd yma yn y bôn, a byddai tri actor ar y mwyaf wedi bod yn fwy na digon i’n tywys ar y daith.  Ceisiwyd efelychu’r sioe ‘Cabaret’ drwy gynnwys golygfeydd swreal rhwng swyn y brif stori – golygfeydd diangen (ac eitha’ plentynnaidd) o’r cwis ‘The Imitation Game’ i or-danlinellu’r gwahaniaeth rhwng y meddwl dynol a’r cyfrifiadurol. Golygfeydd a dorrodd ar rediad llyfn y cyfanwaith, oedd yn anheg iawn ar lwybr storiol y cymeriadau. Adlais hefyd o ddrama Harper Lee yn nheitl y gwaith, sy’n ennyn cydymdeimlad tuag at ysglyfaeth y stori.  A bod yn deg â’r dramodydd, roedd yma ddialog da ac ymgais wych i wahaniaethu rhwng y ddau feddwl, ond fe’m gadawyd yn teimlo bod yma ddwy ddrama gwbl wahanol yn cwffio ar y llwyfan, a’r un emosiynol, bersonol roeddwn i am ei weld.

Cryfder y gwaith (ar ôl gweld y ffilm gyda Benedict Cumberbatch yn y brif ran) oedd yr ochor guddiedig a chysgodol o fywyd Turing, nas dilynwyd ar y sgrin.  Hoffwn fod wedi gweld llawer mwy o ddyfnder yma (llai o ddadansoddi yn y rhaglen a mwy o balu ar bapur efallai?) Yn anffodus, cefais fy atgoffa dro ar ôl tro o sawl golygfa (a geiriau) o’r ffilm, sy’n peri inni gymharu’r ddwy, gan droi’r cynhyrchiad yn efaill druenus dlawd. Petai’r ffilm heb ei rhyddhau cyn y ddrama, efallai y byddai’r canlyniad yn fwy pwerus.



Rwy’n dipyn o ffan o waith cyfarwyddo Angharad Lee, ac roedd gwylio ei gwaith corfforol o roi llun i’r llais a dawns i’r deud yng nghynhyrchiad Arad Goch o ‘SXTIO’ (fydd i’w weld yng Nghaeredin eleni) yn wledd weledol. Gwledd oedd yn absennol y tro hwn, oherwydd hualau’r set a phrinder lle yng ngofod yr Arcola.  Tybed oes posib dileu’r set yn gyfan gwbl, a chyflwyno’r stori gyda dim ond un neu ddwy fainc bren? Llawer tecach i’r actorion a mwy effeithiol na’r goeden lawn llanast tila.

Mae’n amlwg fod portread brydferth-fregus Gwydion Rhys wedi’i elwa o ddyfnder y datblygu, ac yn rhagori imi ar Mr Cumberbatch yn y ffilm. Fyddai’n ddig iawn os na welwn ni ei waith caled yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Theatr Cymru eleni.  Yr un modd gyda’r tri aelod arall sy’n cwblhau’r cast cadarn hwn.


Ymgais galonogol iawn a phortreadau o safon uchel. Cynhyrchiad sy’n dangos talent actio Cymru, ar ei orau. Llongyfarchiadau mawr i’r actorion.

Bydd ‘To Kill a Machine’ i’w weld yn Theatr Hafren, Y Drenewydd heno (22ain o Fai) ac yn yr ŵyl ffrinj yng Nghaeredin fis Awst. Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.tokillamachine.co.uk




No comments: