Total Pageviews

Friday 24 July 2015

'Alpha Beta'

Y Cymro  24/07/15

Tybed faint ohonoch sy’n cofio John Ogwen a Maureen Rhys yn portreadu’r gŵr a’r wraig wrthryfelgar yng nghyfieithiad Gwenlyn Parry o ddrama Ted Whitehead, ‘Alpha Beta’? Yn y Royal Court ym 1972 y llwyfannwyd y gwreiddiol dadleuol a phrin iawn iawn bu’r cynyrchiadau ohoni wedi hynny. Diolch byth am y perl o theatr fechan y Finborough sy’n enwog am ail-lwyfannu’r clasuron coll yma, sy’n llyfrgell werthfawr o lenyddiaeth y llwyfan.


Hawlfraint Archifdy Gwynedd / Theatr Cymru
Frank a Norma Elliot yw’r cwpl priod sy’n amlwg yn cael anhawster mawr i fyw gyda’i gilydd ac wedyn ar wahan. ‘Cignoeth’ a ‘chreulon’ oedd yn poenydio fy sylw drwy gydol y tair act, wrth i’r ddrama geisio adlewyrchu onestrwydd neu ffug barchusrwydd y briodas draddodiadol. 

Wrth gamu dros drothwy’r theatr 60 sedd sy’n hen gyfarwydd imi bellach, cefais sioc bleserus iawn o weld goruwch ystafell y dafarn fechan wedi’i weddnewid i fod yn fflat foethus, fodern, wen a chlinigol Mr a Mrs Elliot. Roedd hi’n amlwg fod cynhyrchiad Purni Morell am ein gwahodd i ganol bywyd a gwrthdaro’r ddau. Cawsom ein hannog i eistedd ble y mynnem, a’r dewis helaeth yn cynnwys soffa foethus lwyd, bwrdd bwyd a chadeiriau modern, meinciau pren gwladaidd (ffug modern!) neu ar riniog y ffenest  lydan. O’n cwmpas roedd amrywiaeth o lampau cyfoes o bob lliw a llun, a golau naturiol yn ffrydio drwy ffenestri niwlog y gofod. A bod yn gwbl onest efo chi, faswn i wedi medru mudo’n hawdd iawn i’r hafan fodern glyd, nepell o fonedd Chelsea!


Pan ddychwel Frank (Christian Roe) adref ar gychwyn y ddrama, mae’n amlwg o’i osgo a’i ymddygiad bod coelcerth o dân gwyllt yn mudlosgi oddi mewn. Felly hefyd gyda’i wraig Norma (Tracy Ifeachor) sydd wrthi’n brysur yn gwyngalchu’r muriau’r ‘cartref’. Dro ar ôl tro, roeddwn yn gwingo dan orthrwm y gŵr ac yna yn cael fy ngwylltio gan boen meddwl y wraig. Carchar o gariad creulon sy’n  bwlio’r gynulleidfa i ochri gyda’r naill neu’r llall, dro ar ôl tro. 


Er nad oeddwn wedi camu i run theatr (nac yn wir wedi gadael y groth!) pan lwyfannwyd y gwreiddiol, mae’r ddrama’n parhau i fod yn astudiaeth greulon (neu rhy onest efallai?) o’r stad briodasol. Yr hunanoldeb materol o fethu byw arwahan, (morgais, plant, cartref a char) ac eto'r angen ysbrydol a chorfforol am ryddid rhywiol, llonyddwch ac asbri hwyl!  Deunydd deugain mlynedd oed  sy’n dal yn gyfoes yn yr oes hon o ysgariad neu’r ‘open relationships’ bondigrybwyll sy’n bla ymysg cyplau ifanc, wedi’u dal yn y Wê o ddewis dyddiol.


Diddorol oedd darllen am brofiad John Ogwen yn Aberystwyth gyda’r ddrama ”…o’r dechrau teimlai’r ddau ohonom (a thrafodwyd hyn yn ystod yr egwyl gyntaf) fod y gynulleidfa’n ochri gormod gyda’r gŵr ffraeth miniog ei dafod, a rhywsut ddim eisiau gweld safbwynt y wraig. O ddechrau’r ail act, gan ddefnyddio’r un ddeialog, wrth reswm pawb, rhoddais fwy o gasineb yn y dweud. Teimlodd y ddau ohonom y gynulleidfa’n dechrau newid a’r syniad yn tyfu yn eu plith fod bai mawr o’r ddwy ochr am y tor-priodas yn y ddrama”.

Drwy gydol y tair act – sy’n cael ei lifo’n un cyfanwaith 90 munud yma, cefais fy nhynnu o un ochr i’r llall gan gyfarwyddo ac actio medrus y cwmni.  Ai salwch meddwl y wraig oedd i’w feio ta brynti’r gŵr? Ai brynti blacmel y wraig sy’n carcharu rhyddid y gŵr? Cyfoeth o haenau diddiwedd y nionyn, sy’n siŵr o dynnu dagrau. Gwych iawn.


Yn anffodus, mae’r cynhyrchiad wedi dod i ben erbyn hyn. Tybed ydi hi’n bryd am ail-lwyfaniad o’r gwreiddiol Gymraeg…? Neu o leia cael gweld John a Maureen ar lwyfan eto…?!

No comments: