Total Pageviews

Friday 10 July 2015

'The Curious Incident of the Dog in the Night time' & 'Death of a Salesman'

Y Cymro 10/07/15

Y tro dwetha imi weld Siôn Daniel Young (yn ei drôns) ar lwyfan oedd yng nghynhyrchiad gwreiddiol Sherman Cymru o ddrama Dafydd James, ‘Llwyth’. Siôn oedd yn portreadu’r llanc ifanc hoyw bymtheg oed, ac yntau bryd hynny, eisoes ar ei ail flwyddyn yn Academi Frenhinol yr Alban.  Erbyn hyn, mae Siôn yn serennu yng nghynhyrchiad gwych y National Theatre o ‘The Curious Incident of the Dog in the Nighttime’ . 


Christopher, llanc awtistig pymtheg oed (unwaith eto) yw prif gymeriad y stori hudolus hon, a hanes ei frwydr meddyliol, corfforol a dyddiol yw’r addasiad yma o nofel wych Mark Haddon.  Er imi gael y cyfle i weld y cynhyrchiad gwreiddiol nôl yn 2013, gyda Luke Treadway yn cipio sawl gwobr fel actor gorau’r cynhyrchiad, roedd portread Siôn o’r bachgen bregus gystal os nad gwell.

Fyddwn i wir yn annog unrhyw un sy’n caru’r THEATR i weld y cynhyrchiad. Dyma, imi, ydi enghraifft wych o gyd-weithio theatrig yn ei holl ogoniant, o’r set i’r sain, y goleuo i’w goreograffi, y cyfarwyddo a’r cyfanwaith, i gyd yn blethiad llwyddiannus o weledigaeth theatrig ar ei orau.  Y prawf gorau o hynny oedd ymateb fy nghyd-gydymaith ar yr ymweld yma â Theatr y Gielgud yn Llundain. Er nad yn fynychydd cyson o’r theatr, roedd ei holl sylw a syfrdan ar swyn y cynhyrchiad a diwedd yr act gyntaf yn ennyn yr ymateb gorau posib i wychder theatr byw.


Yn yr Oes anodd yma ble mae salwch meddwl i bob oed ar gynnydd, mae hon yn stori a neges bwysig ynglŷn â’n gweledigaeth a’n dealltwriaeth ni o’r byd a’n cyd-destun ynddo. Roedd y chwys a’r dagrau ar gorff Siôn yn brawf amlwg o’i daith feddyliol a chorfforol, wrth gyflawni'r holl weithredoedd a symudiadau ar y llwyfan o’n blaen.

Mae gyrfa Siôn, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, eisoes ar garlam, wedi portreadu’r prif gymeriad Albert yn nghynhyrchiad y National Theatre o ‘War Horse’ ac hefyd wedi bod yn rhan o sawl cynhyrchiad gyda National Theatre Wales.


Braf hefyd oedd gweld mai Cymro o Bontypŵl, Matthew Trevannion oedd un o’i gyd-actorion.  Mae Matthew hefyd yn ddramodydd a cafodd ei ddrama gyntaf ‘Bruised’ ei lwyfannu gan Clwyd Theatr Cymru  ddwy flynedd yn ôl a ‘Leviathan’ gan Sherman Cymru eleni.

Dau actor ifanc sydd â gyrfaoedd disglair iawn ar lwyfannau’r wlad.



Cyn cloi, rhaid imi sôn am gynhyrchiad gwych yr RSC o ddrama ‘fawr’ Arthur Miller, ‘Death of a Salesman’. Dwi di sôn dros y blynyddoedd am bwysigrwydd ceisio gweld cynhyrchiad safonol a chadarn o’r dramâu mawr yma, er mwyn i’r cynhyrchiad ar y llwyfan ddod â’r cymeriadau a’r geiriau marw ar bapur yn fyw. Ar lwyfan ac nid mewn llyfrgell mae cartref POB drama, ac os nad ydi gweledigaeth y cyfarwyddwr neu bortreadau’r actorion yn tanio’r tân gwyllt, tydi gwir effaith y wledd o goelcerth ddim i’w weld.


O gamau llusgedig a blinedig cyntaf Anthony Sher ar y llwyfan, mae’r truan ‘Wille Loman’ yn fyw o flaen ein llygaid, felly hefyd ei wraig druenus a hir-ddioddefus ‘Linda’ (Harriet Walter). Dau bortread pwerus o’r rhieni sy’n cael eu mawrygu gan ffrwydradau ffantastig eu meibion ‘Biff’ (Alex Hassell) a ‘Happy’ (Sam Marks). 

Gyda llaw, os yn ffan o waith Miller, mae’n rhaid ichi wylio’r wledd o gynhyrchiad o’i ddrama ‘All My Sons’ gyda David Suchett a Zoë Wannamaker sydd ar gael dros y wê am £3.99 drwy ymweld â www.digitaltheatre.com



Dau gyfanwaith o gynhyrchiad sy’n werth eu gweld. Beth am benwythnos yn Llundain i brofi’r wefr?  Mae ‘Curious Incident’ i’w weld yn Theatr Gielgud a ‘Death of a Salesman’ yn y Noël Coward tan y 18fed o Orffennaf.


No comments: